Cofio'r Anglesey Strangers - y band roc o Fôn a allai fod wedi troi'n sêr

- Cyhoeddwyd
Yn ystod blynyddoedd cynnar y 1960au, roedd pobl ifanc ar draws Gogledd Cymru a Gogledd Lloegr yn gwirioni dros bedwar hogyn hirwalltog o Fae Cemaes a'u perfformiadau roc a rôl bywiog.
Yr Anglesey Strangers oedd enw'r band.
Yn perfformio mewn dawnsfeydd ar hyd y wlad, ac yn denu torfeydd o ddilynwyr brwd lle bynnag roedden nhw'n chwarae, roedden nhw'n ennill clod fel 'Rolling Stones Gogledd Cymru'.
Cafodd y band glyweliad gyda George Martin - cynhyrchydd y Beatles - ac fe recordion nhw sengl gyda Joe Meek, un o gynhyrchwyr mwyaf y 60au.
Yn ogystal, nhw oedd y band roc cyntaf i ganu yn y Gymraeg.
60 mlynedd yn ôl eleni, wnaeth y grŵp roi'r ffidil yn y to, yn dilyn cyfnod o anturiaethau roc a rôl anhygoel.
Roedd y band yn anelu am lwyddiant ar y siartiau pop - ond yn anffodus, roedd ffawd yn eu herbyn.
Tybed pwy sy'n cofio gweld yr Anglesey Strangers yn perfformio ar nosweithiau Sadwrn swnllyd yn Neuadd y Dref Llangefni, Neuadd Ddawns Benllech neu ym Mhafiliwn y Pier ym Mae Colwyn?
Dyma fwy o hanes y grŵp poblogaidd a allai fod wedi troi'n sêr.
'Ymarfer uwchben siop grosers'

Yr Anglesey Strangers ym Mae Cemaes yn 1964 - Gordon Humphreys, Andy Worrall, Eric Bentley a Bryn Jones (o'r chwith i'r dde)
Y pedwar aelod oedd Eric Bentley ar gitâr flaen, Andy Worral ar y drymiau, Gordon Humphreys ar gitâr fas a Bryn Jones yn canu ac yn chwarae gitâr rhythm.
Daeth yr hogiau'n ffrindiau da wrth dyfu fyny gyda'i gilydd yng Nghemaes. Roedd Gordon a Bryn yn siarad Cymraeg, yn ogystal â'u rheolwr, Elfed.
Mewn sgwrs gyda Cymru Fyw, dywedodd Bryn Jones, "Dyma fi ac Eric ac Andy yn dechra band ein hunain yn 1960 tra roedda ni'n yr ysgol, yn perfformio lot o stwff tebyg i Cliff Richard a'r Shadows.
"Ond ddaru petha newid pan welsom ni Dino and the Wildfires yn chwara - grŵp o Borthmadog. Ro'n ni wedi gwirioni efo'u sain nhw.
"Mi newidion ni'n steil wedyn – tyfu'n gwalltiau, a mynd mwy fel y Rolling Stones a'r Beatles, a gollwng y stwff offerynnol."
Fe ymunodd Gordon Humphreys ar gitâr fas yn 1962, ac fe ddechreuodd yr hogiau galw eu hunain yn The Strangers.
Ond bu rhaid iddyn nhw newid eu henw i'r Anglesey Strangers, ar ôl iddyn nhw ddarganfod fod band o'r enw The Strangers yn ardal Y Rhyl.
Meddai Bryn, "Roedd rhieni Andy (y drymiwr) yn berchen ar siop grosers yng Nghemaes ac mi o'n ni'n arfar ymarfer yn y stordy uwchben y siop.
"Dwn i'm beth oedd y cymdogion yn meddwl o'r holl sŵn!"
Dod â roc a rôl o'r Almaen yn ôl i Gemaes

