Agor cwest i farwolaeth dyn mewn tân ym Mhrestatyn

Y gwasanaethau brys yn ymateb i'r tân ym Mhrestatyn
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Stryd Fawr Prestatyn yn yr oriau mân ar 12 Awst

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi cael ei agor a'i ohirio yn achos dyn bu farw mewn tân ym Mhrestatyn.

Fe gafodd corff Tony Anthony Ambrose Handy, adeiladwr 65 oed oedd yn byw yn lleol, ei ddarganfod yn dilyn tân uwchben siop ar Stryd Fawr y dref ar 12 Awst.

Clywodd gwrandawiad yn Rhuthun bod y gwasanaethau brys wedi cael eu galw yn yr oriau mân wedi i aelodau'r cyhoedd weld tân yn yr adeilad.

Dywedodd Crwner Cynorthwyol Canol a Dwyrain Gogledd Cymru, Kate Robertson, bod angen rhagor o ymholiadau cyn pennu achos y farwolaeth.

Fe gafodd y cwest ei ohirio tan ddyddiad sydd eto i'w bennu.

Cafodd dau ddyn eu harestio a'u rhyddhau heb gyhuddiad.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau nad ydyn nhw'n trin y digwyddiad fel un amheus.

Pynciau cysylltiedig