'Sioc' disgyblion wrth i Ed Sheeran ganu mewn ysgol yng Nghaerdydd

Ed SheeranFfynhonnell y llun, Impact ESF
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Sheeran hefyd ymweld â chanolfannau Ministry of Life Education a Sound Progression yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd

Fe gafodd disgyblion mewn ysgol yng Nghaerdydd brynhawn i'w gofio wrth i'r canwr adnabyddus, Ed Sheeran, berfformio iddyn nhw.

Fe wnaeth y seren bop berfformio o flaen torf o 2,000 ym mhrif neuadd Ysgol Uwchradd Fitzalan.

Roedd y disgyblion wedi bod yn gwrando ar berfformiad gan Only Boys Aloud i ddathlu adroddiad Estyn yr ysgol pan wnaeth Sheeran ymddangos o nunlle.

Dywedodd pennaeth y Gymraeg, Anwen Jones, fod "neb yn gallu credu fe, roedd 'na gyffro".

Ffynhonnell y llun, Impact ESF
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Ed Sheeran ateb cwestiynau disgyblion gyda'r gantores Amy Wadge

Dywedodd Shane, 14, fod "pawb yn gyffrous" a bod Ed Sheeran wedi "canu yn wych".

Dywedodd Neeve Owen, 15 ei bod "mor gyffrous a dwi methu credu fod rhywun mor enwog wedi dewis dod i Fitzalan".

Un arall wnaeth fwynhau'r sypreis oedd Cameron, 18.

Dywedodd: "Roedd e'n sioc enfawr, roedd e wedi chwarae cerddoriaeth yn y neuadd, dwi ddim yn gwybod beth i ddweud, roedd e'n ardderchog."

Ag yntau'n cyfansoddi cerddoriaeth ei hun, fe gafodd Cameron y cyfle i holi am ychydig o gyngor gan Ed Sheeran.

"Siaradais i gydag ef a wnes i ofyn cwestiwn am writers block."

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Cameron, Neeve a Shane fwynhau perfformiad Ed Sheeran

'Roedd pawb wrth eu bodd'

Wrth ymateb i'r perfformiad annisgwyl, dywedodd pennaeth yr adran Gymraeg, Anwen Jones fod "neb yn gallu credu fe".

"Roedd 'na gyffro, roedd yr athrawon yr un mor wael â'r disgyblion, 'oedd pawb yn really, really cyffrous."

Dywedodd fod y disgyblion a'r staff wedi "disgwyl gwasanaeth ysgol i ddathlu ein hadroddiad Estyn... ac roedd y côr yn wych, ac yna fe wnaeth y dirprwy gyhoeddi fod Ed Sheeran yn dod allan".

"Oedd just teimlad braf yn y neuadd, rhyw gyffro yna, ac oedd e just yn hyfryd achos na'th e ganu un can ac fe wnaeth y disgyblion ganu gyda fe ac oedd e just yn deimlad o gymuned ac roedd pawb wrth eu bodd."

Dywedodd bod Sheeran wedi gwneud sesiwn cwestiwn ac ateb gyda disgyblion yr adran gerdd a sôn am ei brofiad o ysgrifennu caneuon.

"'Oedd e'n brofiad i ni fod yn rhan o rywbeth mor enfawr.

"Ni gyd dal methu credu bo' ni'n gorfod cario 'mlaen 'efo diwrnod gwaith a bod Ed Sheeran wedi bod yn yr ysgol bore 'ma."

Pynciau cysylltiedig