Rhybudd bod y sector amaeth yn parhau i fod yn 'fregus'
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwyr yn "dal i fod ar eu colled" ac yn poeni beth fydd nesaf i'r diwydiant, yn ôl un o gadeiryddion Undeb Amaethwyr Cymru (UAC).
Yn ôl cadeirydd UAC Ceredigion, mae pris cynnyrch ar gynnydd ond mae costau llawer yn uwch na hynny.
Wrth alw am ragor o gefnogaeth i'r sector, mae Gareth Lloyd hefyd yn dweud bod y sefyllfa wleidyddol a pholisïau yn parhau yn "ofid mawr i nifer".
Mewn digwyddiad i nodi 70 mlynedd ers sefydlu UAC, dywedodd yr Ysgrifennydd Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, eu bod "yn parhau i weithio gyda'n gilydd er mwyn sicrhau diwydiant ffermio cynaliadwy a llewyrchus".
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2024
Wrth fwynhau ei frecwast yn un o ddigwyddiadau blynyddol Brecwast Ffermdy UAC, sy'n cael eu cynnal yr wythnos hon, dywedodd Gareth Lloyd fod pryder gan ffermwyr am eu dyfodol.
"Mae pris cynnyrch yn mynd i fyny'n araf bach," meddai.
"Mae prisiau yn well na maen nhw wedi bod erioed, ond yn anffodus, mae'r costau yn mynd lan llawer yn fwy na hynny, felly mae ffermwyr dal ar eu colled yn anffodus.
"Mae'r ansicrwydd hynny o ran y prisiau maen nhw'n mynd i gael am eu cynnyrch, y sefyllfa wleidyddol sydd ohoni, y polisïau... ble fyddwn ni mewn blwyddyn, pum mlynedd, 10 mlynedd? Mae e'n ofid mawr i nifer."
Yn ffermio defaid yn Llanarth, cafodd Anwen Hughes saib o'i gwaith fferm am gyfnod wrth iddi helpu baratoi'r brecwast yn Felin-fach, Ceredigion fore Iau.
Wrth ddisgrifio cyflwr y sector ar hyn o bryd, dywedodd ei fod yn "eitha' bregus" o ystyried digwyddiadau'r flwyddyn ddiwethaf.
"Dyw pobl ddim yn gwybod lle i droi na beth i wneud nesaf," meddai.
"Yn sicr rhai ifanc, oes yna ddyfodol iddyn nhw? A fydd yna fferm iddyn nhw yn y dyfodol?
"Mae nifer yn meddwl bod eisiau importio yr holl fwyd, bod dim eisiau ni'r ffermwyr, ond ni sy'n rhedeg y wlad, ni sy'n cadw cefn gwlad i fynd."
Mae wythnos frecwast UAC yn cael ei chynnal am y 15fed tro eleni mewn siroedd fel Ceredigion.
Ynghyd â chodi arian at achosion da a hyrwyddo cynnyrch lleol, pwrpas y digwyddiadau hefyd yw cael pobl i drafod eu teimladau cyn diwrnod o waith.
Yn ôl Gareth Lloyd, er bod ysbryd pobl yn "eithaf isel" ar hyn o bryd a'r gaeaf yn gallu bod yn "unig" a'r "tywydd yn heriol", mae'r cyfle i rannu baich yn cael ei werthfawrogi.
'Mae'n eithaf digalon'
Ychwanegodd: "Siaradwch chi gyda pobl yn yr arwerthiant mewn martiau, mae 'na ffermwyr yn mynd allan o laeth.
"A ydy ffermydd teuluoedd yn mynd i fuddsoddi yn y newidiadau sydd angen arnon nhw i gwrdd â'r polisïau newydd?
"Does dim sicrwydd yna, felly mae e'n eithaf digalon, ond ar yr un pryd, pan chi'n cael criw at ei gilydd wedyn, chi'n trio codi eu calonnau nhw.
"Beth sydd eisiau yw annog pobl bod y gefnogaeth yna.
"Mae pobl yn ddigon parod i fod yn frwdfrydig am y diwydiant, ond mae eisiau cefnogaeth hefyd er mwyn iddyn nhw allu gwneud hynny."
Wrth siarad yn un o ddigwyddiadau brecwast yr UAC yng Nghaerdydd yr wythnos hon, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, eu bod "yn parhau i wrando ar ffermwyr".
"Fy mlaenoriaeth o hyd yw cefnogi diwydiant sy'n cynhyrchu bwyd arbennig, diogel, iachus, sy'n gwarchod yr amgylchedd a chefnogi bywoliaeth pobl mewn modd cynaliadwy," meddai.
"Rwy'n credu ei fod yn allweddol ein bod yn parhau i weithio gyda'n gilydd er mwyn sicrhau diwydiant ffermio cynaliadwy a llewyrchus, er budd y genhedlaeth bresennol o ffermwyr Cymru, yn ogystal â rhai'r dyfodol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2024