Y band gefn llwyfan cyn perfformio - gyda'u rheolwr, Elfed Jones (chwith pellach)
Fe aeth y band o nerth i nerth, ac fe droeson nhw'n broffesiynol yn fuan wedyn, gydag Elfed, brawd hŷn Bryn yn eu rheoli.
Roedd Elfed wedi bod yn y fyddin ar gyfnod o wasanaeth cenedlaethol yng Ngorllewin Yr Almaen ar ddechrau'r 60au. Yno, fe gafodd fenthyg recordiau roc a rôl prin gan filwyr Americanaidd.
Roedd y caneuon hyn yn rhai doedd heb gael eu rhyddhau yn y Deyrnas Unedig, ac felly o ddiddordeb mawr i'r band.
Meddai Elfed, "Ar y military base swn i'n menthyg y records 'ma gan y GIs ac yn eu recordio nhw ar beiriant reel-to-reel, weithia' drwy'r nos - gannoedd ohonyn nhw!
"A wedyn yn dod â nhw adra' a mi ffeindish i bod yr hogia wedi cael gafael arnyn nhw."
Meddai Gordon Humphreys (basydd y Strangers), mewn cyfweliad yn y 90au:
"Mi oedda ni'n pigo caneuon allan o'r tapia 'ma, fatha I Walk the Line gan Johnny Cash, a dipyn o country music, a'u newid nhw wedyn.
"Odd gyda ni rwbath odd dipyn yn wahanol i bawb arall 'de."
Lemmy yn un o ffans cyntaf y grŵp

Lemmy, prif leisydd y band roc eiconig Mötorhead - a dreuliodd gyfnod o'i blentyndod ar Ynys Môn
Roedd Bryn ac Eric yn yr un dosbarth yn Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch, a bob diwedd tymor roedden nhw'n mynd â'u gitârs i mewn ac yn perfformio o flaen yr ysgol gyda'r band.
Un o'r rhai oedd yn gwylio nhw'n ofalus bryd hynny oedd neb llai na Ian Kilmister, a fyddai'n dod yn fyd-enwog fel Lemmy, arweinydd y band roc trwm Mötorhead.
Roedd Lemmy rhyw ddwy flynedd yn iau na hogiau'r Strangers yn Ysgol Syr Thomas Jones, ac yn byw yn y Benllech ar y pryd.
Roedd yn mynd i weld y band yn perfformio llawer, ac mi fyddai'n cydnabod fod yr Anglesey Strangers yn ddylanwad cynnar pwysig arno, gan ei ysbrydoli i ddechrau chwarae'r gitâr.
Perfformio ar draws Cymru a Lloegr

Yr Anglesey Strangers yn perfformio yn Payne's Café Royal yn Llandudno
Roedd y band yn teithio ar draws Gogledd Cymru a Gogledd Lloegr yn perfformio mewn clybiau a neuaddau dawns gorlawn bob wythnos.
Wnaeth yr Anglesey Strangers gefnogi artistiaid mawr y dydd fel Herman's Hermits, Gene Vincent, Screaming Lord Sutch a'r Swinging Blue Jeans.
Meddai Bryn, "Yn aml iawn mi oeddan ni'n mynd i lawr yn well na nhw!
"Mi oedd Neuadd y Dref Llangefni yn un o'r llefydd gorau i chwarae yr adeg honno.
"Mi fydda hi'n choc a bloc yno bob tro, a dwi'n cofio sbio drosodd ar y gynulleidfa a gweld môr o bobol yn symud efo'i gilydd i'r miwsig. Mi oedd o'n brofiad a hanner.
"Mi fuo ni'n chwarae yng nghlybiau'r Peppermint Lounge, The Iron Door a'r Blue Angel yn Lerpwl fwy nag unwaith, a bysus o'n ffans ni'n dod efo ni bob tro."
Cafodd y band gynnig i chwarae yn y Cavern Club hefyd, y clwb a ddaeth yn enwog fel man geni'r Beatles.
Fel yr esbonia Bryn, "Wnaeth y Cavern Club gysylltu gydag Elfed, a chynnig £9 am gig.
"Odda ni fel arfer yn cael £40 y gig – odd yn fis o gyflog bryd hynny!
"Felly nath Elfed ddweud wrtha nhw, stick it! Camgymeriad mawr..."
'Y genod yn mynd yn wirion'

