Rhybudd i badlfyrddwyr sy'n mentro i'r môr dros ŵyl y banc
- Cyhoeddwyd
Mae padlfyrddwyr amatur yn cael eu hannog i fod yn ofalus os ydyn nhw’n mynd i’r dŵr dros benwythnos gŵyl y banc.
Fe ddaw’r rhybudd wrth i’r RNLI ddweud eu bod wedi achub degau o bobl oedd yn cymryd rhan mewn chwaraeon dŵr yn ne Cymru yn gynharach yn y mis.
Mae tua 600,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig yn padlfyrddio’n rheolaidd, yn ôl y sefydliad chwaraeon Stand Up Paddleboarding (SUP).
Yn ôl Osian Bowen o RNLI Porth Tywyn, mae "angen bod yn ymwybodol o'r peryglon sy'n gallu digwydd".
Mae Sarah Perkins o Gaerdydd wedi bod yn defnyddio padlfyrddau ers wyth mlynedd, ar ôl hwylfyrddio cyn hynny.
Mae hi wedi cystadlu mewn tair pencampwriaeth byd ac yn mynd i Copenhagen ym mis Medi i gystadlu'n rhyngwladol eto.
Dywedodd bod datblygu'r sgiliau hanfodol yn cymryd amser, gan ychwanegu ei bod hi wedi gweld nifer yn cael trafferth.
“Mae’n gamp hygyrch iawn ond dyw e ddim yn hawdd,” meddai.
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2024
Dywedodd: “Rwy’n gweld llawer o bobl allan a dydyn nhw ddim yn fedrus iawn a phetaen nhw ychydig bach yn fwy profiadol fe fydden nhw’n cael cymaint mwy o hwyl.”
Dywedodd ei bod wedi gweld pobl â byrddau y ffordd anghywir a rhaffau diogelwch, ddylai fod ar y coesau neu'r canol, o amgylch arddyrnau pobl.
Fe allai sgyrsiau gydag arbenigwyr neu achubwyr bywyd wneud gwahaniaeth mawr, ychwanegodd.
“Os nad ydych chi’n deall pa amodau afonydd sy’n beryglus, yna does gennych chi ddim syniad.”
Achub pedwar gafodd eu chwythu i'r môr
Bu'n rhaid achub oedolyn a thri phlentyn oddi ar arfordir Ynys Môn brynhawn Gwener wedi i ddau badlfwrdd gael eu chwythu o'r lan.
Roedd yr amodau'n "heriol" yn sgil Storm Lilian, yn ôl criw bad achub Moelfre, a gafodd eu galw i Draeth yr Ora yn ardal Dulas i gynorthwyo'r unigolion, wedi i rywun eu gweld mewn trafferthion a ffonio Gwylwyr y Glannau.
Dywedodd llywiwr y bad achub, Gaz Owen, nad dydd Gwener "oedd y diwrnod i fynd i badlfyrddio â'r gwynt oddi ar y môr mor gryf".
Ychwanegodd y gallai "hyd yn oed y defnyddwyr dŵr mwyaf profiadol fynd i drafferthion yn y fath amodau".
Pwysleisiodd bwysigrwydd cludo offer arnofio cyn mynd i'r môr a sicrhau bod modd i gysylltu ag eraill mewn argyfwng.
Mae Gareth Stevenson yn rhedeg Get Out On The Water, sy'n helpu i hyfforddi a hwyluso chwaraeon dŵr yn ne Cymru.
Dywedodd fod cyfyngiadau Covid a hygyrchedd offer wedi rhoi hwb i boblogrwydd padlfyrddio.
“Bu ffrwydrad mewn padlfyrddio yn ystod Covid a’r blynyddoedd hynny lle nad oeddem yn gallu teithio ac ati,” meddai.
“Dydyn ni ddim wedi ei weld mewn camp arall yn yr un ffordd, gan fynd o ddechreuwyr pur i fechgyn yn cystadlu ar lefelau rhyngwladol.”
'Yr un peth â cherdded mynydd'
Dywedodd fod padlfyrddio yn "weithgaredd gymdeithasol wych" ond dywedodd fod angen i bobl ddatblygu sgiliau craidd cyn mentro i'r dŵr.
"Y peth allweddol yw dysgu diogelwch. Darllenwch am yr amgylchedd, gwybod o le rydych chi'n padlo a bod â'r offer cywir gyda chi bob amser.
"Mae'r un peth â cherdded i fyny mynydd.
"Mae'n rhaid cael ffordd o gyfathrebu, rhoi gwybod i bobl ble rydych chi'n mynd a padlo gyda ffrindiau."
Y cyngor felly ydy i gael gwersi ac i baratoi.
Dywedodd Osian Bowen o RNLI Porth Tywyn: "Mae galwadau yn newid o alwad i alwad... yn enwedig amser yma'r flwyddyn gyda padlfyrddwyr yn mynd mewn i berygl.
"Y rhybudd yw 'mwynhewch eich hunain wrth gwrs, ond ar yr un pryd byddwch yn ymwybodol o'r peryglon sydd yn gallu digwydd'.
"Yn aml iawn ry'n ni'n ffeindio'n hunain yn mynd allan i achub pobl sydd wedi cael eu torri i ffwrdd ar y banciau, a'r peth cyntaf maen nhw'n dweud yw 'doedden ni ddim yn gwybod bod y llanw'n dod fewn mor gyflym'."