Gwahardd meddyginiaeth atal y glasoed yn 'anghyfreithlon', yn ôl Adam Price

Mae'n "amlwg bod y llywodraeth wedi gweithredu'n anghyfreithlon" meddai Adam Price
- Cyhoeddwyd
Mae AS Plaid Cymru, Adam Price, yn honni bod Llywodraeth Cymru wedi torri ei chyfraith ei hun wrth gyflwyno gwaharddiad ar feddyginiaeth atal y glasoed i bobl dan 18 oed oedd yn cwestiynu eu hunaniaeth o ran rhywedd.
Ar ôl i adolygiad ddod i'r casgliad bod diffyg tystiolaeth o ran effaith tymor hir y meddyginiaethau, cafodd meddygon teulu y GIG eu gwahardd rhag rhoi presgripsiynau newydd yn unol â gwledydd eraill y DU.
Mae grŵp arbenigol yn dweud eu bod yn achosi "risg diogelwch annerbyniol".
Ond dywedodd Mr Price a'r comisiynydd plant Rocio Cifuentes y dylai'r llywodraeth fod wedi asesu'r effaith ar blant allai gael eu heffeithio.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i ddatblygu gwasanaethau rhywedd i bobl ifanc.
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd28 Medi 2023
Mae meddyginiaeth atal y glasoed yn gyffur sydd wedi'i drwyddedu i drin glasoed cynnar ymhlith plant – ond dros y ddegawd ddiwethaf, bu cynnydd sylweddol yn y galw ar blant a phobl ifanc sy'n dioddef dysfforia rhywedd.
Dywedodd adolygiad gan y paediatregydd, Dr Hilary Cass yn 2024 fod diffyg tystiolaeth eu bod yn ddiogel i'w defnyddio gan bobl dan 18 oed, a'i bod yn anarferol rhoi "triniaeth a allai newid bywyd pobl ifanc a pheidio â gwybod beth sy'n digwydd pan fyddant yn oedolion".
Dywedodd un dyn traws ifanc wrth BBC Cymru ei fod yn credu y gallai meddyginiaeth atal y glasoed fod wedi osgoi "y trawma sydd wedi dod gyda byw mewn corff nad oedd erioed wedi teimlo fel fy un i".
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Gwion Wiliams y byddai meddyginiaeth atal y glasoed wedi ei helpu i osgoi "y trawma sydd wedi dod gyda byw mewn corff nad oedd byth yn teimlo fel fy un i"
Ym mis Rhagfyr, fe geisiodd cyn-arweinydd Plaid Cymru, Adam Price ddileu'r rheoliadau, gan godi pryderon nad oedd gweinidogion wedi "rhoi sylw dyledus" i Gonfensiwn Cenhedloedd y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sydd wedi'i ymgorffori yng nghyfraith Cymru ers 2011.
Dywedodd Mr Price mewn dadl yn y Senedd, na wnaed asesiad effaith - rhywbeth y mae canllawiau'r llywodraeth ei hun yn dweud y dylai swyddogion ei ddefnyddio i sicrhau bod gweinidogion yn dilyn y gyfraith.
Dywedodd Mr Price wrth BBC Cymru: "Rwy'n meddwl ei bod yn amlwg bod y llywodraeth wedi gweithredu'n anghyfreithlon."
"Mae angen iddyn nhw nodi ar fyrder sut maen nhw'n bwriadu unioni'r camgymeriad hwn, ac yn bwysicaf oll, ymgysylltu'n ystyrlon â'r grŵp hwn o blant a phobl ifanc y mae eu hawliau'n haeddu cael eu parchu ac y dylid clywed eu lleisiau," meddai.
'Wfftio fy nheimladau'
Dechreuodd Gwion Williams, sy'n 21 oed, ei gyfnod trawsnewid meddygol pan oedd yn oedolyn, ar ôl cael trafferth i gael cymorth gan y GIG yng Nghymru pan yr oedd dan 18 oed.
Dywedodd Mr Williams iddo gael ei gyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed pan oedd o dan 18 oed, ond dywedodd ei fod wedi "wfftio fy nheimladau o deimlo'n ddysfforig".
Oherwydd ei ddyfalbarhad, gwnaeth y gwasanaeth gais am gyllid i gael ei gyfeirio at glinig Tavistock.
Ond oherwydd ei fod yn 17 a 9 mis cafodd ei wrthod.
"Pe bai gen i fynediad at feddyginiaeth atal y glasoed gallwn fod wedi osgoi cymaint o'r drafferth a'r trawma sydd wedi dod gyda byw mewn corff nad oedd byth yn teimlo fel fy un i.
"Bu'n rhaid i mi fynd trwy'r negyddiaeth o gael gwybod fy mod yn gwneud y cyfan i fyny, dim ond i gael gwybod fy mod yn iawn trwy'r amser, a doeddwn i ddim yn gymwys ar gyfer y rhestr aros.
"Felly roedd yn rhaid i mi ddechrau'r weithdrefn i gyd drosodd eto i gyrraedd y clinig oedolion."

Dywedodd y comisiynydd plant Rocio Cifuentes nad yw gweinidogion wedi dangos tystiolaeth o gydymffurfiaeth â chyfraith 2011
Mewn llythyr at weinidog plant Cymru, Dawn Bowden, dywedodd y comisiynydd plant Rocio Cifuentes heb asesiad effaith "ei bod hi'n amhosib i weinidogion ddangos tystiolaeth o gydymffurfiaeth" â chyfraith 2011.
Dywedodd fod y pwnc yn ymwneud â grŵp bach o blant a phobl ifanc, ond "mae'r plant hyn yn dal i haeddu cael eu hawliau wedi'u diogelu, ac mae'n anodd gweld sut mae eu hawliau unigol wedi cael eu hystyried heb sôn am roi sylw dyledus drwy'r broses hon."
Ychwanegodd Ms Cifuentes ei bod hi "dro ar ôl tro" wedi ceisio trefnu i weinidogion gwrdd â phobl ifanc gafodd eu heffeithio gan benderfyniadau yn ymwneud â meddyginiaeth atal y glasoed y llynedd, ond ni chafodd y cyfarfod ei gynnal.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yn unol â'n hymrwymiadau yn y Cynllun Gweithredu LGBTQ+ rydym wedi ymrwymo i wella gwasanaethau hunaniaeth rhywedd i bobl ifanc ac oedolion.
"Rydym yn ystyried y pwyntiau a wnaed gan y comisiynydd plant a byddwn yn ymateb maes o law."