Un sy'n cofio gweld yr Anglesey Strangers yn perfformio sawl tro yn y cyfnod ydy Hywel Gwynfryn.
"Dwi'n cofio mynd i Neuadd y Dre yn Llangefni bob nos Sadwrn, ac yn dawnsio i'r Anglesey Strangers", meddai.
"Roedd clywad y caneuon roc a rôl o America'n cael eu perfformio gan grŵp fel y Strangers yn gyffrous iawn.
"Dwi'n cofio cyn mynd i'r ddawns - y ddefod o roi Brylcreem yn 'y ngwallt... a gwisgo siwt las a winklepickers!
"Mi wnaeth y Strangers ysbrydoli llawer o bobl i ffurfio grŵpia eu hunain."
Un oedd yn trefnu nosweithiau byw ym Mhenrhyndeudraeth yn y 60au cynnar oedd Mici Plwm:
"Dwi'n cofio bwcio'r Anglesey Strangers sawl tro.
"Y munud oeddan nhw'n cerdded ar y llwyfan odd hi fatha tanio matsian."
Mae'r artist Wil Rowlands hefyd yn cofio gwylio'r Strangers yn chwarae sawl tro.
Meddai, "Mewn dawnsfeydd mi o'dd y genod yn mynd yn wirion drosta nhw. Ac ella'n ddistaw bach odd yr hogia 'fyd!"
Gwneud clyweliad i George Martin

Y Beatles gyda'u cynhyrchydd George Martin
Roedd 1964 yn flwyddyn fawr i'r Anglesey Strangers.
Aeth y band i Lundain ddwywaith y flwyddyn honno - y tro cyntaf i wneud clyweliad ar gyfer label EMI, a'r eildro i recordio sengl gyda Joe Meek, un o gynhyrchwyr mwyaf adnabyddus y 60au.
"Aethon ni i un o stiwdios EMI yn Llundain i wneud clyweliad ar gyfer George Martin (cynhyrchydd y Beatles)", meddai Bryn.
"A dwi'n cofio Stirling Moss (y gyrrwr Formula 1 enwog) yn dod i mewn tra o'n ni'n chwara' a'n cael gair efo George Martin!"
Yn ogystal, wnaeth y band berfformio'n fyw ar raglen deledu Gorwelion TWW gan ganu fersiwn Cymraeg o Bo Diddley.
Dyma oedd y tro cyntaf i fand roc canu yn Gymraeg - tair mlynedd cyn i'r Blew ffurfio - sydd yn aml yn cael eu henwi fel y band roc cyntaf i ganu'n Gymraeg.
Recordio gyda Joe Meek

