Newidiadau i gymorth ariannol ffermwyr yn 'nonsens'
Trefn newydd yn anwybyddu bod mwy o ffermydd y pen yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) yn bryderus am y newidiadau i reolau cymorth ariannol ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru yn y dyfodol.
O'r blaen roedd y cymorth yn cael ei ariannu drwy'r Undeb Ewropeaidd ar sail anghenion ond mae fformiwla newydd yn golygu y bydd yr arian nawr yn cael ei ddyrannu yn ôl poblogaeth.
Yn ôl yr undeb mae hyn yn ostyngiad o 9.2% i 5.2%.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn darparu dros £366m ar gyfer cymorth amaethyddol eleni.

Ond wrth siarad ar raglen Sunday Supplement ar Radio Wales fore Sul dywedodd Prif Weithredwr UAC, Guto Bebb: "Mae'r drefn newydd yn nonsens oherwydd holl bwynt y system flaenorol oedd gwneud yn siŵr fod y cyllid yn mynd i ble roedd y ffermydd a beth mae hyn yn ei wneud yw seilio'r cyllid ar boblogaeth Cymru yn hytrach na'r realiti fod gan Gymru fwy o ffermydd na Lloegr y pen.
"Mae'r penderfyniad diweddaraf hwn yn peri pryder mawr oherwydd os bydd unrhyw gynnydd yn y cyllid i ffermydd yn y dyfodol bydd Cymru'n cael 5.2% ar sail poblogaeth yn hytrach na'r hyn roedden ni'n arfer ei dderbyn.
"O dan y system flaenorol gallai ffermwyr gynllunio, ar sail gwybod faint o gefnogaeth y bydden nhw'n ei gael, am y saith mlynedd nesaf."
"Mae gan Lywodraeth Cymru yr hawl i gael eu blaenoriaethau eu hunain ond mae'n hynod bwysig bod undebau amaethyddol a chymunedau ffermio yn sicrhau fod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r angen i gefnogi rhan allweddol o'r economi wledig yma yng Nghymru," ychwanegodd Mr Bebb.
'Dros £366m o gymorth eleni'
Ym mis Chwefror dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan ei bod yn "pryderu" am newidiadau Llywodraeth y DU i'w rheolau ar ariannu cymorth i amaethyddiaeth yng Nghymru yn y dyfodol.
Dywedodd Eluned Morgan y gallai newid yn y fformiwla ariannu olygu bod Cymru ar ei cholled, gydag Undeb Amaethwyr Cymru yn rhybuddio am doriad o £146m y flwyddyn, neu fwy na 40%.
Ddydd Sul dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ein safbwynt ni ers tro yw y dylai cyllid fod yn seiliedig ar angen a dim ond yn rhannol y mae fformiwla Barnett yn cydnabod yr anghenion gwariant ychwanegol sydd gennym yng Nghymru mewn nifer o feysydd, gan gynnwys amaethyddiaeth.
"Rydym yn croesawu'n fawr y ffaith bod gennym bellach ddisgresiwn llawn dros lefel y cymorth amaethyddol y gallwn ei ddarparu, diolch i gytundeb gyda Llywodraeth y DU.
"Mae ein cyllideb yn darparu dros £366m ar gyfer cymorth amaethyddol eleni. Mae hyn gryn dipyn yn fwy na'r hyn a ddarparwyd yn 2024-25, sef y flwyddyn olaf y cafodd cyllid fferm ei glustnodi gan Lywodraeth y DU."
Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys: "Yn y gyllideb, cyhoeddodd y canghellor y setliadau termau real mwyaf i'r llywodraethau datganoledig ers datganoli.
"Mae Llywodraeth Cymru yn cael dros 20% yn fwy y pen na gwariant cyfatebol Llywodraeth y DU yn Lloegr, sy'n cyfateb i dros £4 biliwn yn fwy yn 2025-26.
"Rydym wedi seilio'r swm llawn o gyllid amaethyddol a ddarparwyd i Gymru yn 2024-25 i setliad Llywodraeth Cymru yn 2025-26, sy'n gyfran uwch o'r boblogaeth."
- Cyhoeddwyd12 Chwefror
- Cyhoeddwyd23 Ionawr
"Mae gynnon ni lawer mwy o ffermydd llai yng Nghymru - mae'r ffermydd llai yna yn mynd i ffindio'r sefyllfa yn anodd iawn wrth fynd ymlaen.
"Mae rhannau o Gymru yn ucheldiroedd lle mae'n anodd iawn ffermio dim byd ond defaid a biff.
"Bydd y ffermydd hynny, dwi'n credu, yn ei chael hi'n anodd os ydy'r cyllid sy'n dod gan y llywodraeth yn lleihau," ychwanegodd Guto Bebb.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Amaethyddiaeth yn San Steffan, Ann Davies AS: "Yn ddealladwy, mae ffermwyr yn poeni y gallai penderfyniad Llafur... leihau'r cyllid ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru yn sylweddol.
"Os yw cymorth i ffermydd yn cael ei gynnwys yn rhan o fformiwla Barnett, gallai Cymru dderbyn cyn lleied â 5% o gyllid amaethyddol y DU – tipyn llai na'r cyfran deg y dylem fod yn ei dderbyn.
"Mae Plaid Cymru wedi codi'r pryderon hyn gyda gweinidogion Llywodraeth y DU ar sawl achlysur, ond hyd yma maen nhw wedi methu â rhoi eglurder na sicrwydd y bydd cyllid yn y dyfodol yn adlewyrchu'r cyfran uwch o ffermwyr sydd yma yng Nghymru."