Datgelu grŵp asgell dde eithafol mewn ymchwiliad cudd y BBC
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r stori hon yn cynnwys iaith gref ac ymosodol
Mae 'na alwadau am wahardd grŵp asgell dde ac i'r heddlu ymchwilio i rai aelodau, ar ôl i ymchwiliad cudd y BBC ffilmio pobl yn y grŵp yn dweud y dylai mudwyr gael eu saethu.
Mae angen newid y gyfraith i wneud grwpiau fel Patriotic Alternative (PA) yn anghyfreithlon ar frys, meddai cyn-Gomisiynydd Gwrth Eithafiaeth y DU y Fonesig Sara Khan.
Ar ôl gweld y deunydd fideo, dywedodd y Bargyfreithiwr Ramya Nagesh bod "mwy na digon o dystiolaeth" i'r heddlu ymchwilio a'i basio i Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS).
Treuliodd newyddiadurwr cudd y BBC flwyddyn yn ymchwilio i'r grŵp gan recordio aelodau'n defnyddio iaith hiliol.
Dywedodd un aelod ei fod yn credu fod rhyfel hil yn anorfod, ac y dylai'r grŵp ddefnyddio tactegau tebyg i'r blaid Natsïaidd er mwyn cael pŵer.
Does dim modd gwahardd grwpiau o'r fath ar hyn o bryd gan nad ydyn nhw'n annog terfysgaeth, meddai'r Fonesig Sara Khan, ond mae'n dweud eu bod yn "creu hinsawdd sy'n ffafriol i derfysgaeth".
Mae arweinydd Patriotic Alternative, Mark Collett yn dweud nad ydyn nhw'n eithafol nac yn hyrwyddo trais, ond yn ymgyrchu'n heddychlon am hawliau pobl cynhenid Prydain.
Mae Patriotic Alternative, y grŵp mwyaf o'i fath yn y DU gyda 500 o aelodau a miloedd o ddilynwyr ar-lein, yn dweud eu bod yn bodoli er mwyn "codi ymwybyddiaeth" o fewnfudo a hyrwyddo "gwerthoedd teuluol".
Fe wnaeth rhaglen BBC Wales Investigates ganfod y gallai'r hyn oedd rhai aelodau yn ei ddweud annog casineb hiliol.
Mae gan PA ganghennau ar draws y DU, ac maen nhw'n annog aelodau - pobl arferol - i brotestio, i godi ymwybyddiaeth o faterion mewnfudo ac i ffilmio eu gwaith a'i rannu ar-lein.
Unmasked: Extreme Far Right
Gwyliwch ar iPlayer neu ar BBC1 Cymru am 21:00 nos Fawrth
Daeth newyddiadurwr BBC yn rhan o'r grŵp drwy ddefnyddio enw ffug, Dan Jones - gan ymddangos fel rhywun oedd yn cysgu ar soffa ffrind yng Nghaerdydd ac nad oedd â swydd llawn amser.
Drwy honni bod yn aelod newydd, fe wnaeth ein newyddiadurwr cudd, dros gyfnod o flwyddyn, ffilmio'n ddirgel mewn gwrthdystiadau Patriotic Alternative, gwersyll haf a chynhadledd flynyddol ddirgel a chlywodd rhai aelodau yn rhannu safbwyntiau eithafol.
'Dwi'n prynu gwn'
Aeth Dan i sawl digwyddiad yn ne Cymru, gan gynnwys ym Merthyr Tudful ble'r oedd y grŵp yn protestio'n erbyn cartrefu ceiswyr lloches.
Aeth i ddigwyddiadau chwifio baneri uwchben ffyrdd prysur er mwyn protestio'n erbyn materion lleol.
Magodd ymddiriedaeth pobl fel Roger Phillips, sy'n dweud nad yw'n aelod o PA, ond a ymunodd â'r grŵp mewn gwrthdystiad ar bont uwchlaw'r M4 yn ne Cymru.
Dywedodd wrth Dan bod "35 i 40 ohono ni'n paratoi, arfogi ein hunain" ar ôl bod mewn protest yn erbyn cynlluniau i ddefnyddio gwesty yn Llanelli i gartrefu ceiswyr lloches.
"Dwi'n prynu pump action shotgun nawr," dywedodd wrth y newyddiadurwr cudd.
"Pwy ti'n meddwl sy'n mynd i ymladd y mewnfudwyr 'ma? Ni gyd."
Siaradodd Roger hefyd ynglŷn ag addasu amiwnisiwn, a honnodd y gallai'r gwn yr oedd yn bwriadu ei gael "eich lladd chi o 150 llath".
Yn ddiweddarach dywedodd Mr Phillips wrth y BBC ei fod wedi amau fod Dan yn gweithio'n gudd ac felly wedi bwydo gwybodaeth anghywir iddo, a'i fod yn siarad am ynnau peli paent mewn gwirionedd.
