Dyfodol clwb pysgota Blaenau Ffestiniog yn y fantol

Darren Williams yn pysgota yn Llyn Ffridd y Bwlch ym Mlaenau Ffestiniog
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Darren Williams bydd angen lleihau dyfnder y llyn ac uwchraddio'r argae fel rhan o'r rheolau newydd

  • Cyhoeddwyd

Mae dyfodol un o glybiau pysgota hynaf Cymru yn y fantol, sef Cymdeithas Enweiriol y Cambrian ym Mlaenau Ffestiniog.

Mae'r clwb yn dweud fod angen gwario hyd at £100,000 i uwchraddio'r argae ar Lyn Ffridd y Bwlch ger y dref, oherwydd rheolau newydd a ddaeth i rym yn 2017 - ond does ganddyn nhw ddim yr arian i wneud hynny.

Maen nhw'n honni mai ond perchen y llyn y maen nhw ac nid yr argae ac felly mai cwmni Breedon ddylai fod yn gyfrifol am yr argae.

Mewn ymateb dywedodd Breedon: "Yn dilyn cyfarfod efo'r clwb pysgota dros ddeunaw mis yn ôl, mae safbwynt Breedon yn parhau i fod nad oes ganddom ni unrhyw berchnogaeth na rheolaeth o'r llyn."

Gofynnwyd ond ni chafwyd ymateb gan Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â Llyn Ffridd y Bwlch.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai "Nod Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 yw amddiffyn pobl rhag rhyddhau dŵr heb ei reoli o gronfeydd dŵr uchel."

Argae Llyn Ffridd y Bwlch
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llyn Ffridd y Bwlch wedi'i leoli ger ffordd yr A470, ar y ffordd allan o Blaenau am Fwlch y Crimea

Mae'r traddodiad o bysgota yn mynd yn ôl yn bell iawn yn hanes Blaenau Ffestiniog a'r ardal - fe sefydlwyd y gymdeithas 147 o flynyddoedd yn ôl.

Ar hyn o bryd mae ganddyn nhw dros gant a hanner o aelodau o bob oed ac mae'r clwb yn cynnig pob math o ddyfroedd i'w haelodau bysgota.

Yn eu plith mae Llyn Ffridd y Bwlch, sydd wedi ei leoli ger ffordd yr A470 ar y ffordd allan o Blaenau am Fwlch y Crimea.

Roedd y llyn yn arfer bod yn rhan o waith chwarel y gloddfa ganol, ond fe brynwyd y llyn gan y clwb yn ystod saith degau'r ganrif ddwetha.

Ond rŵan mae angen gwneud gwaith ar adnewyddu'r argae ar y llyn.

Mae Cymdeithas Enweiriol y Cambrian eisoes wedi gwario £11,000 ar adroddiad cychwynnol i gyflwr yr argae.

Darren Williams yn pysgota yn Llyn Ffridd y Bwlch ym Mlaenau Ffestiniog
Disgrifiad o’r llun,

Darren Williams yn pysgota yn Llyn Ffridd y Bwlch ym Mlaenau Ffestiniog

Yn ôl Darren Williams, ysgrifennydd y clwb pysgota, fel rhan o'r rheolau newydd bydd angen lleihau dyfnder y llyn ac uwchraddio'r argae ei hun.

"Yn ôl y rheolau 'den ni'n gorfod lleihau faint o ddŵr sydd yn y llyn ac os ydan ni'n gwneud hynny fasa ni'n methu sgota'r llyn yn de.

"Ma nhw'n dweud bod angan lot o waith ar y dam - ti'n sôn am ddim yn bell o gan mil o bunna'.

"Fasa 'na ddim clwb ar ôl… dwi'n poeni'n fawr am ddyfodol y clwb yn de."

Ychwanegodd mai'r Cambrian ydi'r clwb pysgota hynaf yng Nghymru.

"Se'n bechod i golli fo rŵan yn byse," meddai.

Argae Llyn Ffridd y Bwlch
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen gwneud gwaith ar adnewyddu'r argae ar y llyn

Mae'r clwb pysgota yn honni bod yr argae ei hun ym mherchnogaeth cwmni Breedon - perchnogion presennol hen chwarel y Gloddfa Ganol.

