'Dim problemau eang' gyda gangiau cam-drin plant

AnhysbysFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pleidleisiodd y Senedd i weinidogion ystyried ymchwiliad i gangiau sy'n meithrin perthynas amhriodol â phlant yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd

Mae heddluoedd wedi dweud nad oes "unrhyw broblemau eang" gyda gangiau sy'n meithrin perthynas amhriodol â phlant yng Nghymru, ond nad ydynt yn hunanfodlon ar y mater.

Dywedwyd hynny mewn gohebiaeth rhwng Llywodraeth Cymru a heddluoedd, a gafodd ei ryddhau yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am ymchwiliad annibynnol i gangiau cam-drin plant, ond pleidleisiwyd yn erbyn eu cynnig yn Senedd Cymru fis diwethaf.

Dywedodd eu harweinydd yn y Senedd, Darren Millar, ei bod yn bwysig cofio bod lluoedd heddlu wedi cynnig sicrwydd o'r fath yn y gorffennol, a bod hynny wedi'i ganfod yn "ffug".

Ar yr un diwrnod ag y cafodd cynnig y Ceidwadwyr ei drechu, pleidleisiodd aelodau o'r Senedd yn unfrydol o blaid galw ar weinidogion i ystyried ymchwiliad ar ôl i adolygiad o dystiolaeth yr heddlu gael ei gynnal.

Mae dogfennau yn dangos bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cysylltu â heddluoedd ar 6 Ionawr i ofyn a oedd ganddyn nhw unrhyw bryderon ynglŷn â gangiau yng Nghymru sy'n meithrin perthynas amhriodol â phlant.

Mae'n ymddangos bod yr ymatebion wedi'u cydlynu gan Heddlu De Cymru.

Maen nhw'n dweud iddyn nhw dderbyn "cadarnhad ffurfiol" gan Heddlu Dyfed-Powys nad oes ganddyn nhw "unrhyw grwpiau troseddol sy'n gysylltiedig â gangiau sy'n meithrin perthynas amhriodol â phlant".

Mae Heddlu Gwent yn dweud nad oes ganddyn nhw "unrhyw gangiau na phroblemau meithrin perthynas amhriodol yn hysbys o ran camfanteisio rhywiol".

Ond mae achos yn yr ardal yn ymwneud â phlentyn yn cael eu meithrin yn amhriodol ar gyfer camfanteisio troseddol, ac mae dau achos hanesyddol o gamfanteisio ar blant sy'n aros am benderfyniad gan Wasanaeth Erlyn y Goron.

Dywed Heddlu De Cymru nad oes "unrhyw broblemau eang" gyda gangiau sy'n meithrin perthynas amhriodol ar gyfer camfanteisio rhywiol".

Maen nhw'n ychwanegu: "Wedi dweud hynny nid yw plismona yng Nghymru yn hunanfodlon ac mae'n parhau i weithio gyda phartneriaid i adnabod materion o'r math hwn a gwneud yn siŵr bod plant bregus yn flaenoriaeth i bawb."

Mae'r dogfennau'n dangos bod Heddlu Gogledd Cymru yn ymwneud â "nifer fach iawn ond cymhleth o ymchwiliadau meithrin perthynas amhriodol".

'Cadw pobl ifanc yn ddiogel'

Wrth ymateb i'r wybodaeth dywedodd Darren Millar: "Mae'r heddlu wedi nodi'n glir rai 'materion' ynglŷn â gangiau yng Nghymru sy'n meithrin perthynas amhriodol â phlant.

"Mae'n bwysig bod y cyhoedd yn gwybod beth yw'r materion hyn a ble maen nhw'n digwydd er mwyn i ni allu cadw pobl ifanc yn ddiogel a dod â throseddwyr o flaen eu gwell."

Mae'r Ceidwadwyr yn dal i alw am ymchwiliad i Gymru.

Dydd Llun fe wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig feirniadu gweinidogion am beidio â rhyddhau manylion eu gohebiaeth gyda'r heddlu.

Mewn ymateb i bedwar cwestiwn ysgrifenedig gan Darren Millar, atebodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt: "Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n frwd gyda phartneriaid a rhanddeiliaid fel rhan o'n hymateb ar y cyd i'r mater hwn.

"Rydym yn cymryd diogelwch plant yng Nghymru o ddifrif ac yn cydnabod pwysigrwydd gweithio ar y cyd gyda phartneriaid yn y maes hwn.

"Byddwn yn parhau i ddarparu diweddariadau rheolaidd ar gynnydd."