Mwy nag erioed ar restrau aros ysbytai Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae rhestrau aros ar gyfer triniaeth ysbyty yng Nghymru wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed eto – ac wedi codi am y pumed mis yn olynol.
Roedd ychydig dros 791,511 o driniaethau eto i'w cwblhau ym mis Mehefin, sef 615,300 o gleifion yn aros am driniaeth, sy'n record arall.
Mae’r rhai sy’n aros hiraf – dros flwyddyn neu ddwy flynedd am driniaeth – hefyd wedi cynyddu.
Mae’r ffigyrau misol hefyd yn dangos problemau gyda tharged allweddol arall, wrth i’r rhai sy’n aros dros flwyddyn am apwyntiad claf allanol cyntaf godi 5.5%.
Ni ddylai neb aros mor hir â hynny, o dan dargedau adfer wedi'r pandemig, ond mae'r nifer wedi codi i 74,175.
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2024
Mae’r nifer sy’n aros dros flwyddyn am driniaeth wedi bod yn amrywio, ond wedi codi eto i’r ffigwr uchaf ers Tachwedd 2022, yn agos i 160,000.
Roedd yna hefyd 23,418 o gleifion yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth, sy'n gynnydd am y trydydd mis yn olynol.
Os yn edrych ar arbenigeddau sy'n cael eu harwain gan feddygon ymgynghorol yn unig, mae modd cymharu amseroedd aros â Lloegr.
Roedd 22.5% o gleifion yn aros am flwyddyn neu fwy yng Nghymru, o gymharu â 4% yn Lloegr.
Galwodd y Ceidwadwyr Cymreig y ffigyrau yn "druenus", gan ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi methu eto i ddelio â'r "rhestrau gormodol yma".
Dywedodd Plaid Cymru fod angen "ailfeddwl radical ar sut i ymateb i heriau’n GIG" gan alw am ymchwiliad annibynnol i berfformiad GIG Cymru ac "ymrwymo i wneud i dargedau olygu rhywbeth".
"Mae’n fater o siom bod ymdeimlad anochel o fethu â mynd i'r afael ag amseroedd aros y GIG fis ar ôl mis," meddai eu llefarydd iechyd Mabon ap Gwynfor.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd newydd, Mark Drakeford, fod y cynnydd yn y rhestrau aros, fel mewn rhannau eraill o'r DU, yn "siomedig".
Ychwanegodd: “Rydym wedi bod yn glir iawn gyda byrddau iechyd ein bod yn disgwyl gweld ffocws ar leihau amseroedd aros hir.
"Byddwn yn parhau i gefnogi’r GIG i wella prydlondeb gofal wedi’i gynllunio a gofal brys.”
Rhai gwelliannau
Ond bu rhai gwelliannau yn ystod y mis.
Awst oedd y pedwerydd mis prysuraf ar gyfer y galwadau ambiwlans mwyaf brys - ac er yn is na'r targed, fe wellodd yr amser ymateb ychydig, gyda 48.2% o alwadau "coch" wedi'u cyrraedd o fewn wyth munud.
Roedd gwelliannau i amseroedd aros mewn adrannau brys, gyda 69.3% yn aros llai na phedair awr.
Roedd mwy na 10,100 o gleifion wedi aros dros 12 awr mewn unedau brys cyn cael eu gweld.
Roedd 56.7% o gleifion wedi dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod o gael eu hamau o fod â chanser, sy'n well na'r ddau fis diwethaf.