Ymgyrch Heddlu'r Gogledd i atal dwyn 'yn cael effaith'

Aaron Purvor a Mido Ringer.
Disgrifiad o’r llun,

Aaron Purvor a Mido Ringer ydy partneriaid busnes siop Geckos yn Wrecsam

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r Gogledd wedi dechrau defnyddio gorchmynion atal sydd wedi eu hawdurdodi gan y llys fel rhan o ymgyrch yn erbyn dwyn o siopau yn ninas Wrecsam a'r cyffiniau.

Y gred yw mai ymgyrch 'Blizzard' yw'r enghraifft gyntaf o lu yng Nghymru yn defnyddio gorchmynion atal (restraining orders) fel ffordd o gadw troseddwyr rhag cael mynediad i siopau.

"Mae dwyn o siopau yn Wrecsam wedi gostwng 8% hyd yn hyn eleni," meddai'r Uwch-arolygydd Jon Bowcott o Heddlu Gogledd Cymru.

"Ac erbyn hyn 'da ni'n detectio tua 46% o droseddau, sydd i fyny o 37% y llynedd – sy'n groes i'r duedd genedlaethol.

"Felly mae o'n cael effaith."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae dwyn o siopau yn Wrecsam wedi gostwng 8% hyd yn hyn eleni," meddai'r Uwch-arolygydd Jon Bowcott

Yn gynharach eleni fe wnaeth arolwg gan Gonsortiwm Manwerthu Prydain ddangos fod dwyn o siopau yn costio £1.8bn y flwyddyn, gydag achosion o ddwyn yn digwydd dros 45,000 o weithiau bob dydd.

Cafodd ymateb yr heddlu i achosion o ddwyn ei ddisgrifio gan 60% o fanwerthwyr fel "gwael" neu "gwael iawn".

Gall gorchmynion atal gael eu defnyddio i atal person rhag mynd i siop ar y sail y gallen nhw achosi niwed i staff oherwydd eu hymddygiad o ddwyn, a gellir eu defnyddio ar gyfer siop unigol neu gadwyn genedlaethol.

Er bod gorchymyn ond yn cael ei ddefnyddio ar gyfer troseddwyr sy'n dwyn yn aml, mae ymgyrch Blizzard yn mynd gam ymhellach.

"Mae'n golygu bod swyddogion yn eu gwisg yn patrolio ardaloedd sydd wedi dioddef waethaf - ond hefyd swyddogion dillad plaen," meddai'r Uwch-arolygydd Bowcott.

"Mae'n cael effaith dda iawn."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae Blizzard wedi bod yn dda hyd yma," yn ôl Aaron Purvor

Un o'r rhai sy'n credu bod yr ymgyrch yn gwneud gwahaniaeth yw Aaron Purvor sy'n rhedeg Geckos - siop nwyddau Pokémon - gyda'i bartner busnes Mido Ringer.

"Pan wnaethon ni agor yn wreiddiol mi oedd lladrata yn broblem," meddai.

"Ond 'dan ni wedi llwyddo i'w ostwng dros y 12 mis diwethaf i werth rhyw £1,000 neu £1,100 o eitemau sydd wedi eu dwyn.

"Mae Blizzard wedi bod yn dda hyd yma.

"'Dan ni wedi sylwi ar ostyngiad mawr mewn lladrata o siopau a llawer o ymddygiad gwrthgymdeithasol a meddw hefyd."

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru maen nhw'n gobeithio dysgu gwersi o Ymgyrch Blizzard yn Wrecsam a'i ehangu, mewn ymgais i fynd i'r afael â dwyn o siopau mewn trefi eraill hefyd.

Pynciau cysylltiedig