Ditectif yn ddieuog o ymosodiad rhyw yng Ngheredigion

AberaeronFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Samuel Garside yn gwadu ymosod ar fenyw yn Aberaeron fis Rhagfyr 2021

  • Cyhoeddwyd

Mae ditectif gyda Heddlu Dyfed-Powys wedi ei gael yn ddieuog o ymosodiad rhyw ar noson allan yng Ngheredigion.

Roedd y Ditectif Gwnstabl Samuel Garside, 31 oed o bentref Cwm-ann ger Llambed, yn gwadu ymosod ar fenyw ar stryd yn Aberaeron ar 3 Rhagfyr 2021.

Fe welodd Llys y Goron Abertawe gyfweliad fideo gyda'r fenyw, na chaiff ei henwi am resymau cyfreithiol, yn honni bod y diffynnydd wedi cydio ynddi, ei gwthio i ddrws a rhoi ei law dan ei siorts heb iddi gydsynio.

Fe gymrodd y rheithgor ychydig dros awr i ystyried y dystiolaeth cyn dod i benderfyniad.

'Proffesiynol, gonest, dibynadwy'

Fe gafodd Mr Garside ei arestio yng Ngorffennaf a'i wahardd o'i waith gydag adran Ceredigion y llu yr un mis.

Dywedodd arweinydd yr ymchwiliad wrth y llys eu bod "wedi gweithredu'n gyflym" mewn ymateb i'r honiad.

Ar ran yr amddiffyn, dywedodd Nicola Powell KC wrth y llys bod Mr Garside "yn swyddog heddlu mewn gwasanaeth, heb unrhyw erlyniadau na rhybuddion blaenorol".

Ychwanegodd bod tystlythyrau i'r llys yn "cadarnhau ei gymeriad da" ac yn amlygu ei fod yn berson "proffesiynol, gonest, ffyddiog, dibynadwy, cwrtais a llawn parch".

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr achos ei gynnal yn Llys y Goron Abertawe

Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, Ifan Charles: "Roedd hwn yn honiad difrifol yn erbyn unigolyn â swyddogaeth i ddiogelu pobl Dyfed-Powys, ac o'r herwydd fe gafodd camau eu gweithredu'n gyflym pan gafodd yr adroddiad ei wneud.

"Cafodd DG Garside ei wahardd yn syth o'i ddyletswyddau tra bod ymchwiliad llawn a manwl yn cael ei gynnal, ac mae dyfarniad heddiw'n dod â'r broses gyfreithiol i ben."

Mewn proses ar wahân, fe fydd y llu nawr yn ystyried a ddylai Mr Garside wynebu camau disgyblu am gamymddygiad, ac mae'n dal wedi ei atal o'i waith nes i'r asesiad hwnnw gael ei gwblhau.