Y cynhyrchydd arloesol Joe Meek (chwith) - gyda llun promo o'r Strangers uwch ei ben! Y llun hyrwyddo o 1964 ar y dde...
Cafodd y band eu gwrthod gan EMI, ond yn hwyrach yn 1964 wnaeth yr Anglesey Strangers ennill cystadleuaeth brwydr y bandiau yn Y Rhyl oedd wedi ei threfnu gan y cynhyrchydd Joe Meek.
Y wobr oedd cael mynd i Lundain i recordio sengl gyda'r cynhyrchydd enwog oedd eisoes wedi cael 4 sengl rif 1 gan gynnwys Telstar gan The Tornadoes - un o ganeuon enwocaf y 60au.
Cofia Bryn, "Wnaeth Eric a finna sgwennu cân o'r enw Suzanne., dolen allanol
"Ac fe aethom ni gyd i lawr i stiwdio Joe Meek ar Holloway Road yn Llundain. Odda ni wedi synnu bod y 'stiwdio' rili just yn fflat bach blêr gyda thair stafall ynddi uwchben siop lledr.
"Nath o roi Gordon yn y tŷ bach i chwara'r bas, a rhoi fi ac Eric tu ôl i sgrîns mawr, a rhoi Andy mewn stafell arall yn chwara'r dryms.
"Ac odd Joe ochr arall y fflat, tu ôl i sgrîn gyda'i ddesg mawr cynhyrchu yn ffidlo gyda hyn a'r llall.
"Ar un pwynt yn ystod y sesiwn, fe ddechreuon ni gyd chwerthin am ryw reswm neu'i gilydd, a just methu stopio chwerthin! Ac mi oedd Joe yn blydi gandryll efo ni!
"A daeth o allan o'r control room a dechra gweiddi arno ni, 'You're not taking this seriously!'"
Ffawd yn erbyn y Strangers

Bu farw Joe Meek o dan amgylchiadau trasig cyn i'r band allu rhyddhau eu sengl Suzanne - penderfynodd y band roi'r gorau iddi wedi hynny
"Aethon ni adra ar ôl y sesiwn recordio, a nathon ni aros, ac aros.
"A dyma Joe Meek yn sgwennu at Elfed (y rheolwr) yn dweud, 'I'm still trying to get the lads a recording contract, I'm doing my very best for you.'
"A'r peth nesa o'n ni'n gwbod oedd ei fod o wedi saethu ei hunan a'i landlady."
Bu farw Joe Meek, oedd yn dioddef salwch meddwl, ddim yn hir wedi'r sesiwn - o hunanladdiad ar ôl llofruddio'i wraig llety, Violet Shenton.
Roedd y cynhyrchydd annibynnol yn ceisio ennyn diddordeb yn sengl y Strangers, a bu farw cyn iddo allu ffeindio label i ryddhau Suzanne.
Yn dilyn y sesiwn recordio aflwyddiannus, penderfynodd yr Anglesey Strangers roi'r gitârs yn y to ym mis Ebrill 1965 - 60 mlynedd yn ôl eleni.
'Hwyl i gyd'

Albwm Goreuon Bryn Chamberlin, a ryddhawyd yn 2011 - gyda hen boster gig yr Anglesey Strangers y tu ôl iddo!
Ailffurfiodd y band sawl tro yn y 90au i chwarae gigs yn Llandudno ac ar Ynys Môn.
Cynhyrchwyd rhaglen ddogfen am y band i S4C yn 1997 gan y cyfarwyddwr Michael Bayley Hughes.
Mae Bryn Jones bellach yn 80 oed ac yn byw yn Llandudno, lle mae Eric Bentley hefyd yn byw.
Cafodd Bryn yrfa lwyddiannus fel perfformiwr unigol o'r 1980au ymlaen o dan yr enw Bryn Chamberlin. Rhyddhawyd casgliad o'i ganeuon, Goreuon, ar label Fflach yn 2011. Mae bellach wedi ymddeol o berfformio'n fyw.
Mae Elfed Jones, cyn-reolwr y band, yn 86 oed ac yn rhedeg siop fframio ym Mae Cemaes.
Bu farw Gordon Humphreys ac Andy Worrall - basydd a drymiwr y Strangers - yn ddiweddar.
Meddai Bryn am benderfyniad y grŵp i roi'r gorau iddi, "Mi oedda' ni di chwarae yn bobman, ac roeddan ni wedi cael digon i ddweud y gwir.
"Mi oedda ni'n siomedig efo beth ddaru digwydd efo Joe Meek, ac wedi colli'r uchelgais oedd gyda ni ar y cychwyn.
"Ond mi oedd o'n gyfnod hwyl - hwyl i gyd, o'r dechra tan y diwadd, i ddeud y gwir."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2021

Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Medi

