Dyn wedi gwaedu i farwolaeth wrth ddisgwyl am ambiwlans

ambiwlansFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth dyn, 79, waedu i farwolaeth yn ei gartref wedi iddo aros mwy na naw awr am ambiwlans, yn ôl tystiolaeth i gwest.

Ffoniodd Peter Parker 999 ar ôl cwympo yn ei gartref yn ne Cymru a thorri ei arddwrn.

Clywodd y cwest fod Mr Parker wedi dweud wrth un o weithwyr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ei fod wedi torri gwythïen a bod gwaed yn pwmpio allan.

Ffoniodd am ambiwlans am 09:19 ar 10 Medi 2021, ond tua thri munud a hanner i mewn i'r alwad datgysylltodd y llinell wrth i'r sawl oedd yn delio â'r alwad geisio rhoi cyngor iddo ar sut i atal y gwaedu.

Gwnaeth y person a wnaeth ateb yr alwad ymgeisio bum gwaith i ailgysylltu heb lwyddiant.

Nododd yr alwad fel un Ambr 1 o ran blaenoriaeth, gan olygu y byddai'n derbyn sylw wedi i'r holl alwadau blaenoriaeth Coch gael eu clirio.

Fe gyrhaeddodd ambiwlans gartref Mr Parker 06:30 y bore canlynol.

Hanner awr yn ddiweddarach, gyda chymorth yr heddlu, cafodd parafeddygon fynediad i'w dŷ a'i ganfod yn farw.

Pryderon y crwner

Yn y cwest dywedodd crwner de Cymru fod Mr Parker wedi marw o waedlif o rydweli a oedd wedi'i achosi gan wydr wedi torri yn y cartref, a nodwyd bod yr oedi sylweddol cyn i'r ambiwlans gyrraedd wedi cyfrannu at ei farwolaeth.

Bellach mae Aled Gruffydd, uwch grwner dros dro Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot wedi ysgrifennu at Wasanaeth Ambiwlans Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn nodi ei bryderon.

Fe allai Mr Parker, meddai, fod wedi byw am 30-45 munud yn sgil ei anaf ac ychwanegodd ei fod yn bryderus bod rhywun ag anaf o'r fath wedi aros mor hir am ambiwlans.

Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru tan 17 Rhagfyr i ymateb i'r crwner.

Pynciau cysylltiedig