Cafodd Dan wahoddiad i brotestiadau gan Joe Marsh, trefnydd Patriotic Alternative Cymru a chyn-arweinydd mudiad gwrth-Fwslimaidd y Welsh Defence League, ar ôl cysylltu â'r grŵp ar-lein.
Dywedodd Marsh, cyn-weithredwr BNP a hwligan pêl-droed, wrth Dan pam ei fod yn meddwl y dylai'r llywodraeth wahardd mudwyr.
Cafodd Mr Marsh ei ffilmio'n dweud: "Petai dim Affricanwyr a phobl o Jamacia yma'n trywanu pobl, fasa ganddo ni ddim unrhyw drosedd cyllyll."
Ar ôl i dair merch ifanc gael eu trywanu yn Southport fis Gorffennaf 2024, dywedodd Mr Marsh wrth ei ddilynwyr: "Dylai pobl ddim fod yn galw am demos mewn mosgiau… os y' chi am 'neud un, tu fas i westy mewnfudwyr neu yng nghanol tref."
Y diwrnod canlynol, cafodd gwestai oedd yn cartrefu mewnfudwyr ger Rotherham a Tamworth eu cynnau ar dân. Dy' ni ddim yn gwybod os oedd unrhyw un o'r protestwyr yn aelodau PA neu'n ddilynwyr Joe Marsh.
Dywedodd Mr Marsh wrth y BBC nad yw wedi annog casineb hiliol, ei fod wedi protestio'n gyfreithlon a ddim wedi cyflwyno unrhyw aelodau newydd i aelodau gyda safbwyntiau eithafol.
'Os y'n nhw'n gwrthod, ni'n saethu nhw'
Mae ymchwiliad BBC Wales Investigates yn dangos sut mae safbwyntiau eithafol rhai aelodau'n dod i'r amlwg, gan gynnwys Aaron Watkins, wnaeth gynnig gwaith achlysurol i Dan.
Mae Mr Watkins bellach yn gwneud gwaith amrywiol ar ôl colli ei swydd gyda Chyllid a Thollau EF, a hynny ar ôl i'w sylwadau hiliol ar-lein ddod i'r amlwg, ac iddo gael ei weld mewn gwrthdystiadau PA.
Wrth bapuro wal tŷ cwsmer yng Nghasnewydd, dywedodd Mr Watkins: "Y cymunedau sydd fwya' amrywiol yw'r bobl ni eisiau cael gwared ohonyn nhw, yn dreisgar os yn bosib."
"Casglu nhw i wersylloedd ac os ydyn nhw'n gwrthod gadael, ni'n saethu nhw. Ma'r bobl sy'n dod yma'n parasites."
Dywedodd Mr Watkins wrth Dan na wnaeth ditectifs gwrth-derfysgaeth ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth yn ei erbyn wrth ymchwilio gan ei fod wedi cael ffôn newydd a dinistrio ei hen ffôn.
"Nes i losgi'r hen un, ar farbeciw," meddai. "Felly doedden nhw methu fy nghael i."
Pan gysylltodd y BBC â Mr Watkins wedi hynny, fe wrthododd wneud sylw.
Cafodd ein newyddiadurwr ei wahodd i grwpiau cyfryngau cymdeithasol ble'r oedd yn cael negeseuon dyddiol am sut mae mewnfudwyr yn "gwthio'u ffordd" i Brydain.
Yn ystod gwersyll haf Patriotic Alternative yn Sir Derby a'u cynhadledd flynyddol cwrddodd Dan â Patrick, a dywedodd y cyn-athro hanes o Fryste ei fod yn credu y dylai'r grŵp adlewyrchu tactegau'r blaid Natsïaidd yn yr Almaen yn ystod y 1920au.
"Yr unig ffordd i gael gwared ohonyn nhw fyddai lladd pob un ohonyn nhw," meddai Patrick wrth Dan.
Pan ofynnwyd am ei sylwadau, cyhuddodd Patrick y BBC o fod â thuedd gwrth-wyn ac o "erlid pobl gyffredin Prydain sy'n gofalu'n ddwfn am ddiogelwch a lles ei phobl cynhenid".
'Rhaid defnyddio grym'
Un o'r siaradwyr gwadd yng nghynhadledd Patriotic Alternative oedd ymgyrchydd asgell dde a throseddwr o Awstralia.
Cafodd ei ffilmio'n gudd yn cymharu Affricanwyr i gŵn ac yn awgrymu bod caethweision wedi bod yn hapus i weithio i bobl gwyn.
"Cafodd hen wraig ei thrywanu i farwolaeth gan gang o blant Affricanaidd," meddai Blair Cottrell wrth Dan ac aelodau eraill o'r grŵp.
"Pan chi'n edrych ar y ffordd mae pethau'n digwydd yn Affrica yr unig iaith maen nhw'n ei ddeall yw trais."
