Marwolaeth Pwllheli ddim yn amheus, meddai'r heddlu
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu’r Gogledd wedi cadarnhau nad ydy marwolaeth dyn ym Mhwllheli yn cael ei thrin fel un amheus erbyn hyn.
Dywedodd yr heddlu mewn datganiad fod y dyn - oedd yn lleol i'r ardal - wedi marw brynhawn Sadwrn, 9 Tachwedd.
Mae teulu'r dyn yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Cafodd dyn lleol arall ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ond mae ef bellach wedi ei ryddhau.
Mae’r llu wedi diolch i’r gymuned am eu hamynedd a'u dealltwriaeth wrth iddyn nhw gynnal ymholiadau yn yr ardal.