Noson 'arbennig' Ffion Gwyther yn gwylio Springsteen
- Cyhoeddwyd
Mae dynes a gafodd ei dewis allan o'r dorf yn ystod perfformiad Bruce Springsteen yng Nghaerdydd wedi diolch iddo am "wneud iddi deimlo'n arbennig".
Yn ôl Ffion Gwyther o Ffwrnes ger Llanelli, mae hi'n aml yn teimlo fel bod pobl yn ei hanwybyddu oherwydd bod ganddi Syndrom Down.
Ond dywedodd ei bod hi "wrth ei bodd" pan stopiodd 'The Boss' o'i blaen hi ar ddiwedd ei gyngerdd, ysgwyd ei llaw a rhoi plectrwm gitâr iddi.
“Roedd yn foment wych,” meddai.
Bu Ffion a'i mam yn ciwio am dair awr i fynd i mewn i'r gig yn Stadiwm Principality ddydd Sul.
Dyma oedd noson gyntaf taith ddiweddaraf Bruce Springsteen yn Ewrop, a dyma'r tro cyntaf i Ffion fynd i gig o'r maint yma hefyd.
Ar ôl y cyngerdd, fe rannodd hi fideo ar y we yn diolch iddo am ei dewis o'r miloedd yn y dorf.
"Fe ddigwyddodd rhywbeth arbennig. Cerddodd lawr o fy mlaen i, safodd o yno cyn ymestyn am ei blectrwm yn ddwfn o'i boced a'i roi i mi," meddai.
- Cyhoeddwyd4 Mai
- Cyhoeddwyd1 Ionawr
- Cyhoeddwyd15 Ebrill
Mae Bruce Springsteen yn rhoi anrhegion yn rheolaidd i bobl yn ei gyngherddau.
Mewn cyngerdd yn Iwerddon y llynedd fe stopiodd i roi harmonica i ddilynwr arall gyda Syndrom Down.
Dechreuodd Ffion, sy'n aelod o Academi Theatr Hijinx, rannu fideos ar y we yn ystod y pandemig.
Mewn un o'r fideos hynny mae hi'n siarad am y ffordd mae rhai pobl yn dewis siarad â'i mam yn hytrach na siarad gyda hi.
“Mae gen i lais a dwi eisiau i bobl weld beth mae pobl fel fi yn gallu ei wneud a sut dwi'n teimlo y tu mewn,” meddai.
“Mae fy ffrindiau i gyd yn teimlo'r un peth.”
Dywedodd mam Ffion, Susie Hamill, ei bod "yn hynod o ddiolchgar" i Bruce Springsteen am yr anrheg.
"Mae’r eiliadau a roddodd iddi yn golygu cymaint yn wyneb y rhagfarn y mae pobl niwrowahanol yn dal i fod, yn anffodus, yn ei brofi.”