Anhrefn Trelái: Pedwar yn pledio'n euog i derfysg

Fe wnaeth Cameron Carter, Malaki McQuade, Gemma Virgin a Jasmine Smith bledio'n euog
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar o bobl wedi pledio'n euog i gyhuddiad o derfysg yn dilyn anhrefn dreisgar yng Nghaerdydd a gafodd ei sbarduno gan farwolaeth dau fachgen.
Bu farw Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, mewn gwrthdrawiad beic trydan yn ardal Trelái ar 22 Mai 2023.
Cafodd 31 o swyddogion heddlu eu hanafu, ceir eu rhoi ar dân a gwrthrychau, gan gynnwys tân gwyllt, eu taflu at y gwasanaethau brys yn yr anhrefn wnaeth barhau tan yr oriau mân.
Mae dros 40 o bobl bellach wedi cael eu cyhuddo o droseddau sy'n ymwneud â'r digwyddiad.
- Cyhoeddwyd11 Chwefror
- Cyhoeddwyd10 Medi 2024
- Cyhoeddwyd23 Mai 2023
Yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener fe blediodd Cameron Carter, 19 o Drelái, Gemma Virgin, 44 o Drelái, Jasmine Smith, 19 o'r Mynydd Bychan, a Malaki McQuade, 19 o Drelái, yn euog i gyhuddiad o derfysg.
Cafodd Virgin orchymyn cyrffyw sy'n golygu bod rhaid iddi aros yn ei chartref fin nos.
Fe wnaeth Liam Black, 20 o Drelái, Jamie Bateman, 26 o Gaerau, Lee-Martin McQuade, 29 o Drelái, Liam Williams, 19 o Rymni, a James Chappel, 29 o'r Barri bledio'n ddieuog i gyhuddiad o derfysg.

Cafodd degau o swyddogion heddlu eu hanafu yn yr anhrefn yn ardal Trelái
Eglurodd y barnwr Tracey Lloyd-Clarke na fyddai'r rhai wnaeth bledio'n euog yn cael eu dedfrydu nes bod achosion y rhai wnaeth bledio'n ddieuog wedi eu cwblhau.
Cafodd 22 Rhagfyr ei bennu fel dyddiad cychwynnol ar gyfer y gwrandawiad dedfrydu.
Mae disgwyl i'r rhai wnaeth wrthod y cyhuddiad ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener nesaf.
Ddydd Iau fe wnaeth Callum O'Sullivan, 24 o Drelái, hefyd bledio'n ddieuog i gyhuddiad o derfysg.