Cwpl sydd wedi'u cyhuddo o lofruddio eu hŵyr 'wedi taro eu mab'

Bu farw Ethan Ives-Griffiths yn ddwy oed ar 16 Awst 2021
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai
Mae mab cwpl sydd wedi'u cyhuddo o lofruddio eu hŵyr dwy oed wedi dweud wrth lys y cafodd ei daro gan ei rieni pan yn blentyn.
Bu farw Ethan Ives-Griffiths, o anaf difrifol i'w ben ym mis Awst 2021.
Mae ei nain a'i daid, Michael Ives, 47, a Kerry Ives, 46, y ddau o Garden City yn Sir y Fflint, wedi'u cyhuddo o lofruddiaeth, achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb tuag at blentyn.
Mae mam Ethan, Shannon Ives, 28, o'r Wyddgrug, Sir y Fflint, wedi'i chyhuddo o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb tuag at blentyn.
Mae'r tri yn gwadu'r cyhuddiadau.
Ei ddyrnu 'tua unwaith yr wythnos'
Yn rhoi tystiolaeth ddydd Iau dywedodd Josh Ives - mab Michael a Kerry - bod ei rieni wedi defnyddio grym corfforol wrth ei ddisgyblu.
Dywedodd y bydden nhw'n "gwasgu eich arddwrn... eich slapio ar gefn eich pen".
"Fe allai fod yn slap ar eich coes, slap ar eich pen-ôl."
Dywedodd hefyd y bydden nhw yn ei daro gyda dwrn "tua unwaith yr wythnos", a'u bod wedi defnyddio belt i'w daro "ar achlysuron prin iawn".
Dywedodd fod hynny wedi digwydd iddo ef a'i dair chwaer, gan gynnwys Shannon Ives.
Ychwanegodd y byddai hynny'n brifo fel plentyn, "ond fydden i ddim yn dweud ei fod yn ormodol".
Dywedodd Josh Ives fod y disgyblu corfforol wedi dod i ben pan oedd yn rhwng 10 a 12 oed, pan y dechreuodd ddweud wrthyn nhw am roi'r gorau iddi.
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd11 Mehefin
- Cyhoeddwyd9 Mehefin
Yn gynharach ddydd Iau, clywodd y llys fod Shannon Ives wedi taro plant ac wedi gwrthod caniatáu iddyn nhw chwarae gyda theganau.
Clywodd y rheithgor yn Llys y Goron yr Wyddgrug fod Shannon Ives, Ethan, a thri o blant eraill wedi mynd i fyw gydag un o'i chwiorydd, Rachel, a'i phartner Aaron Moss ym mis Mehefin 2021.
Tra'n rhoi tystiolaeth i'r llys, holwyd Mr Moss a oedd y plant yn cael chwarae gyda theganau.
"Na, doedden nhw ddim yn cael caniatâd," atebodd.
Dywedodd hefyd na fyddai Shannon Ives yn gadael i'r plant wylio'r teledu chwaith.
Holwyd Mr Moss a oedd erioed wedi'i gweld Shannon Ives yn cam-drin y plant, ac atebodd: "Ar ychydig o achlysuron, do."
Dywedodd nad oedd erioed wedi ei gweld yn taro Ethan, ond ychwanegodd pan oedd dau blentyn arall yn camymddwyn, eu bod wedi cael eu gorfodi i wynebu'r wal gyda'u "dwylo uwch eu pennau".
Dywedodd y byddai Ms Ives "ar ei ffôn" tra roedden nhw'n sefyll. Nid oedd wedi gweld hynny yn digwydd i Ethan, meddai.

Cafodd Ethan Ives Griffiths ei ddarganfod wedi ei anafu yng nghartref ei nain a'i daid ar Lannau Dyfrdwy yn 2021
Clywodd y llys am un achlysur pan wnaeth Shannon Ives roi slap i ben un o'r plant tra roedden nhw'n sefyll yn wynebu'r wal.
Dywedodd Mr Moss fod "y cysylltiad yn swnio'n gryf".
Cafodd ei holi a oedd Shannon Ives yn bwydo'r plant yn iawn, ac atebodd mai "prydau maint babanod" yr oedden nhw'n ei gael.
Ar un achlysur fe wnaeth hi fwyta pitsa o flaen dau o'r plant," meddai Mr Moss.
"Roedden nhw'n eistedd yno yn llyfu eu gwefusau," meddai.
Pan wnaeth Shannon roi darn i'r plant, dywedodd Mr Moss fod "y cyfan wedi mynd o fewn dau frathiad".
Ychwanegodd: "Ro'n i'n teimlo fel nad oedden nhw'n cael eu bwydo'n iawn."
'Codi ei llais, a thud uchel'
Tra'n cael ei groesholi gan fargyfreithiwr Michael Ives, gofynnwyd i Mr Moss a oedd wedi gweld Shannon Ives yn taro'r plant. Fe atebodd: "Do".
Un noson, dywedodd fod Ethan wedi bod yn cwyno ac yn crio. Aeth ei fam i mewn i'r ystafell a dweud wrtho am "gau ei geg" meddai.
Clywodd y llys ychydig yn ddiweddarach, ei bod wedi "codi ei llais ac yna fe glywais thud uchel".
Dywedodd wrth y rheithgor: "Roedd yn swnio fel pe bai hi wedi rhoi Ethan yn ôl yn y crud ar frys."
Mae'r achos yn parhau.