Merched Cymru yn sicrhau eu lle yn ail haen y WXV
- Cyhoeddwyd
Mae merched Cymru wedi llwyddo i sicrhau eu lle yn ail haen cystadleuaeth y WXV ar ôl ennill o 52-20 yn erbyn Sbaen.
Mae'r canlyniad hefyd yn golygu fod Cymru wedi hawlio eu lle yng Nghwpan y Byd 2025.
Fe ddechreuodd Cymru ar dân, gydag Alex Callender yn sgorio cais yn y munudau cyntaf.
Fe wnaeth Sbaen ennill o 29-5 y tro diwethaf i'r ddwy wlad wynebu ei gilydd yn 2019, ond doedd yr ymwelwyr methu ymdopi â'r pwysau cynnar, wrth i Abbie Fleming groesi am ail gais i Gymru wedi 13 o funudau.
Ond ar ôl i Carys Cox gael ei hanfon i'r gell gosb, fe fanteisiodd Sbaen ar y ffaith fod Cymru lawr i 14 o chwaraewyr.
Ines Antolinez sgoriodd y cais cynta i'r ymwelwyr cyn i Claudia Pena groesi i'w rhoi ar y blaen.
Daeth dau gais arall ym mhum munud ola'r hanner cyntaf - Alisha Joyce-Butchers i Gymru a Claudia Perez i Sbaen - gan ei gwneud hi'n 21-20 ar yr egwyl.
Fe lwyddodd Cymru i reoli'r gêm yn well yn yr ail hanner, ac fe sgoriodd Cox i ymestyn mantais y tîm cartref wedi 47 munud.
Fe groesodd Joyce-Butchers am yr eildro, cyn i Cox sgorio ei hail gais hi i'w gwneud hi'n 40-20 gyda chwarter awr yn weddill.
Daeth dau gais arall yn y munudau olaf i goroni perfformiad ardderchog gan Gymru yn yr ail hanner - un gan Jenny Hesketh, ac un arall i Cox.
Bydd cystadleuaeth y WXV2 yn cael ei chynnal yn Ne Affrica ym mis Medi a Hydref.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mehefin
- Cyhoeddwyd1 Mai