Mam a gollodd ei mab yn rhybuddio am beryglon cronfeydd dŵr

Bu farw mab Maxine Johnson, Reuben, tra'n nofio gyda'i ffrindiau yng nghronfa Pontsticill
- Cyhoeddwyd
Mae mam bachgen 15 oed fu farw mewn cronfa ddŵr ym Mannau Brycheiniog wedi dweud bod yr effaith ar y teulu yn "annisgrifiadwy".
Bu farw mab Maxine Johnson, Reuben, tra'n nofio gyda'i ffrindiau yng nghronfa Pontsticill yn 2006.
Mae hi wedi atgyfnerthu galwadau gan Dŵr Cymru yn rhybuddio pobl yn erbyn nofio heb ganiatâd mewn cronfeydd.
Mae cyfraddau damweiniau boddi yng Nghymru bron ddwywaith yn uwch na'r DU yn ei chyfanrwydd, yn ôl y Fforwm Diogelwch Dŵr.

Mae Maxine Johnson bellach yn ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth o beryglon cronfeydd dŵr
Roedd Reuben yn gwersylla gyda'i ffrindiau, yn dathlu ar ôl cwblhau ei arholiadau TGAU yn 2006.
"Ar y dydd Sadwrn roedd hi'n dywydd twym iawn," meddai Maxine.
Dywedodd fod rhai o'r criw wedi mynd i'r dŵr a cheisio nofio i'r ochr arall.
"Dim ond siorts nofio oedden nhw'n gwisgo, ac yn anffodus fe aeth Reuben i sioc dŵr oer tua thri chwarter y ffordd ar draws.
"Fe wnaeth un o'i ffrindiau ei orau i'w helpu - ceisio ei roi ar ei gefn, ond oherwydd ei fod yn cael ei dynnu i lawr, dywedodd Reuben wrtho am ei adael.
"Pan gyrhaeddodd y bechgyn yr ochr arall fe edrychon nhw nôl ac roedd Reuben wedi diflannu."
'Doedd Reuben ddim yn gwybod'
Fe gymrodd dridiau i'r gwasanaethau brys ganfod corff Reuben, a dywedodd ei fam fod y digwyddiad yn parhau i gael effaith fawr ar y teulu hyd heddiw.
"Mae effaith y peth yn annisgrifiadwy. Mae fel bod rhywun wedi rhwygo allan eich calon," meddai.
"Rydw i eisiau gwneud yn siŵr bod rhieni a phlant eraill yn gwrando ar y neges.
"Doedd Reuben ddim yn gwybod [am y peryglon] felly rydyn ni eisiau lledaenu'r neges iddo ef - meddyliwch ddwywaith ble 'dych chi'n mynd, ble 'dych chi'n nofio."

Mae cronfeydd Llys-faen a Llanisien yng Nghaerdydd yn cynnal sesiynau i ddysgu pobl sut i nofio mewn dŵr agored
A hithau'n gyfnod gwyliau'r Pasg, mae pobl yn cael eu rhybuddio y gallan nhw fod yn rhoi eu bywydau mewn perygl trwy nofio neu badlfyrddio mewn cronfeydd dŵr heb y caniatâd a'r mesurau diogelwch priodol.
Mewn rhai cronfeydd mae peiriannau ar waith o dan yr wyneb, fe allan nhw fod â cherrynt cryf, ac fe allai'r tymheredd fod yn oer iawn.
Mae unrhyw dymheredd is na 15C yn cael ei ddiffinio fel dŵr oer, ac fe allai gael effaith fawr ar anadl a symudedd rhywun.
Mae sioc dŵr oer yn achosi rhywun i anadlu'n drwm a heb reolaeth, wrth i'r corff geisio cadw'n gynnes.
Mae'r cyhyrau yn y breichiau a'r coesau yn oeri ac yn colli eu cryfder, sy'n ei gwneud hi'n anodd nofio.
Ond mae 'na gronfeydd mwy diogel, ble mae caniatâd i bobl nofio ynddyn nhw, fel Llyn Brenig yn y gogledd, cronfeydd Llys-faen a Llanisien yng Nghaerdydd, a chronfa Llandegfedd ger Pont-y-pŵl.

"Gall hyd yn oed y nofwyr cryfaf fynd i sioc dŵr oer," medd cadeirydd Diogelwch Dŵr Cymru
Ar gyfartaledd mae bron i 50 o bobl y flwyddyn yn marw yng Nghymru o ganlyniad i ddigwyddiadau'n ymwneud â dŵr, medd Dŵr Cymru.
Dywedodd cadeirydd Diogelwch Dŵr Cymru, Chris Cousens: "Gyda'r tywydd braf ry'n ni wedi'i weld, ry'n ni'n gwybod pa mor ddeniadol y gall hi fod i fynd i oeri mewn cronfeydd prydferth.
"Ond gall hyd yn oed y nofwyr cryfaf fynd i sioc dŵr oer, a gall hyn arwain at foddi."
Os ydych chi'n canfod eich hunain mewn trafferthion, dywedodd mai ei gyngor yw i "ymlacio ac arnofio ar eich cefn, gyda'ch clustiau yn y dŵr, nes i effeithiau'r sioc dŵr oer basio - yna gallwch chi nofio i fan diogel neu weiddi am gymorth".