Trwsio problemau inswleiddio tai Arfon wedi degawd o frwydr

- Cyhoeddwyd
Wedi 10 mlynedd o frwydro, mi fydd degau o gartrefi yng Ngwynedd wnaeth ddioddef gwaith inswleiddio gwael dan gynllun Llywodraeth Cymru yn cael eu hadfer.
Yn 2014/15 mi gafodd tai mewn pedwar o bentrefi yng Ngwynedd gynnig gwaith i wneud eu tai yn fwy effeithlon dan gynllun Llywodraeth Cymru, Arbed.
Ond fe arweiniodd y gwaith at broblemau strwythurol mewn rhai tai, dŵr yn gollwng a thyfiant gwyrdd dros dalcen y tai.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mi fydd £3.5m yn cael ei glustnodi i wella 42 eiddo yn ardal Arfon yn dilyn "proses adolygu'r llynedd".
'Mae'n gwylltio chi'
Dan ofal Llywodraeth Cymru roedd y cynllun yn gyfle am ddim mewn ardaloedd difreintiedig i wneud tai yn fwy ynni-effeithlon.
Fe gafodd ffenestri a boeleri newydd eu gosod a waliau allanol eu paentio a'u selio i gynhesu'r tai.
Ond buan y daeth y trafferthion i'r amlwg a chwestiynau'n cael eu gofyn am safon y gwaith.
Un sydd wedi dioddef sgil effaith y gwaith ydi Margaret Roberts o Ddeiniolen.
"10 mlynedd yn ôl gafodd o'i wneud ond ar ôl blwyddyn 'oedd y gwallau yn dechrau dangos," meddai wrth bwyntio at dalcen y tŷ.

Mae effaith y gwaith yn glir ar nifer o dai fel un Margaret Roberts
"Oni'n meddwl mai jest wyneb y tŷ oedd â'r gwallau ond pan ddoth y surveyor yma 'nath o sôn bod problemau rownd y landerau a'r ffenestri.
"Mae 'di bod yn boen meddwl mawr iawn.
"Oedda ni jest yn flin am y rheswm bod nhw wedi twyllo ni a pwyso arno ni a na'th neb ddeud 'sa fo fel hyn.
"Mae 'na ddegau o dai a phob tŷ wedi chael hi os gafon nhw'r gwaith yma.
"Odda ni'n flin, mae'n gwylltio chi a 'da chi jest methu cael neb i gymryd sylw."
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2022
Mae Ms Roberts yn un o 42 eiddo yn Arfon rŵan sydd, yn ôl Llywodraeth Cymru, wedi derbyn llythyr yn cadarnhau y bydd gwaith adfer yn digwydd wedi adolygiad.
Yn ôl y llythyr gan Lywodraeth Cymru mi fydd y gwaith yn dechrau'n fuan i adfer y tai gafodd eu heffeithio.
Ychwanegodd: "O'r diwedd... da ni'n hapus bod rhywbeth yn cael ei wneud oherwydd ma'n rhoi chi lawr pan da chi'n gweld safon y tŷ tu allan.
"Da ni wedi gwirioni i ddeud y gwir!"

Yn ôl Sian Gwenllian, sy'n cynrychioli etholaeth Arfon yn Senedd, er yn rhyddhad mae hi'n codi pryderon dros oedi'r gwaith.
"Mae'n rhyddhad mawr i'r trigolion a 'da ni wedi cwffio hefo'n gilydd dros gyfnod hir... llawer rhy hir.
"Roedd pobl wedi rhoi eu ffydd yn y cynllun hwn, cynllun gafodd ei gynnig gan y llywodraeth oedd fod i wella eu tai nhw ond [daeth] bob math o broblemau oherwydd gwaith diffygiol.
"Ond rŵan mae golau ar ddiwedd y twnnel felly gobeithio rŵan y bydd y gwaith yn cael ei ail 'neud."
£3.5m i adfer 42 eiddo
Mewn ymateb fe ddywedodd Llywodraeth Cymru eu bod bellach wedi "dyrannu £3.5m dros y tair blynedd nesaf ar gyfer gwaith adfer 42 eiddo yn Arfon lle mae inswleiddio waliau allanol wedi methu yn dilyn proses adolygu y llynedd".
"Mae trigolion wedi derbyn llythyrau gyda rhagor o wybodaeth am y broses a bydd cyfle hefyd i aelwydydd optio allan os nad ydynt am i'r gwaith gael ei wneud mwyach."
Mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau dros y blynyddoedd nesaf yn ddibynnol ar y tywydd gan fod angen i'r waliau sychu yn llawn.