Amy Wadge: Angen 'rhoi pwrpas' i bobl ifanc greadigol

Amy Wadge yn ei stiwdio gartref
  • Cyhoeddwyd

Mae Manic Street Preachers, Syr Tom Jones a Stereophonics ymhlith 1,500 o artistiaid a bandiau sydd wedi ymuno â'r canwr Ed Sheeran yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi'r diwydiant cerddoriaeth fyw ym Mhrydain.

Yn y llythyr mae'n gofyn i'r Prif Weinidog, Keir Starmer, fuddsoddi £250 miliwn yn y diwydiant i ariannu ysgolion a lleoliadau perfformio llawr gwlad, hyfforddi athrawon cerdd, a sefydlu prentisiaethau.

Mae hefyd yn enwi Prifysgol Caerdydd wrth ddweud y dylid "cau'r bylchau" mewn addysg a stopio'r cynlluniau i gau'r adrannau cerdd mewn sefydliadau addysg uwch.

Un sydd hefyd wedi rhoi ei henw ar y llythyr ac sy'n adnabod Ed Sheeran yn dda iawn yw'r gyfansoddwraig Amy Wadge. Roedd hi'n siarad am sut y gallai cais ei chyfaill ddylanwadu ar y diwydiant a'r adnoddau yng Nghymru gyda Dot Davies ar BBC Radio Wales Breakfast.

Eglurodd yr enillydd Grammy: "Mae ein pobl ifanc dan anfantais os nad ydyn nhw'n gwneud chwaraeon. Os ydyn nhw'n greadigol dydyn nhw ddim yn cael yr un gefnogaeth.

"Nid creu sêr cerddoriaeth yw bwriad hyn. Rydyn ni wedi cyrraedd lle, i fod yn blwmp ac yn blaen, lle does gan ein pobl ifanc gyda chyfryngau cymdeithasol a'r risgiau mae hynny'n ei gyflwyno, ddim unrhyw beth i ymroi iddo.

"Mae rhoi pwrpas iddyn nhw mor bwysig."

Amy Wadge ac Ed Sheeran yn Ysgol FitzalanFfynhonnell y llun, Impact ESF

Mae Wadge ei hun wedi gweithio gydag ysgolion a chymunedau eisoes, ac wedi dod â'i chyfaill enwog gyda hi i'r ysgolion rheiny.

"Llynedd, fe greodd Ed The Ed Sheeran Foundation ledled y DU, ond fe ofynnodd i mi enwi lleoedd yng Nghymru y dylai e ymweld â nhw. Roedd Ysgol Fitzalan yn un ohonyn nhw.

"Dw i wedi gweithio yno ac wedi gweld ysgol mor arbennig ydy hi, a faint o gymorth sydd ei angen arni.

"Dim ond y dechrau yw hyn. 'Dw i angen dangos fy mod i o ddifrif a dechrau gwneud sŵn, yn enwedig am Gymru.

"Fe wnaiff Ed helpu pwy bynnag y gall e, ond rhaid i mi wneud yn fan hyn hefyd."

'Cynnydd' ac 'ymroddiad' gan y Llywodraeth

Ym mis Chwefror fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru £4.4 miliwn yn ychwanegol i gefnogi sectorau y celfyddydau, diwylliant a chyhoeddi yng Nghymru.

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mae'r arian yma "yn gynnydd o 8.5% i'r sector ar gyllideb refeniw y llynedd... ar ben £73.8 miliwn sydd wedi'i glustnodi i brosiectau fydd yn cynnal a chadw asedau diwylliannol Cymru.

"Mae'n gynnydd o £18.4 miliwn o lefelau 2024 i 2025."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod yn "ymroddedig i sicrhau nad yw celf, cerddoriaeth a drama yn rhywbeth ar gyfer y lleiafrif breintiedig".

Ychwanegodd y byddai Canolfan Genedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth a'r Celfyddydau yn "rhoi cyfle i blant a phobl ifanc fynd ar ôl eu diddordebau creadigol yn yr ysgol" ac y byddai buddsoddiad o £3 miliwn dros y flwyddyn ariannol nesaf yn cynnig "gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i blant ysgol ynglŷn â dilyn llwybr gyrfa greadigol".