Cyhuddo dyn yn dilyn ymosodiad gan gi ar ferch 12 oed
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi dwyn cyhuddiadau yn erbyn dyn 37 oed o Flaenau Gwent wedi i gi XL Bully ymosod ar ferch 12 oed.
Bu'n rhaid i'r ferch gael triniaeth ysbyty at anafiadau difrifol yn dilyn y digwyddiad yn The Crescent, Nant-y-glo ym mis Hydref.
Mae'r ferch wedi cael ei rhyddhau o'r ysbyty erbyn hyn.
Cafodd y ci ei gymryd gan yr awdurdodau a'i ddifa.
Mae'r dyn, o Frynmawr, a gafodd ei arestio wedi'r digwyddiad yn wynebu cyhuddiad o ganiatáu i gi fod allan o reolaeth yn beryglus mewn man cyhoeddus.
Mae hefyd wedi ei gyhuddo o fod yn berchen, heb drwydded, ar gi o frid sydd wedi ei wahardd, ac o fod ym meddiant arf ymosodol mewn man preifat.
Mae disgwyl iddo fynd o flaen Llys Ynadon Casnewydd ddydd Llun 9 Rhagfyr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref