Bachgen fu farw mewn cyflwr 'erchyll' yn cyrraedd ysbyty - nyrs

Ethan Ives-GriffithsFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ethan Ives-Griffiths yn ddwy oed ar 16 Awst 2021

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai.

Mae nyrs fu'n gofalu am blentyn bach, yr honnir iddo gael ei lofruddio gan ei nain a'i daid, wedi disgrifio'r olygfa wrth iddo gael ei dderbyn i'r ysbyty fel un "erchyll", a rhywbeth fu'n ei "chadw'n effro gyda'r nos".

Bu farw Ethan Ives-Griffiths, dwy oed, o anaf difrifol i'w ben ym mis Awst 2021.

Mae ei daid Michael Ives, 47, a'i nain Kerry Ives, 46, o Garden City yn Sir y Fflint, yn gwadu cyhuddiadau o lofruddiaeth, achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb tuag at blentyn.

Mae mam Ethan, Shannon Ives, 28 oed o'r Wyddgrug, yn gwadu cyhuddiadau o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb tuag at blentyn.

Kerry a Michael Ives
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kerry Ives, 46, a Michael Ives, 47, wedi'u cyhuddo o lofruddio eu hŵyr Ethan

Roedd Ethan yn anymwybodol pan gafodd ei gludo o gartref ei nain a'i daid i Ysbyty Iarlles Caer ar 14 Awst, 2021.

Roedd Stephanie Pearson, y brif nyrs oedd ar ddyletswydd y noson honno, yn ei dagrau wrth ddisgrifio'r olygfa i Lys y Goron Yr Wyddgrug.

Dywedodd bod y plentyn wedi'i gleisio, yn edrych fel nad oedd yn cael digon o faeth ac yn eithriadol o denau pan gafodd ei drosglwyddo gan barafeddygon.

Dywedodd wrth y rheithgor: "Rydw i wedi gweld llawer o bethau mewn 20 mlynedd… ond roedd hyn yn fy nghadw i fyny yn y nos…

"Roedd yn ymddangos yn fachgen ifanc bregus iawn, iawn."

'Ddim wedi deall pa mor sâl oedd Ethan'

Disgrifiodd Ms Pearson bod Shannon Ives wedi dweud wrthi fod ei mab fel arfer yn iach ac nad oedd wedi cael ei anafu'n ddiweddar.

Dywedodd Ms Pearson wrth y rheithgor fod Ms Ives wedi ymddangos yn ddagreuol i ddechrau, ond ei bod yna wedi "datgysylltu" o'r sefyllfa, ar ei ffôn trwy'r amser, ac yn poeni am beidio â chael gwefrydd ffôn gyda hi.

Ychwanegodd: "Doedd o ddim yn ymddangos yn iawn i fi. Dydw i ddim yn meddwl ei bod hi wedi deall pa mor sâl oedd Ethan."

Dywedodd Ms Pearson ei bod hi'n cofio bod yn "eithaf di-flewyn-ar-dafod" a dweud wrth Shannon Ives y gallai ei mab farw, a'i hateb oedd "o".

Wrth iddi gael ei chroesholi gan fargyfreithiwr Shannon Ives, dywedodd Ms Pearson ei bod hi'n gywir dweud bod pobl sydd mewn sioc yn ymddwyn mewn gwahanol ffyrdd.

Derbyniodd hefyd ei bod yn bosibl bod Shannon Ives wedi eistedd mewn cadair wrth ymyl Ethan wrth iddo gael ei drin, ond nad oedd hi'n bersonol yn cofio ei gweld yn gwneud hynny.

Shannon Ives
Disgrifiad o’r llun,

Mae Shannon Ives wedi'i chyhuddo o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb tuag at blentyn

Dywedodd nyrs bediatrig a oedd yn rhan o'r tîm oedd yn gofalu am Ethan yn ysbyty Ysbyty Iarlles Caer nad oedd hi erioed wedi "gweld anafiadau fel 'na ar blentyn o'r blaen, ac heb weld rhai ers hynny".

Yn ei dagrau, dywedodd Antonia Chadder fod Ethan wedi cyrraedd yn anymwybodol ac yn methu anadlu heb gymorth, ac roedd yn gwisgo crys-T a chewyn.

Dywedodd fod ganddo gleisiau ar ochr chwith ei ên ac roedd wedi chwyddo'n fawr o amgylch ei wyneb, gyda gwaed sych o amgylch ei wefusau.

Pan dynnwyd ei ddillad, gwelodd fod ganddo gleisiau ar ben ei asgwrn cefn a chrafiadau, a'i fod yn ddifrifol o dan ei bwysau.

"Roedd yn ymddangos fel plentyn nad oedd wedi cael gofal," meddai, "roedd ganddo fol bach y byddech chi'n ei weld gan blant sydd heb gael digon o faeth."

"Rwy'n gweld llawer o blant sy'n sâl a dydyn nhw ddim yn edrych fel 'na."

Fe glywodd y llys hefyd ddatganiadau gan nifer o feddygon a aeth i weld Ethan y noson honno yn Ysbyty Iarlles Caer, gan gynnwys yr ymgynghorydd pediatrig, Dr Rupert Ellis.

Dywedodd bod derbyn Ethan i'r ysbyty'n "emosiynol iawn" a bod yr anafiadau'n cael eu hystyried yn "anafiadau nad oedd yn ddamweiniol".

Ychwanegodd bod sgan CT wedi canfod bod gwaedlif ar yr ymennydd, gyda gwaed hen a newydd yn bresennol, ac fe benderfynwyd ei drosglwyddo i Alder Hey.

Dywedodd Dr Ellis fod y tîm wedi cael gwybod bod Ethan ar y gofrestr amddiffyn plant, a'i fod hefyd wedi rhoi gwybod i Heddlu Gogledd Cymru am ei bryderon.

Yn gynharach, clywodd y rheithgor gan y parafeddygon a fynychodd cartref taid a nain Ethan yn Garden City y noson honno.

Disgrifiodd un, Dewi Lloyd, Ethan fel bachgen "gwelw a thenau" a'i fod yn edrych "fel dyn 90 oed" gyda'i asennau'n weladwy, a thri chlais ar ei foch chwith fel "patrwm llaw".

Dywedodd Mr Lloyd fod Shannon Ives wedi teithio gyda nhw i'r ysbyty yn yr ambiwlans ond "roedd ganddi fwy o ddiddordeb yn ei ffôn", meddai.

Ychwanegodd ei fod wedi cysylltu â'r gwasanaethau cymdeithasol a sicrhau bod Heddlu Gogledd Cymru hefyd wedi cael gwybod.

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig