Tân mawr yn achosi difrod ar safle ceir

Llun o'r tan Ffynhonnell y llun, Rob Browne
  • Cyhoeddwyd

Cafodd y gwasanaeth Tân ac Achub eu galw i ddigwyddiad ar safle ceir yng Ngorseinon tua 14:10 ddydd Iau.

Roedd criwiau tân o Orseinon, Abertawe, Port Talbot, Llanelli, Treforys a Chaerfyrddin yn ceisio diffodd tân mawr yn ymwneud â chartref modur (motorhome) a oedd wedi ei barcio mewn maes parcio y tu allan.

Cafodd saith cartref modur eu dinistrio yn y tân a chwech arall, ynghyd ag wyth fan ac un bws mini, eu difrodi.

Fe wnaeth y criwiau tân adael y safle am 16:50.

Mae'r gwasanaeth tân yn credu bod y tân yn ddamweiniol.