Fy Stafell i: Amy Wadge
- Cyhoeddwyd
Mae ysgol yng Nghaerdydd wedi bod yn y penawdau wedi i'r seren bop Ed Sheeran berfformio yno - diolch yn rhannol i'w bartner sgwennu Amy Wadge.
Fe wnaeth Amy, sy'n byw ger Pontypridd, helpu sicrhau bod y perfformiad annisgwyl yn digwydd yn Ysgol Uwchradd Fitzalan fel rhan o lansiad yr Ed Sheeran Foundation.
Mae'r cerddor wedi ymgartrefu yng Nghymru gyda'i gŵr, yr actor, Alun ap Brinley a'u plant.
Un o'r ystafelloedd cyntaf i gael ei chwblhau yn y tŷ oedd yr ystafell hon, sef stiwdio Amy. Fe groesawodd y cerddor Cymru Fyw i'r ystafell sydd yn ofod creadigol iddi ac yn llawn arwyddion o'i llwyddiannau cerddorol.
Yma dwi'n sgwennu a recordio popeth pan dwi ddim yn America. Dwi'n treulio tua saith diwrnod y mis yn America, naill ai yn Nashville neu LA.
Mae'n siŵr fod gen i tua 20 gitâr i gyd.
Yr un ddu yma (trydydd o'r dde), fe gefais hi'n anrheg gan Alun pan oedden ni'n canlyn. Ac mae hon fan hyn (ail o'r chwith) yn fodel 'Sheryl Crow', ond dwi'n cofio baglu dros fy ngeiriau pan es i i'r siop i'w phrynu a dweud 'mod i'n chwilio am gitâr model Cheryl Cole!
Am flynyddoedd ro'n i'n chwarae gitârs ail-law o siopau elusen gan fod fy rhieni i wedi dweud y cawn i un newydd unwaith ro'n i o ddifri am chwarae - ro'n i wedi rhoi'r gorau i gymaint o offerynnau drwy fy mhlentyndod. Felly, ro'n i'n 17 oed pan ges i fy gitâr 'go iawn' gyntaf sef y Fender ddu yma.
Dwi'n lwcus iawn hefyd o fod wedi cael gitâr wedi'i henwi ar fy ôl gan gwmni Atkin, sef y WOJ. Mae geiriau o un o fy nhatŵs i ar ben y gitâr, "No risk, no reward."
Ond ar y fiola nes i ddysgu popeth, go iawn. Hwn oedd fy fiola i'n tyfu fyny.
Dywedodd rhywun wrtha' i unwaith y gall un gân newid dy fywyd, ac yn sicr fe wnaeth Thinking Out Loud hynny i mi.
Nes i gwrdd ag Ed [Sheeran] pan oedd e'n 17 mlwydd oed. Fe ddaeth e draw am sesiwn sgwennu gyda fi ac ro'n i'n poeni am be' fydden ni'n siarad. Ond fe ysgrifennon ni naw o ganeuon y tro cyntaf hwnnw, rhywbeth doedd erioed wedi digwydd o'r blaen a sy' heb ddigwydd ers hynny!
Rydyn ni'n ffrindiau da a dwi'n dal i ysgrifennu gyda fe.
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2016
Mae brawd Ed, Matt, yn gerddor clasurol a fe ges i hwn ganddo fe sef sgôr o Thinking Out Loud wnaeth e gyda llaw. Rhaid cyfaddef mae'n cŵl!
Alla' i ddim egluro cymaint o ddrysau mae'r gân wedi'u hagor i mi. Rwy'n cael gweithio gyda chynifer o bobl anhygoel a chwrdd ag arwyr i mi. Mae fel breuddwyd.
Roedd cwrdd ag Elton John yn anhygoel. Fe oedd y dechrau i mi. Mae e'n ysbrydoliaeth i gyfansoddwyr ym mhobman.
Gyda'r pethau hyn mae'n rhaid cario 'mlaen i fynd tra mae'n digwydd. Dw i ddim am stopio!
Roedd hwn yn fraint i'w gael ac yn hynod cŵl sef tystysgrif sy'n nodi fod cân wedi cael statws diamwnt gan yr RIAA [Recording Industry Association of America].
Mae statws diamwnt yn golygu fod sengl wedi gwerthu dros 10 miliwn o gopïau yn yr Unol Daleithiau. Dim ond rhyw 25 o ganeuon sydd wedi derbyn y statws yma, dwi'n meddwl, ac mae Thinking Out Loud yn un ohonyn nhw - hollol anhygoel!
Dwi wedi cyfansoddi gyda phobl na fuaswn i 'rioed wedi dychmygu gweithio efo nhw: John Legend, Kylie Minogue, Kacey Musgraves, Camila Cabello, Alicia Keys; bob math o bobl ym myd pop a chanu gwlad.
Un tro pan ddaeth 'na artist yma i gyfansoddi, y bore hwnnw ro'n i wedi gwneud cyfweliad yn y stiwdio a roedden nhw wedi gofyn i mi ddod â'r wobr Grammy i mewn yma ar gyfer tynnu llun ohono. Fel arfer mae'n cael ei gadw mewn cabinet yn yr ystafell fyw gyda gwobrau eraill. Ar ôl i'r cyfwelydd adael, nes i anghofio popeth am y Grammy a oedd yn eistedd ar ben y piano yn y stiwdio.
Roedd e'n dal yna pan ddaeth yr artist i mewn yma y prynhawn hwnnw. Wir, ro'n i'n teimlo'n wirion fel pe bawn i'n ceisio dweud "Www, edrycha ar fy ngwobr i." Cywilydd!
Nid fel hyn mae'n edrych yma fel arfer. Mae'r allweddellau wedi'u gosod fel 'mod i'n gallu ymarfer cyn mynd ar daith.
Rwy'n caru'r 'stafell 'ma. Dwi wedi sicrhau ei bod hi'n ambient felly mi allaf ei newid i deimlo fel dydd neu nos dim ots pa adeg o'r dydd yw hi i siwtio pwy bynnag sydd yma yn gweithio gyda fi.
Mae'n well gen i gael yr ymdeimlad o nos i weithio yma. Ond, ie, mae'n braf cael gofod fel hwn adref.
Mae hon yn addasiad o erthygl gyhoeddyd gan BBC Cymru Fyw fis Mawrth 2020
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2017