Undeb Rygbi Cymru i dorri hyd at 20 o swyddi

- Cyhoeddwyd
Bydd hyd at 20 o swyddi yn cael eu torri gan Undeb Rygbi Cymru fel rhan o ymdrech i arbed hyd at £5m y flwyddyn.
Dywedodd URC y byddai'r ailstrwythuro yn eu caniatáu i weithredu "mewn modd fyddai rhywun yn disgwyl i fusnes £100m y flwyddyn weithredu".
Mae'r prif weithredwr, Abi Tierney, wedi datgelu bod yr undeb wedi gwario £50,000 ar flodau ffres bob blwyddyn ar gyfer addurno seddi arbennig yn Stadiwm Principality, ac wedi gorwario o 20% ar gyllideb Cwpan Rygbi'r Byd 2023.
Byddai'r "rhaglen drawsnewidiol," meddai'r undeb, yn golygu gwneud arbedion o fewn y busnes ac maen nhw wedi dechrau at gyfnod ymgynghori swyddogol gydag aelodau staff.
Daw'r cyhoeddiad ar ôl i URC gytuno i berchnogi Rygbi Caerdydd ar ôl i'r clwb gael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr yn gynharach yr wythnos hon.
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd20 Mawrth
Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd yr undeb fod "llai nag 20" o swyddi mewn peryg o gael eu colli.
Dywedodd Prif Weithredwr URC, Abi Tierney: "Mae'r oll rydyn ni'n ei wneud yn cael ei wneud gyda'r nod o wella rygbi yng Nghymru i bawb.
"Haf diwethaf fe wnaethon ni gadarnhau ein llwybr strategol a lle yr oedden ni'n gobeithio bod erbyn 2029, ac fe fyddwn ni nawr yn rhannu rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut allwn ni gyflawni hynny."

Nod y newidiadau yw creu sefydliad "proffesiynol, ffwythiannol ac addas i'r pwrpas," yn ôl Abi Tierney
Er i'r gêm droi'n broffesiynol ym 1995, mae Ms Tierney yn awgrymu y bydd 2025 yn cael ei gofio fel "y foment wnaeth Cymru gwblhau'r trawsnewidiad i fod yn sefydliad proffesiynol, ffwythiannol ac addas i'r pwrpas".
Dywedodd URC eu bod nhw'n disgwyl i fyrddau rheoli'r pedwar rhanbarth gymeradwyo Cytundeb Rygbi Proffesiynol newydd yn y dyfodol agos.
Y gred yw y byddai'r cytundeb yn gweld rhagor o gydweithio rhwng yr undeb a'r clybiau, yn ogystal â chynnig arian ychwanegol i Gaerdydd, y Dreigiau, y Gweilch a'r Scarlets.
Fe fydd tîm rheoli llai o faint hefyd yn cynnwys prif swyddog twf, tra bod disgwyl cadarnhad o bwy fydd y cyfarwyddwr perfformiad elit yn fuan hefyd.
'Gwario £50,000 ar flodau bob blwyddyn'
Mewn cyfweliad gyda phodlediad Scrum V, dywedodd Ms Tierney fod y ffordd yr oedd URC wedi ei strwythuro yn "syndod" iddi pan ddechreuodd hi yn ei swydd.
Roedd yna "ddiffyg data yn arwain y ffordd yr oedd pobl yn gwneud penderfyniadau" a "doedd 'na ddim cyllidebau clir gan bobl... dim hunan-feirniadaeth a gosod amcanion," meddai.
"Roedd 'na nifer o bethau y byddwn i yn eu hystyried fel pethau sylfaenol ar gyfer y math yma o fusnes, ar goll yn llwyr."
Fe wnaeth Ms Tierney grybwyll un enghraifft o wariant "anhygoel", wrth esbonio fod yr undeb yn gwario £50,000 ar flodau ffres bob blwyddyn ar gyfer addurno seddi arbennig yn Stadiwm Principality.

Roedd URC wedi gorwario o 20% ar gyllideb Cwpan Rygbi'r Byd 2023, medd Abi Tierney
"Dydi hynny ddim yn gwneud i'r tîm cenedlaethol berfformio yn well ar y cae. Dydi hynny ddim yn annog mwy i chwarae'r gêm ar lawr gwlad," meddai.
"Dwi'n meddwl os ydych chi'n gwneud yn dda iawn, yn tyfu, ac mae'r refeniw yn uchel - yna mae'n iawn gwneud i'r seddi yno edrych yn neis.
"Ond un o'r pethau 'da ni wedi gorfod ei wneud eleni, yw blaenoriaethu'r pethau sydd am wella'r perfformiad ar y cae, a'r pethau sydd am gael mwy yn ymwneud a'r gêm ar lefel gymunedol. Os dydyn nhw ddim yn gwneud hynny, yna 'da ni am edrych yn ofalus iawn ar y pethau hynny."
'Gorwario aruthrol'
Roedd enghreifftiau eraill o orwario yn URC yn cynnwys mynd 20% dros y gyllideb ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2023.
Dywedodd Ms Tierney fod yr undeb wedi "gorwario'n aruthrol" ar ymgyrch Cwpan y Byd.
"Roedd hynny oherwydd nad oedd sgwrs ymlaen llaw oedd yn dweud, 'beth yw'r gyllideb a beth sydd wir yn mynd i wneud y gwahaniaeth?'.
"Felly nawr rydyn ni'n gweithio'n agos iawn gyda'r tîm, rydyn ni'n edrych ar y gyllideb yn fisol, rydyn ni'n edrych ar gyllideb cyn ymgyrch," meddai.
Roedd y tîm gweithredol symlach newydd, gan gynnwys y prif swyddog gweithredu Leighton Davies, wedi "gwneud gwaith gwych" yn nodi problemau gyda'r cyllidebau a gweithredu rheolaethau costau, meddai Ms Tierney.
'Peidio gwario y tu hwnt i'n gallu'
Ychwanegodd Ms Tierney fod y newidiadau yn rhan o strategaeth 'Un Cymru' - sydd â'r nod o sicrhau sylfaen ariannol cadarn i'r gêm broffesiynol.
"Mae peidio gwario y tu hwnt i'n gallu yn ganolog i'n cynlluniau, a bydd hynny'n golygu bod modd i ni fuddsoddi yn yr elfennau allweddol sy'n cyfrannu at ffyniant rygbi.
"Dyma sydd wedi arwain at yr ailstrwythuro o fewn yr undeb sydd wedi cael ei gyhoeddi ddydd Iau.
"Yn ogystal, fe fyddwn ni'n buddsoddi mwy mewn meysydd allweddol fydd yn galluogi i ni dyfu, wrth i ni gwblhau'r rhaglen drawsnewid.
"Ond yn anffodus, fel rhan o hynny, fe fydd nifer fach o swyddi yn cael eu torri."