Gofynnwyd i Breedon yn benodol os oedd yr argae yn eu perchnogaeth nhw ai peidio.

Yn dilyn cyfarfod efo'r clwb pysgota dros ddeunaw mis yn ôl, mae Breedon yn parhau i fynnu "nad oes ganddom ni unrhyw berchnogaeth na rheolaeth o'r llyn".

Mabon ap Gwynfor
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mabon ap Gwynfor ei fod yn hynod o bryderus am ddyfodol y clwb pysgota

Mae Mabon ab Gwynfor, Aelod o'r Senedd yng Nghaerdydd dros Ddwyfor a Meirionnydd, wedi bod yn gweithio'n agos efo Cymdeithas Enweiriol y Cambrian ar y mater.

Dywedodd ei fod yn hynod o "bryderus" am ddyfodol y clwb pysgota: "Mae clwb pysgota'r Cambrian yn un o'r rhai hynaf yng Nghymru," meddai.

"Ma' nhw'n llwyddo i dynnu pobol allan o'u cartrefi i'r awyr agored i bysgota sydd yn llesol i'w hiechyd meddwl nhw, ac yn sicrhau bod pobol hŷn ac iau yn siarad efo'i gilydd yn un o ardaloedd tlota' Gwynedd."

'Dyfodol i'w weld yn annelwig'

"Mae'n rhaid i ni weld parhad y clwb pysgota, ond yn anffodus mae'r dyfodol i'w weld yn annelwig braidd oherwydd bod gofyniad iddyn nhw drwsio'r argae," medd Mr ab Gwynfor.

Ychwanegodd nad perchnogaeth y clwb pysgota ydi'r argae, ac mai "cyfrifoldeb dros y llyn a'r dŵr sydd ynddo" sydd ganddynt - ac nid dros yr argae.

"Felly mae'n rhaid i rywun gymryd cyfrifoldeb dros yr argae ei hunan a gwneud yn siŵr ei fod o'n cael ei ddiogelu - boed hynna'n y chwarel neu bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn helpu allan.

"Ond mae'n rhaid sicrhau parhad y clwb pysgota."

Elfed Wyn Ap Elwyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elfed Wyn Ap Elwyn yn dadlau mai Llywodraeth Cymru ddylai dalu am y gwaith sydd angen ei wneud ar yr argae

Mae un o Gynghorwyr Blaenau Ffestiniog ar Gyngor Gwynedd yn dadlau mai Llywodraeth Cymru ddylai dalu am y gwaith sydd angen ei wneud ar yr argae.

Mae Elfed Wyn ap Elwyn yn cynrychioli ward Bowydd a Rhiw, a dywedodd ei fod yn "credu'n gryf" mai dyletswydd y llywodraeth ydi talu am y gwaith.

"Mae'r clwb fel elusen - ddim efo llawer iawn o bres.

"Ma' nhw wedi gorfod gwneud gwaith eithaf dwys yn ddiweddar ac mae hynna efo cost o £11,000 ac os 'di'r clwb yn mynd i orfod talu mwy o bres i wneud yr argae yma yn saff yna tydi dyfodol y clwb ddim yn edrych yn un saff iawn yn de.

"Felly os ydi'r llywodraeth mor bendant am gael y rheolau yma i mewn, pam ddyla clwb y Cambrian ddioddef a diflannu o Flaenau Ffestiniog?

"Ddyla'r llywodraeth yn sicr helpu."

Mi gafodd Llywodraeth Cymru gais i ymateb i'r alwad mai nhw ddylai dalu am y gwaith i uwchraddio'r argae.

Ni wnaethon nhw ymateb i hynny'n benodol ond dywedon nhw mai "nod Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 yw amddiffyn pobl rhag rhyddhau dŵr heb ei reoli o gronfeydd dŵr uchel".

Bydd Mabon ab Gwynfor AS yn cyfarfod ag aelodau Cymdeithas Enweiriol y Cambrian ddydd Gwener i drafod y ffordd ymlaen.

Pynciau cysylltiedig