'Pryder enfawr' am newidiadau i reolau ariannu amaeth - Morgan

Mae ffermwyr Cymru wedi bod yn protestio yn erbyn cynigion eraill Llywodraeth y DU ar dreth etifeddiant
- Cyhoeddwyd
Mae gan Brif Weinidog Cymru "bryder enfawr" am newidiadau Llywodraeth y DU i'w rheolau ar ariannu cymorth i amaethyddiaeth yng Nghymru yn y dyfodol.
Dywedodd Eluned Morgan y gallai newid yn y fformiwla ariannu olygu bod Cymru ar ei cholled, gydag Undeb Amaethwyr Cymru yn rhybuddio am doriad o £146m y flwyddyn, neu fwy na 40%.
Ni fydd gweinidogion Llafur y DU bellach yn neilltuo arian i ffermio yn benodol, gyda dyraniadau yn y dyfodol yn cael eu cynnwys yn y cyllid cyffredinol y maen nhw'n ei roi i Lywodraeth Cymru.
Dywedodd y prif weinidog wrth ASau ar y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn San Steffan fod gan Gymru gyfran uwch o ffermwyr na rhannau eraill o'r DU ac na fydd y rheolau newydd "yn cydnabod hynny".

Mae angen "cydnabod bod gennym ganran uwch o ffermwyr o gymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig" meddai Eluned Morgan
Cafodd y rheolau newydd ar symud i'r hyn sy'n cael ei alw yn Fformiwla Barnett eu cyhoeddi yng Nghyllideb y DU fis Hydref diwethaf.
O dan Barnett, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn tua 5% o gynnydd ar wariant ar faterion yn Lloegr, fel iechyd ac addysg, y mae gweinidogion yng Nghaerdydd yn gyfrifol amdanyn nhw yng Nghymru.
Wrth ateb cwestiwn gan AS Llafur Canolbarth a De Sir Benfro, Henry Tufnell, meddai: "Os ydych chi'n gwneud swm canlyniadol Barnett yn unig, rydych chi'n sôn am [gynnydd] 5%, ond o ran amaethyddiaeth dylem fod yn sylweddol uwch na hynny.
"Felly mae'n bryder enfawr bod hynny wedi ei newid."
Ychwanegodd y prif weinidog nad oedd hi'n poeni am y lefel bresennol o gyllid, ond ei fod yn "ymwneud â'r hyn sy'n digwydd yn y dyfodol, na fydd yn cydnabod bod gennym ganran uwch o ffermwyr o gymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig".
'Methu â rhoi eglurder na sicrwydd'
Wrth siarad ar ôl y sesiwn, dywedodd llefarydd Plaid Cymru yn San Steffan ar amaeth, Ann Davies AS: "Mae Plaid Cymru ar sawl achlysur wedi codi'r pryderon hyn gyda gweinidogion Llywodraeth y DU, sydd wedi methu â rhoi eglurder na sicrwydd y bydd cyllid yn y dyfodol yn adlewyrchu cyfran uwch Cymru o ffermwyr.
"Mae'r ffaith bod prif weinidog Llafur Cymru nawr hefyd yn mynegi pryderon yn atgyfnerthu brys y mater hwn.
"Rhaid i Lywodraeth y DU warantu na fydd amaethyddiaeth Cymru ar ei cholled yn y dyfodol."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Rhoddodd y Gyllideb setliad o £21bn i Lywodraeth Cymru, sef y swm uchaf erioed, ac mae'n derbyn dros 20% yn fwy o gyllid y pen na gwariant cyfatebol llywodraeth y DU.
"Mater i Lywodraeth Cymru yw dyrannu hyn ar draws ei chyfrifoldebau datganoledig, sy'n cynnwys amaethyddiaeth, er mwyn cyflawni blaenoriaethau pobl Cymru a chefnogi economi wledig Cymru."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd23 Ionawr
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2024