Mae'n awgrymu mai'r "unig ffordd effeithiol i ymateb i drosedd mor erchyll" yw eu lladd.
"Chi'n hongian rhai o'u cyrff fyny ar draws goleuadau traffig neu rywbeth. Mewn egwyddor wrth gwrs, alla'i ddim ei annog.
"Ond dwi ddim just yn dweud hyn, dyma'n ymarferol y ffordd mwyaf effeithiol o anfon neges iddyn nhw ac yna'n y diwedd maen nhw'n dod i stop.
"Os ydych chi'n 'neud unrhywbeth llai na 'ny mae'n gwaethygu. Dy' nhw ddim yn cymryd e'n serious. Yn anffodus allwch chi ddim siarad â nhw, allwch chi ddim rhesymu gyda nhw. Mae'n rhaid i chi ddefnyddio grym."
Mae'r BBC wedi gofyn i Mr Cottrell am ei sylwadau – fe atebodd ond ni wnaeth ateb ein cwestiynau.
'Digon o dystiolaeth i ymchwilio'
Mae Dan bellach wedi gadael PA a phasio'r deunydd fideo at fargyfreithiwr.
Dywedodd Ramya Nagesh, sydd wedi ysgrifennu llyfr ar droseddau casineb, y dylai casgliadau ffilmio cudd y BBC arwain at ymchwiliad gan yr heddlu oherwydd y gallai rhai o'r sylwadau arwain at gasineb hiliol.
"Ar ôl terfysgoedd Southport, mi welson ni erlyniadau yn erbyn unigolion oedd wedi postio hyd yn oed un neu ddwy neges ar eu platfformau cymdeithasol – a gellir dadlau bod y negeseuon hynny ddim mor ymfflamychol â'r rhai chi wedi eu dangos.
"Felly yn sicr, os oes prawf mewn llys bod yr unigolion wedi gwneud hyn a'u cael yn euog o droseddau, mi fyddwn i'n disgwyl iddyn nhw wynebu cyfnod o garchar."
Yn ôl cyn-Gomisiynydd Gwrth Eithafiaeth, mae grwpiau fel Patriotic Alternative yn ceisio gwneud eithafiaeth yn "brif ffrwd yn ein gwlad".
"Ni ddylen nhw gael gweithredu'n ddi-gosb," meddai'r Fonesig Sara Khan.
Ychwanegodd: "Ry' ni wedi gweld eu gweithgarwch diweddar a'u cyfraniad tuag at anrhefn cyhoeddus yn ystod terfysgoedd yr haf."
Mae wedi galw ar Llywodraeth y DU i gyflwyno cyfreithiau newydd i wahardd grwpiau fel hyn.
"Mae 'na angen ar frys… oni bai fod rhywbeth yn newid, dwi'n ofni ein bod ni'n mynd i barhau i weld grwpiau fel PA yn radicaleiddio ein plant a'n gwneud ni'n gymdeithas gwanach a llai democrataidd."
'Dim lle mewn cymdeithas i eithafiaeth'
Dywedodd Llywodraeth y DU "nad oes lle mewn cymdeithas" ar gyfer eithafiaeth a'u bod yn gweithio i "asesu ac ystyried y driniaeth gywir" i'r mater.
"Ry' ni'n gweithio'n agos gydag asiantaethau gorfodi'r gyfraith, cymunedau lleol a phartneriaid rhyngwladol er mwyn taclo grwpiau ac unigolion sy'n hau rhaniadau a chasineb," meddai llefarydd y Swyddfa Gartref.
Dywedodd arweinydd Patriotic Alternative fod unrhyw sylwadau wedi'u gwneud yn breifat, gan amddiffyn codi arian ar gyfer pobl sydd wedi'u canfod yn euog o droseddau hiliol neu gymryd rhan yn nherfysgoedd haf y llynedd.
Dywedodd Mark Collett nad oedd ei grŵp yn cefnogi trais na therfysgaeth a gwadodd ei fod yn sefydliad eithafol.
"Ry' ni'n bobl sy'n dadlau dros hawliau Prydeinwyr cynhenid a ni yw'r bobl sy'n ymgyrchu nawr yn erbyn beth sy'n mynd mlaen yn y wlad 'ma," meddai cyn-swyddog y wasg y BNP.
Wrth holi ynglŷn â'r defnydd o sylwadau hiliol gan ei aelodau, dywedodd Mr Collett bod hynny wedi'i wahardd dan god ymddygiad y grŵp.
"Pan mae pobl yn ymuno â'r digwyddiadau, mae ganddo ni god ymddygiad, ac os yw pobl yn torri'r cod ymddygiad, yna fe fyddwn ni'n delio gyda hynny maes o law."
Os ydych chi wedi eich effeithio gan y pynciau dan sylw yn yr erthygl, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan BBC Action Line.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2018