Inswleiddio diffygiol: Perchnogion tai yn dal i ddisgwyl
- Cyhoeddwyd

Cafodd dros 100 o gartrefi yng Nghaerau eu hinswleiddio fel rhan o gynlluniau i gynhesu tai
Mae perchnogion tai yn dal i aros i ddarganfod pryd y bydd inswleiddio diffygiol yn cael ei dynnu o'u tai, flwyddyn ar ôl i'r cyllid gael ei gyhoeddi.
Cafodd dros 100 o gartrefi yng Nghaerau, ger Maesteg, eu hinswleiddio fel rhan o gynlluniau i gynhesu tai.
10 mlynedd yn ddiweddarach, dywedodd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth Cymru y bydden nhw'n talu am waith atgyweirio ar ôl i bobl gwyno am leithder a llwydni.
Cyhoeddwyd bod yr arian ar gael fis Chwefror y llynedd, ond dyw perchnogion dal ddim yn gwybod pryd bydd gwaith yn dechrau.
Cawsant lythyr gan y cyngor fis yma yn ymddiheuro ac yn dweud y byddant yn cael mwy o wybodaeth ym mis Ebrill.
Bydd arolygon yn cael eu cynnal ar gartrefi i ddarganfod faint o waith fydd ei angen arnyn nhw, meddai'r llythyr.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor fod rheolwr rhaglen ac arbenigwr technegol wedi eu penodi, a bydd swyddog hefyd yn cael ei benodi i gadw mewn cysylltiad gyda'r gymuned.

Dywedodd Rhiannon Goodall fod y sefyllfa yn "chwerthinllyd ac yn siomedig iawn"
Dywedodd Rhiannon Goodall, sy'n aros am waith atgyweirio i'w chartref, mai'r llythyr yw'r cyswllt swyddogol mae hi wedi'i gael gan y cyngor.
"'Dwi ddim yn credu y dylai fod wedi cymryd cyhyd," meddai. "Rwy'n meddwl ei fod yn chwerthinllyd ac yn siomedig iawn.
"Dydw i ddim yn meddwl y bydd yn digwydd tan y flwyddyn nesaf."
Ym mis Rhagfyr dywedodd prif weithredwr y cyngor, Mark Shepherd, ei fod yn disgwyl i'r deunydd inswleiddio gael ei dynnu ym mis Mai.
Mae'n bosib y bydd deunydd newydd yn cael ei osod ym mis Tachwedd, ond dywedodd fod angen cyngor arbenigol ar yr awdurdod i gadarnhau os allai'r gwaith ddigwydd yn y gaeaf.

Cafodd tamprwydd gwael ei ddarganfod ar rai o waliau'r cartrefi
Cafodd 79 o gartrefi eu hinswleiddio gydag arian o gynlluniau Prydain. Roedd 25 arall yn rhan o gynllun Arbed Llywodraeth Cymru.
Rhwng 2009 a 2021 fe wnaeth rhaglen Arbed dalu am waith i gartrefi, gan gynnwys inswleiddio, er mwyn eu gwneud yn fwy effeithlon o ran ynni.
Dywedodd Richie Humphreys, cyn-löwr 79 oed: "Fe wnaethon nhw ddweud wrthym y llynedd fod popeth yn ei le.
"Dwi'n meddwl ein bod ni wedi cael ein trin yn amharchus."

"Dwi'n meddwl ein bod ni wedi cael ein trin yn amharchus," meddai Richie Humphreys
Mae'r math penodol o insiwleiddio, sy'n cael ei osod ar furiau naill ai tu fewn neu tu allan i'r tŷ (solid-wall insulation), wedi achosi problemau mewn rhannau eraill o'r wlad.
Cyhoeddwyd dros £3m ym mis Ionawr i atgyweirio 86 o gartrefi ar stad yn sir Caerffili a gafodd eu hinsiwleiddio gan Arbed.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig £1.9m ar gyfer y gwaith ym Mryn Carno, Rhymni, gyda'r cyngor lleol yn gwario £1.2m.
Dywedodd y cynghorydd lleol Carl Cuss fod "talpiau mawr" o insiwleiddio wedi disgyn oddi ar rai tai.
"Mae rhai preswylwyr wedi gweld lleithder yn dod i mewn i'w heiddo oherwydd nad oedd yr inswleiddio wal allanol wedi'i osod yn iawn," meddai.

Dywedodd y Cynghorydd Carl Cuss fod "talpiau mawr" o insiwleiddio wedi disgyn oddi ar rai tai
Mae AS Plaid Cymru Sian Gwenllian wedi gofyn i Lywodraeth Cymru helpu pobl yn ei hetholaeth, Arfon, sydd hefyd wedi wynebu problemau.
Mewn rhai achosion, mae contractwr a wnaeth y gwaith Arbed wedi mynd i'r wal.
Dywedodd Ms Gwenllian: "Mae'n annheg iawn i'r bobl hyn sydd wedi rhoi eu ffydd mewn cynllun nawr i ganfod bod eu tai yn waeth na phan ddechreuon nhw."

Mae Sian Gwenllian wedi gofyn i Lywodraeth Cymru helpu pobl yn etholaeth Arfon sydd wedi wynebu problemau
Mewn datganiad dywedodd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr y bydd tai yn cael eu harolygu ar ôl i berchenogion roi caniatâd.
Yna bydd contractwyr arbenigol yn cael eu penodi i dynnu'r inswleiddio oddi ar y waliau.
"Bydd gofod y wal yn cael ei sychu, a bydd insiwleiddio newydd o ansawdd uchel yn cael ei osod i adfer y buddion ynni effeithlon a gynigiwyd yn wreiddiol i ddeiliaid tai," meddai'r cyngor.
Beth mae'r llywodraeth yn ei ddweud?
Gan gyfeirio at y 79 o gartrefi yng Nghaerau a oedd yn rhan o gynllun ar draws y DU, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "delio gydag effeithiau cynllun Llywodraeth y DU sydd wedi methu cartrefi yma yng Nghymru".
"Ry'n ni'n darparu dros £2.65m dros y tair blynedd nesaf i Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr, fydd yn cael ei ddefnyddio i atgyweirio dros 100 o gartrefi yn ardal Caerau," meddai llefarydd.
Ychwanegodd fod arolygon ar y cartrefi yn etholaeth Arfon yn awgrymu nad yw'r inswleiddio "wedi methu yn yr un ffordd ag y gwnaeth ar y safleoedd yn ne Cymru".
"Mae trigolion wedi derbyn llythyr sy'n egluro'r broses i'w dilyn os nad ydyn nhw'n fodlon gydag unrhyw gynnyrch neu wasanaeth," meddai'r llefarydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd19 Mai 2021