Arestio dau ar ôl i yrrwr tacsi gael ei drywanu yn Aberdaugleddau

AberdaugleddauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gyrrwr tacsi ei ymosod gyda nodwydd yn Aberdaugleddau nos Wener

  • Cyhoeddwyd

Mae dau berson wedi'u harestio ar ôl i yrrwr tacsi gael ei drywanu gyda nodwydd yn Aberdaugleddau nos Wener.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i ladrad ar ôl derbyn galwad toc wedi 19:30 gan y gyrrwr tacsi yn dweud ei fod wedi'i fygwth gyda chyllell a'i ymosod gyda nodwydd.

Aeth y gyrrwr tacsi i'r ysbyty am driniaeth.

Mae dyn 23 oed a dynes 35 oed wedi’u harestio ar amheuaeth o ladrata, ac maen nhw yn nalfa’r heddlu ar hyn o bryd.

Mae’n bosibl y bydd pobl sy’n byw yn yr ardal yn gweld presenoldeb heddlu cynyddol tra bod swyddogion yn ymchwilio i’r digwyddiad, meddai'r llu.

Pynciau cysylltiedig