'Anhapus' eithrio'r Brenin rhag erlyniad amgylcheddol

Brenin CharlesFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gytuno i eithrio’r Brenin rhag cael ei erlyn am droseddau amaethyddol, er i brif gyfreithiwr y llywodraeth ddweud ei fod yn anfodlon â’r penderfyniad.

Gofynnodd Palas Buckingham i’r llywodraeth sicrhau y byddai imiwnedd i’r Goron o dan gyfraith newydd.

Mae ‘na gonfensiwn hirsefydlog sy’n dweud bod yn rhaid i Seneddau Prydain gael caniatâd brenhinol cyn deddfu mewn ffyrdd a allai effeithio’r Goron.

Dywedodd y palas nad oedd y llywodraeth wedi datgan gwrthwynebiad i’r broses o gwbl.

Anhapus ond cydnabod confensiwn

Mae ymchwiliad gan y Guardian wedi datgelu bod swyddogion y palas wedi ffonio’r llywodraeth tra eu bod nhw’n llunio deddf i osod rheolau newydd ar y diwydiant amaeth.

Mewn ebost a anfonwyd ym mis Mehefin 2023, mae gwas sifil o’r llywodraeth yn dweud bod y palas wedi gofyn am sicrwydd y byddai gweinidogion yn dilyn y confensiwn cyfansoddiadol yn erbyn erlyn y Goron.

Mewn ateb y diwrnod canlynol, mae swyddog yn dweud nad oedd y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw – yr aelod o’r cabinet sy’n gyfrifol am gyngor cyfreithiol y llywodraeth yn “hapus gyda’r eithriad”, ond ei fod yn cydnabod y confensiwn ac yn cytuno iddo.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan y Brenin gartref preifat yn Sir Gaerfyrddin tan 2023

Dyw hi ddim yn anarferol i lywodraethau ym Mhrydain ofyn am ganiatâd gan y Brenin tra eu bod nhw’n paratoi deddfwriaeth newydd.

Mae hynny’n wahanol i’r broses o Gydsyniad Brenhinol, lle mae’r Goron yn gorfod rhoi sêl bendith i gyfreithiau newydd.

'Dim pwysau'

Mewn datganiad, fe ddywedodd Palas Buckingham bod 'na gyfraith yn rhwystro Senedd Cymru rhag creu cyfreithiau a allai arwain at y Brenin yn wynebu achosion troseddol.

O ganlyniad, fe gysyllton nhw gyda’r llywodraeth yng Nghaerdydd i sicrhau y byddai’r rheol yn cael ei pharchu fel rhan o Ddeddf Amaethyddol 2023.

Mae’r ddeddf yn disodli nifer o reolau amaethyddol roedd yn rhaid i ffermwyr eu dilyn tra roedd Prydain yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

Fe wnaeth llefarydd ar ran y palas gadarnhau bod swyddogion wedi ffonio’r llywodraeth, ond dywedodd ei bod hi’n “hollol anghywir i awgrymu bod hynny’n rhoi Llywodraeth Cymru dan bwysau”.

Dywedodd: “Ni chodwyd unrhyw wrthwynebiadau ar unrhyw adeg gan Lywodraeth Cymru, naill ai’n ffurfiol nac yn anffurfiol, mewn perthynas â’r broses hon.

“Rhoddwyd caniatâd yn y ffordd arferol, yn ogystal â'r Cydsyniad Brenhinol.”

Ychwanegodd bod y Brenin wedi rhoi ei ganiatâd bob tro y mae’r llywodraeth wedi gofyn amdano.

'Dim lle i arferion anacronistig'

Dywedodd yr Aelod Seneddol Plaid Cymru Liz Saville Roberts bod ganddi bryderon am yr achos.

“Does dim lle i’r fath arferion anacronistig yn nemocratiaeth fodern Cymru,” meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: “Mae imiwnedd y Brenin rhag erlyniad yn egwyddor sydd wedi’i hen sefydlu ac nid oes gennym ni ddim i’w ychwanegu at y wybodaeth rydyn ni eisoes wedi’i darparu.”

Does gan y Brenin ddim cartref preifat yng Nghymru bellach, ar ol iddo ildio’r brydles ar ystad Llwynywermod yn Sir Gaerfyrddin llynedd.

Pynciau cysylltiedig