Heddlu'r De yn arestio pedwar o bobl ar ôl ymosodiad difrifol

car heddlu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Heol y Cwm am tua 12:00 brynhawn Mercher

  • Cyhoeddwyd

Mae pedwar dyn wedi cael eu harestio yn dilyn ymosodiad difrifol yn Abertawe.

Cafodd swyddogion eu galw i Heol y Cwm yn ardal Hafod toc wedi 12:00 brynhawn Mercher yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael ei anafu.

Fe gadarnhaodd yr heddlu fod dyn 31 oed o Waunwen, dyn 49 oed o Gendros, dyn 37 oed o'r Strand a dyn 39 oed o Dreforys wedi eu harestio.

Mae swyddogion yn parhau ar y safle, ac mae disgwyl y bydd Heol y Cwm ar gau am gyfnod hir wrth i'r heddlu ymchwilio i'r digwyddiad.

Mae Heddlu De Cymru wedi gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae swyddogion hedldu yn parhau ar y safle

O'r lleoliad

Meleri Williams, Gohebydd BBC Cymru

Mae Heol y Cwm wedi ei chau wrth i’r heddlu ymchwilio i ddigwyddiad.

Mae cymdogion yn dweud iddyn nhw gael gwybod gan yr heddlu na allan nhw fynd yn ôl i’w cartrefi am y tro.

Dyweodd rhai yn lleol eu bod wedi gweld yr Ambiwlans Awyr yn glanio ger Heol Cwm.

Mae ceir heddlu a faniau unedau ymchwilio yn dal i fynd a dod o'r safle.

Pynciau cysylltiedig