Pwysau plentyn 'ddim yn destun pryder' ddeufis cyn iddo farw

Ethan Ives-GriffithsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ethan Ives-Griffiths yn ddwy oed ym mis Awst 2021

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai

Mae rheithgor wedi clywed bod gweithiwr cymdeithasol â "dim pryderon" ynghylch pwysau bachgen dyflwydd oed fu farw ddeufis yn ddiweddarach o niwed trychinebus i'r ymennydd.

Bu farw Ethan Ives-Griffiths ar 16 Awst 2021 ôl cwympo yng nghartref ei nain a'i daid, Michael a Kerry Ives, yn Garden City, Sir Y Fflint.

Mae Mr Ives, 47, a'i wraig 46 oed wedi'u cyhuddo o lofruddiaeth, achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn a chreulondeb i blentyn.

Mae mam Ethan, Shannon Ives, 28, o'r Wyddgrug, wedi'i chyhuddo o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn a chreulondeb i blentyn.

Mae'r tri'n gwadu'r cyhuddiadau ac mae'r achos yn parhau.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug bod Joanne Price, o wasanaethau plant Sir Y Fflint, wedi ceisio sawl tro i ymweld â Shannon Ives ym mis Mai 2021 ond cafodd sawl apwyntiad eu canslo ar sail "esgusodion amrywiol".

Pan aeth i'r tŷ yn ddirybudd ar 9 Mehefin, cafodd orchymyn i adael gan dad Ethan a oedd, fe honnodd, yn "ymosodol" a "bygythiol".

O weld Ethan ar yr achlysur hwnnw, dywedodd ei fod yn "glynu" i'w fam, ac er ei fod "yn fach" nid oedd yn ymddangos ei fod "dan bwysau".

Yn ystod ymweliad arall ddeuddydd yn ddiweddarach, roedd Ethan yn eistedd ar lin ei fam ac yn chwarae â theganau ond ni siaradodd.

Fe welodd y bachgen yn gafael yn y dodrefn wrth gerdded o amgylch yr ystafell, ac fe ddywedodd wrth y llys ei bod o'r farn ei fod "yn hwyr yn datblygu".

Shannon Ives y tu allan i Lys y Goron Yr Wyddgrug ar ddechrau'r achos
Disgrifiad o’r llun,

Mae Shannon Ives yn gwadu achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, a chreulondeb tuag at blentyn

Ychwanegodd bod sgyrsiau gyda Shannon Ives yn awgrymu ei bod "â pherthynas wael" â'i rhieni.

Dywedodd Ms Price ei bod wedi gadael y swydd ym mis Gorffennaf 2021 a doedd dim cysylltiad pellach gyda Shannon Ives.

Wrth gael ei chroesholi gan fargyfreithiwr Ms Ives, dywedodd Ms Price na fyddai wedi cymeradwyo penderfyniad Ms Ives i symud at ei rhieni petai yn dal yn y swydd oherwydd yr hyn yr oedd wedi ei ddarllen yng nghofnodion y gwasanaeth.

Cartref nain a taid Ethan
Disgrifiad o’r llun,

Cerbydau'r gwasanaeth brys y tu allan i gartref nain a thaid Ethan Ives-Griffiths yng Nglannau Dyfrdwy yn 2021

Clywodd y llys wedyn gan y gweithiwr cymdeithasol oedd yn gyfrifol am achos Shannon Ives o fis Gorffennaf 2021 ymlaen.

Yn ei ymweliad cyntaf â chartref Michael a Kerry Ives, ar 22 Gorffennaf, roedd Ethan, meddai Michael Cornish, yn "swil" a "heb siarad o gwbl", ac fe ddywedodd Mr Ives wrtho taw Ethan oedd "yr un tawel".

Pan ofynnodd bargyfreithiwr yr erlyniad beth oedd ymateb Ethan o glywed llais Mr Ives, atebodd Mr Cornish ei fod "wedi cilio fymryn".

Gan fod dim testun pryder yn ystod yr ymweliad, dywedodd wrth Ms Ives bod angen i rywun weld Ethan, oedd ar y gofrestr amddiffyn plant, bob 10 diwrnod.

Ond pan ymwelodd â'r tŷ ar 5 Awst, ni aeth pellach na charreg y drws am ryw dri chwarter awr oherwydd cyfyngiadau Covid, ac ni welodd Ethan o gwbl wedi i'w fam ddweud ei fod yn cysgu.

Kerry a Michael Ives yn cael eu cludo o gerbyd carchar i'r llys
Disgrifiad o’r llun,

Mae Kerry Ives, 46, a Michael Ives, 47, yn pledio'n ddieuog i gyhuddiad o lofruddio eu hŵyr Ethan

Doedd dim ateb pan aeth i'r tŷ wedyn ar 12 Awst gydag ymwelydd iechyd, na phan geisiodd siarad â Shannon Ives ar 13 Awst.

Ag yntau ar wyliau wedi hynny, dywedodd wrth ei reolwr bod angen trefnu i rywun i ymweld ag Ethan.

Ychwanegodd iddo deimlo bod "rhywbeth o'i le" ar ôl derbyn neges destun gan Ms Ives ar 15 Awst, ac o glywed bod Ethan yn yr ysbyty fe gysylltodd â'i swyddfa.

Yn ystod y croesholiad, gofynnodd y barnwr Mr Ustus Griffiths i ba raddau y pwysodd Mr Cornish i weld Ethan ar 5 Awst o garreg y drws er awgrym ei fod yn cysgu.

"Fe wnes i ofyn eto," atebodd, ond fe gafodd wybod bod Ethan yn dal yn cysgu.

Wrth egluro i'r barnwr pam ei fod wedi derbyn hynny, dywedodd: "Roedd hi'n amser Covid. Roedd yn anodd iawn. Roedd rhaid bod yn ofalus o ran mynd i dai."

'Ymddwyn yn dda i mi'

Clywodd y llys dystiolaeth wedyn gan Vanessa Underwood, gweithiwr cymdeithasol ymchwiliadau amddiffyn plant, a gyfarfodd Michael a Kerry Ives ddyddiau wedi marwolaeth Ethan.

Roedd Kerry Ives yn ymddangos yn ymddangos yn "drist", meddai, ac yn dweud bod pethau'n "anodd i'w prosesu".

Roedd Michael Ives yn "syllu trwy'r ffenestr" pan gyrhaeddodd, ond ar ôl ymuno â'r sgwrs dywedodd ei fod ag iselder.

Dywedodd y cwpl bod eu merch wedi diflannu, bod dim modd cysylltu â hi a'u bod yn credu ei bod yn aros gyda chyfaill.

Mewn cyfarfod dilynol, ar 24 Awst, dywedodd y pâr bod Ethan yn byw gyda nhw am sawl wythnos cyn i Shannon symud yno hefyd.

"Roedden nhw'n eitha' negyddol tuag at Shannon," dywedodd Ms Underwood, gan ddweud ei bod "yn gwylltio'n hawdd" ac yn eu beio nhw am farwolaeth Ethan.

Fe gafodd Ms Underwood argraff taw Michael Ives oedd "prif ofalwr" Ethan, gan honni bod y plentyn "yn ymddwyn yn dda" iddo a bod "cyferbyniad yn ei ymddygiad" yng nghwmni Shannon.

Clywodd y llys hefyd dystiolaeth swyddog lles yng Ngholeg Cambria, Glannau Dyfrdwy le bu Shannon Ives yn fyfyriwr yn 2014.

Dywedodd Susan Frances y byddai Ms Ives yn amlygu awydd i fyw gyda pherthynas arall wrth drafod ei bywyd teuluol.

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig