Ffrindiau pen pal ers 68 mlynedd

Jean a Glenys o flaen Cadeirlan Kirkwall, ar Ynysoedd Erch
- Cyhoeddwyd
Yn yr oes fodern lle mae'n bosib cysylltu o fewn eiliad gydag unrhyw un, unrhyw le, unrhyw bryd drwy e-bost, sgwrs Zoom neu neges destun, mae'r cyfnod o lythyru i'w weld yn bell iawn yn ôl.
Ond mae un Gymraes wedi creu cyfeillgarwch gydag Albanes sy'n parhau hyd heddiw ar ôl iddyn nhw ddechrau cysylltu drwy'r post yn 1956.
Bryd hynny roedd Glenys Davies, o Brynffordd, ger Treffynnon, newydd ddechrau yn yr ysgol uwchradd ac yn hoff o ddarllen Girl, cylchgrawn i ferched ifanc.
Un wythnos roedd erthygl yn cynnig y cyfle i ddarllenwyr gael eu cyflwyno i ferched o'r un oed mewn ardal arall o Brydain er mwyn dechrau cyfeillgarwch 'pen pal'.
Fe sgwennodd Glenys i'r cylchgrawn ac o fewn dim, ar 3 Ebrill 1957, fe laniodd llythyr gan eneth o Glasgow, Jean Davidson.
Bu'r ddwy yn sgwennu llythyr am yn ail, bob mis, ac yn 1960 aeth yr Albanes ar ei gwyliau i Landudno gyda'i mam a chyfarfod Glenys ar y prom yn Y Rhyl.
Taith i'r Alban
"Roedd yn beth braf a bod yn onest (derbyn llythyrau) bob rhyw fis neu ddau ar y cychwyn cynta', a dod i wybod dipyn am ein gilydd," meddai Glenys ar raglen Bore Cothi ar BBC Radio Cymru.
"Wedyn pan o'n i tua 17 oed mi es i fyny i'r Alban ac mi aeth y ddwy ohonon ni i gerdded o gwmpas yr Alban am wythnos a dyna pryd wir ddaethon ni i 'nabod ein gilydd yn well.

Mae Loch Lomond yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd yr Alban
"Fuon i'n ni'n cerdded i fyny Loch Lomond a Crianlarich a gorffen yng Nghaeredin wedyn a theimlo bod ni wedi dod i 'nabod ein gilydd yn o lew erbyn hynny, ac wedyn dwy flynedd ar ôl hynny fe ddaeth hi lawr i Frynffordd aton ninnau a dyna wir oedd y cychwyn cynta'.
"Roedd ei bywyd yn hollol wahanol a bod yn onest, fi fan hyn mewn ardal sydd ddim yn drefol o bell ffordd a hi yng nghanol dinas Glasgow."
'Bob dim wedi ei gofnodi'
Dros y degawdau bu'r ddwy yn parhau i lythyru a mynd drwy nifer o brofiadau mawr bywyd - fel priodi a chael plant - yn ystod yr un cyfnod.
Meddai Glenys: "Dwi'n teimlo mod i'n gwybod mwy efallai amdani hi nag am ffrindiau agos wir achos mae bob dim wedi cael ei gofnodi rhywsut.
"Bob tro roedda ni'n llythyru roedd y naill a'r llall ohonon ni yn deud be' oedd wedi digwydd yn yr wythnosau cyn hynny - mi ddaeth yn gyfeillgarwch reit agos deud gwir.
"Mae'r ddwy ohonon ni wedi dweud ambell i dro tasa ni wedi cadw pob llythyr o'r cychwyn mi fyddai'n gofnod go lew o fywyd."
O lythyrau i e-byst
Erbyn hyn mae'r ddwy wedi symud o lythyrau i e-bost misol, ac yn dal fyny yn electroneg am bethau sydd wedi digwydd yn eu bywydau - hanes y plant a'r wyrion.
Mae Jean bellach wedi symud i Ynysoedd Erch - yr Orkneys - a Glenys yn mwynhau clywed am sut mae ei bywyd wedi newid ers ymgartrefu ar ynys wyntog, bellennig.
Fe wnaeth Glenys ymweld â hi yno fis Awst diwethaf, ond yn ansicr os fydd y ddwy yn gweld ei gilydd eto.
Meddai: "'Da ni'n dwy yn tynnu am ein 80 rŵan ac wedyn mae'r siwrnai a bob dim yn dipyn o siwrnai a dwi ddim yn meddwl... 'da ni ddim yn disgwyl y gwnawn ni gwrdd eto yn y cnawd... ond gawn ni weld.
"Pwy a ŵyr? Mae'n 68 o flynyddoedd - y melys a'r chwerw am gymaint o flynyddoedd."
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2022