Merch bump oed wedi marw'n 'ddamweiniol' mewn tân - cwest

Alysia SalisburyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Alysia Salisbury ei disgrifio gan ei theulu adeg ei marwolaeth fel "merch a chwaer hardd"

  • Cyhoeddwyd

Mae crwner wedi dod i'r casgliad mai damweiniol oedd marwolaeth merch bum mlwydd oed, a oedd "wedi ei chyfareddu" gan fflamau, mewn tân yn ei chartref.

Fe gafwyd hyd i gorff Alysia Salisbury yn ystafell wely ei chwaer wedi i'r gwasanaethau brys gael eu galw i'r tŷ ym mhentref Pontyglasier, ger Crymych, Sir Benfro fis Mai y llynedd.

Clywodd cwest bod Alysia yn blentyn awtistig "nad oedd yn llwyr ddeall peryglon matsis a thanwyr".

Dywedod yr Uwch Grwner Dros Dro, Paul Bennett mai achos mwyaf tebygol y tân oedd cysylltiad rhwng fflam noeth a deunydd llosgadwy yn sgil defnyddio taniwr.

Fe gydymdeimlodd â'i theulu yn sgil eu "colled trist".

Dywedodd ei mam, Tara Salisbury, y bydd colled enfawr ar ei hôl.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r tŷ tua 22:00 nos Sadwrn 27 Mai 2023

Clywodd y cwest bod y teulu o bump wedi mynd i'r gwely pan seiniodd y larwm tân am tua 21:40.

Roedd mam Alysia yn credu i ddechrau bod hynny oherwydd bod un o'i phlant eraill newydd fod yn defnyddio'r popty yn y gegin.

Ond yna fe welodd ei phlentyn hynaf fwg yn dod o dan ddrws yr ystafell wely.

Roedd Alysia yn sgrechian, ond roedd Ms Salisbury wedi meddwl yn wreiddiol bod hynny mewn ymateb i sŵn uchel y larwm.

Ond pan aeth gyda'i chymar, Joshua, i agor y drws fe welson nhw bod yna dân yna, a bod y fflamau'n symud ar hyd y nenfwd ac i fyny'r grisiau.

Wrth iddyn nhw a'r plant eraill adael y tŷ, fe graciodd gwydr y ffenestr.

Fe gyrhaeddodd griwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru am 21:53. Daethpwyd o hyd i gorff Alysia am 01:05.

'Chwilfrydedd ynghylch lliw a symudiad y fflamau'

Yn ei dystiolaeth i'r cwest, dywedodd y swyddog tân Jason Woodman fod desg bren yn yr ystafell wely yn wenfflam pan agorodd mam Alysia a'i chymar y drws.

Roedd hynny, meddai, yn "arwydd da mai'r rhan yna o'r ystafell oedd man cychwyn y tân". Ychwanegodd fod yna ganhwyllau persawrus ar y ddesg.

Roedd yna daniwr mewn drôr yn yr ystafell, ac roedd Ms Salisbury wedi cadarnhau i'r gwasanaeth tân bod Alysia â'r gallu i'w ddefnyddio, a'i bod "wedi cyfareddu" ag unrhyw beth synhwyraidd, gan gynnwys tân.

Clywodd y cwest bod y teulu'n cadw taniwr dan glo yn y tŷ ond ei fod wedi cael ei symud i ddrôr yn ystafell wely ei chwaer.

Roedd ganddi, medd y crwner, "chwilfrydedd ynghylch lliw a symudiad y fflamau".

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

"Merch a chwaer hardd" - disgrifiad teulu Alysia ohoni adeg ei marwolaeth yn 2023

Daeth y crwner i'r casgliad bod y farwolaeth yn ddamweiniol ac "yn ganlyniad anfwriadol i weithred bwriadol".

Doedd dim awgrym o weithred gan drydydd parti neu unrhyw "anfadwaith".

Dywedodd: "Ni allaf ddychmygu'r arswyd oedd yn wynebu Tara a Josh - yr anobaith a'r trallod y mae'r teulu wedi gorfod eu dioddef bryd hynny a nawr.

"Does dim amheuaeth bod y teulu yn ei cholli'n enbyd"

Trwy gysylltiad fideo, dywedodd Tara Salisbury: "Rydym yn ei cholli'n ofnadwy.

"Roedden ni'n ei charu'n fawr iawn, ac fe fydd yn cael ei cholli'n fawr am amser hir iawn."

Ychwanegodd y bu'n "anodd clywed" mwyafrif tystiolaeth y gwrandawiad.

Mewn ymateb i'r ffaith bod y teulu "wedi colli'r cyfan" o ganlyniad i'r tân, aeth y gymuned leol ati i godi miloedd o bunnoedd er mwyn eu cynorthwyo.

Pynciau cysylltiedig