'Sefydlu côr heddlu er lles iechyd a iaith'
- Cyhoeddwyd
Mae sefydlu côr heddlu cyntaf Cymru wedi bod yn "fuddiol i feddwlgarwch, iechyd meddwl ac iechyd corfforol" yn ôl yr is-arweinydd, Arwyn Tudur Jones.
Côr Heddlu Gogledd Cymru yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru, yn ôl y swyddog.
Sefydlwyd ym mis Awst eleni - a bellach mae ganddyn nhw 80 o aelodau.
Dywed Mr Jones fod sefydlu’r côr wedi rhoi cyfle i'r aelodau ymlacio ac anghofio am bwysau dyddiol y gwaith.
Yn siarad ar y Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru, dywedodd mai "canu yw'r feddyginiaeth orau".
Mae Arwyn Tudur Jones yn gweithio fel rhingyll ymatebol a thrafodwr gwystl gyda Heddlu Gogledd Cymru.
Mae'n deall yn union y pwysau sy'n dod gyda gweithio yn yr heddlu.
"Fel rhan o'r heddlu mae rhan fwyaf ohonom ni yn mynd allan i drychinebau dyle neb ei weld," meddai.
"Mae hynny'n gallu cael effaith reit ddwys ar y meddwl.
"Dydy o ddim yn hawdd iawn i rywun fynd adref ac anghofio am beth maen nhw wedi gweld yn ystod y dydd."
Trwy sefydlu côr yr heddlu, y gobaith oedd creu dihangfa i'w aelodau.
"Mae hwn yn gyfle i ni fedru ymlacio ac mae'n gyfle i ni ddod at ein gilydd i rannu rhywbeth sy'n agos at ein calonnau."
- Cyhoeddwyd18 Hydref
- Cyhoeddwyd13 Mehefin
Pan ddechreuodd y côr roedd Mr Jones yn "ansicr iawn" am faint o ddiddordeb fyddai gan bobl.
Ond hyd yma mae ganddyn nhw 80 o aelodau, er nad ydy canran mawr ohonyn nhw erioed wedi canu mewn côr o'r blaen.
Mae'r aelodau yn dod o bob rhan o ogledd Cymru - o Bwllheli i ochrau Wrecsam.
Maen nhw'n ymarfer yn y gampfa ym Mhencadlys yr Heddlu ym Mae Colwyn bob wythnos.
'Hyrwyddo’r iaith Gymraeg'
Yn ogystal â bod o fudd i les meddyliol yr aelodau, mae’r côr hefyd wedi darparu cyfleoedd i "hyrwyddo’r iaith Gymraeg", meddai Mr Jones.
"Mae canran fawr o'r côr yn hollol ddi-Gymraeg.
"Felly mae'n gyfle iddyn nhw ddysgu'r iaith a dod yn gyfforddus yn defnyddio'r iaith o ddydd i ddydd yn eu gweithle a gartref."
Mae'r côr yn gymysg ac yn agored i unrhyw aelodau neu gyn-aelodau o Heddlu Gogledd Cymru, a'r pianydd Annette Bryn Parry ydy'r cyfarwyddwr cerdd.
Maen nhw'n gobeithio cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam y flwyddyn nesaf.