Apêl wedi i gi ladd defaid mewn ymosodiad ger Corwen
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth wedi i ddwy ddafad gael eu lladd, a naw arall eu hanafu'n ddifrifol yn dilyn ymosodiad gan gi yn Sir Ddinbych.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ym Mryneglwys ger Corwen rhywbryd rhwng 6 a 14 Ionawr, meddai Heddlu'r Gogledd.
Dywedodd Matt Raymond o'r Tîm Troseddau Gwledig fod rhai o'r naw o ddefaid a gafodd eu hanafu hefyd yn debygol o farw o'u hanafiadau.
Dyma'r ail ddigwyddiad ar yr un fferm yn y pythefnos diwethaf, meddai.
Ychwanegodd fod y defaid i gyd yn disgwyl ŵyn, a'u bod yn debygol o gael eu herthylu o ganlyniad i'r digwyddiad.
Mae'r heddlu'n annog i unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.