Dirgelwch ar ôl i nifer o gŵn fod yn sâl ar draeth

CallieFfynhonnell y llun, Lottie James
Disgrifiad o’r llun,

Hyd yma, mae bil milfeddyg Callie wedi costio £250 i'w pherchennog

  • Cyhoeddwyd

Mae pryderon wedi i sawl ci fod yn sâl ar ôl bod am dro ar un o draethau poblogaidd Sir Gaerfyrddin.

Yn ôl rhai perchnogion cŵn, mae eu hanifeiliaid anwes wedi bod yn chwydu a'n dioddef o ddolur rhydd ar ôl ymweld â thraeth Llansteffan dros yr wythnosau diwethaf.

Mae planhigyn gwenwynig, dŵr llonydd brwnt a phroblemau carthion posibl i gyd ymhlith y damcaniaethau y tu ôl i salwch y cŵn, sydd wedi arwain at filiau milfeddygol drud i rai.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru a Chyngor Cymuned Llansteffan a Llanybri wedi ymateb i'r pryderon ac mae Cyngor Sir Gâr wedi rhybuddio am beryglon y planhigyn gwenwynig cegid.

Llansteffan
Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl ci wedi bod yn sâl ar ôl ymweld â thraeth Llansteffan yn ddiweddar

Brynhawn Sul, 26 Ionawr aeth Lottie James, 29, â'i chi Callie am dro i draeth Llansteffan.

Mae Lottie yn dweud fod Callie wedi neidio i un o'r pyllau dŵr yn y maes parcio ger y cae pêl droed yno, cyn cerdded ar hyd y llwybr ger y traeth ac yn ôl.

Erbyn y nos, roedd Callie - ci defaid collie naw mis oed - yn wael.

"Fe aethon ni â hi at y milfeddyg, oherwydd ro'n i'n gallu gweld ei bod hi mewn cryn dipyn o boen - roedd ei chynffon rhwng ei choesau, roedd hi'n wan iawn a ddim yn bwyta nac yfed," meddai Lottie.

Lottie James a'i chi, CallieFfynhonnell y llun, Lottie James
Disgrifiad o’r llun,

Aeth ci Lottie James, Callie, yn sâl ar ôl trip i draeth Llansteffan yn ddiweddar

Fe gafodd Callie feddyginiaeth, ond y noson ganlynol dechreuodd chwydu ac roedd ganddi ddolur rhydd.

Wedi ymweliad arall â'r milfeddyg, fe dderbyniodd Callie chwistrelliad gwrth-salwch a gwrthfiotigau am bum diwrnod ar ôl cael diagnosis o gastroenteritis.

Hyd yma, mae bil y milfeddyg wedi costio £250 i Lottie, ond mae'n dweud bod ffrindiau iddi wedi gwario dros £1,000 wedi i gi fynd yn sâl ar ôl ymweld â thraeth Llansteffan.

Mae Lottie yn dweud fod Callie yn mynd am dro yn ddyddiol i Lansteffan ac nad yw erioed wedi mynd yn sâl yn y gorffennol.

Ond mae'n dweud na fyddan nhw'n ymweld â'r traeth eto "am ychydig".

"Mae wedi ein dychryn ni ychydig. Ry'n ni'n mynd i aros i weld a fydd rhywbeth yn cael ei wneud yn ei gylch," meddai.

Llansteffan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lottie James yn credu i'w chi fynd yn sâl wedi iddo fod yn yr ardal hon

Mae Cyngor Cymuned Llansteffan a Llanybri yn gyfrifol, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Gâr, am y maes gwyrdd ym mhentref Llansteffan.

Mewn datganiad fe ddywedon nhw: "Mae parcio cerbydau ym mhen gogleddol y grîn wedi digwydd yn yr ardal hon ers blynyddoedd lawer, gan alluogi trigolion lleol i fynd â'u cŵn am dro a chymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored eraill.

