Dedfrydu wyth o bobl ifanc wedi anhrefn Trelái

Cafodd ceir eu rhoi ar dân a gwrthrychau eu taflu at yr heddlu yn yr anhrefn
- Cyhoeddwyd
Mae wyth o bobl ifanc wedi cael eu dedfrydu am achosi difrod troseddol yn ystod yr anhrefn dreisgar a gafodd ei sbarduno gan farwolaeth dau fachgen.
Bu farw Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15 mewn gwrthdrawiad beic trydan yn Nhrelái, Caerdydd ar 22 Mai 2023.
Cafodd heddlu arfog eu galw i'r ardal wedi adroddiadau bod ceir wedi eu rhoi ar dân a gwrthrychau, gan gynnwys tân gwyllt, wedi eu taflu at y gwasanaethau brys.
Yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth, cafodd yr wyth person ifanc orchymyn atgyfeirio 12 mis - math o ddedfryd gymunedol sy'n cael ei ddefnyddio mewn llysoedd ieuenctid.
- Cyhoeddwyd13 Ionawr
- Cyhoeddwyd10 Medi 2024
- Cyhoeddwyd23 Mai 2023
Cafwyd un o'r bobl ifanc yn euog yn dilyn achos ym mis Tachwedd, tra bod y saith arall wedi pledio'n euog mewn gwrandawiadau blaenorol.
Roedd yr ieuengaf yn 14 oed ar y pryd.
Dywedodd y barnwr Stephen Harmes wrth y bobl ifanc, na ellir eu henwi, fod yr achos yma o anhrefn yn un o'r gwaethaf iddo ei weld erioed, a'i fod wedi ei seilio ar ddiffyg ymddiriedaeth yn yr heddlu.
Ychwanegodd fod nifer o'r bobl ifanc yn ffrindiau gyda'r ddau fu farw, a bod elfen "emosiynol ac ymatebol" i'r ymddygiad.
'Trawma oedd y tu ôl i'r ymateb'
Awgrymodd Mr Harmes fod trawma wedi effeithio ar ymateb y bobl ifanc.
"Yn hytrach na chwilio am sicrwydd a ffeithiau ynglŷn â'r hyn ddigwyddodd... fe wnaethoch chi adael i chi'ch hunain gael eich arwain gan y dorf," meddai.
"Fe aeth pawb yn rhy bell oherwydd yr emosiwn, doedden nhw ddim yn barod i gymryd cam yn ôl. Roedd hynny'n beth drwg, ond roedd yna esboniad am hynny.
"Trawma oedd y tu ôl i'r ymateb emosiynol yma. Cafodd yr heddlu eu portreadu fel y bwch dihangol a'u defnyddio fel esgus i ymddwyn yn y fath fodd.
"Roeddech chi'n ifanc iawn, roedd eich ffrindiau newydd farw. Dim llawer o bobl ifanc sydd am brofi'r fath golled."
Ychwanegodd y barnwr y dylai'r bobl ifanc geisio gwneud y gorau o'r cyfle yma fel teyrnged i Harvey a Kyrees.