"Dros y gaeaf a'r gwanwyn gall yr ardal hon fynd yn ddwrlawn ar ôl dyddiau o law trwm, gan greu pyllau a dŵr llonydd, sy'n gwasgaru'n naturiol dros amser.

"Yn yr un modd ag ardaloedd eraill i gerdded, mae'r ardal yn fwdlyd am ran o'r flwyddyn, gan fynd yn sychach dros fisoedd yr haf."

Llansteffan
Disgrifiad o’r llun,

Mae traeth Llansteffan yn fan poblogaidd i fynd â chŵn am dro

Ar ôl gwneud pobl ar dudalen Facebook 'Pobl Llansteffan' yn ymwybodol o salwch ei chi, fe dderbyniodd Lottie dros 60 o sylwadau i'w neges, gyda rhai yn dweud bod eu cŵn nhw wedi mynd yn sâl ar ôl bod am dro ar draeth Llansteffan dros yr wythnosau diwethaf.

Dywedodd Elizabeth Mcfadden, 65 o Lan-gain, wrth BBC Cymru bod ei chi - papillon chwe blwydd oed o'r enw Sprite - wedi bod yn chwydu wedi tripiau i'r traeth.

"Y tro diwethaf iddo ddigwydd oedd tua pythefnos yn ôl," meddai.

Mae Elizabeth yn ceisio mynd â Sprite am dro i Lansteffan bob dydd.

Mae'n dweud na fydd hyn yn ei chadw draw o'r traeth, oherwydd dyma ei hoff le.

Mae hi'n cwestiynu, fodd bynnag, beth allai fod wedi achosi ei chi i fod yn sâl.

"Mae'n bryder i feddwl gallai rhywbeth fel cegid, neu rywbeth yn y dŵr wneud ein cŵn ni'n sâl," meddai.

SpriteFfynhonnell y llun, Elizabeth Mcfadden
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sprite hefyd wedi bod yn wael ar ôl mynd am dro ar y traeth

Mewn datganiad fe ddywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin eu bod yn ymwybodol o bryderon a godwyd gan y cyhoedd yn dilyn adroddiadau am gŵn yn mynd yn sâl ar hyd rhai traethau.

"Caiff y cyhoedd eu hatgoffa i fod yn ymwybodol o gegid (hemlock) - planhigyn gwenwynig sy'n cynhyrchu clystyrau tebyg i ymbarél o flodau gwyn yn yr haf.

"Gellir dod o hyd iddo mewn llefydd llaith, fel ffosydd, glannau afonydd, a thir gwastraff, ond nid yw'n debygol o gael ei ganfod ar ardaloedd agored sy'n newid yn gyson fel traethau, oni bai bod ei wreiddiau yn cael eu golchi i fyny ar y lan."

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr aelod cabinet sy'n gyfrifol am Ddiogelu'r Cyhoedd: "Mae cegid yn blanhigyn gwenwynig ac mae'r cyngor sir yn cynghori'n gryf, os ydych chi'n dod ar draws y gwreiddiau, eich bod yn sicrhau nad ydych chi'n caniatáu i'ch ci ei fwyta a'ch bod yn rhoi eich ci ar dennyn.

"Dylen ni hefyd osgoi cyffwrdd â'r gwreiddiau, sy'n edrych yn debyg i bannas."

CegidFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyngor yn dweud wrth bobl am fod yn ofalus o gegid (hemlock)

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru nad ydyn nhw wedi derbyn unrhyw adroddiadau llygredd yn yr ardal hon yn ddiweddar.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru: "Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw broblemau gyda'n hasedau ger traeth Llansteffan.

"Mae ein gorlifiadau storm wedi'u cynllunio i weithredu mewn cyfnodau o dywydd gwlyb iawn ac mae'r gollyngiadau wedi gweithredu yn unol â'r drwydded, mewn ymateb i'r tywydd gan gynnwys stormydd a enwyd yn ddiweddar."

Pynciau cysylltiedig