Pryder busnesau wrth i Amgueddfa Lechi Cymru gau am ddwy flynedd
- Cyhoeddwyd
Mae yna bryder y bydd cau un o brif amgueddfeydd Cymru am ddwy flynedd yn cael effaith ar rai o fusnesau Llanberis.
Ddydd Sul bydd Amgueddfa Lechi Cymru yn cau tan fis Hydref 2026 ar gyfer gwaith adnewyddu ac ailddatblygu.
Mae’r amgueddfa, sy'n adrodd hanes diwydiant llechi Gwynedd, yn denu rhyw 150,000 o ymwelwyr yn flynyddol.
Nod y gwaith, a fydd yn costio £21 miliwn, yw sicrhau’r adeilad i’r dyfodol, gwella profiad ymwelwyr a denu mwy o bobl i’r amgueddfa tu allan i gyfnod prysur yr haf.
Ers tair blynedd mae ardal llechi Gwynedd wedi bod ar restr Safleoedd Treftadaeth Byd UNESCO.
Mae’n statws sydd gan 900 o lefydd ledled y byd - gan gynnwys Wal Fawr China a’r Taj Mahal yn India.
Yr ardaloedd penodol yn ardal llechi Gwynedd yw Dyffryn Ogwen, Dyffryn Nantlle, Ffestiniog, Cwm Pennant, Abergynolwyn a Dinorwig, sef lleoliad Amgueddfa Lechi Cymru.
Mae'r amgueddfa yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn ac felly bydd ei cholli am gyfnod mor hir yn ergyd i fusnesau Llanberis yn ôl Aaron Gethin, sy'n 32 oed ac yn rheolwr un o dafarndai'r dre.
"Mi fydd yna effaith ar ein busnes ni oherwydd mae cau am ddau Basg a haf yn gyfnod hir ac yn sicr dwi’n rhagweld llai o deuluoedd yn dod i aros," meddai.
"Mae rhan fwya’r teuluoedd sy’n dod i aros gyda ni yn dod er mwyn mynd i’r amgueddfa a defnyddio’r trên sy’n mynd o amgylch y llyn."
"Nid pawb sy’n gallu cerdded y mynyddoedd - felly maen nhw’n atyniadau pwysig. Mae twristiaeth mor bwysig i’r ardal, felly ni yn pryderu."
Ond yn ôl pennaeth yr amgueddfa ers dros dair blynedd, Elen Roberts, mae angen gwneud gwaith atgyweirio i sicrhau dyfodol yr amgueddfa.
“Mae’n amser cyffrous iawn i ni. Mae’n 25 mlynedd ers ein buddsoddiad sylweddol diwethaf. Mae’r prif adeiladau o’r 1870au ac maen nhw’n dechrau dangos ei oed, felly mae angen cwblhau gwaith cadwraeth.
"Mi fydd yr hyn sy’n digwydd yn diogelu’r amgueddfa am flynyddoedd i ddod tra hefyd yn sicrhau ein bod ni’n atyniad o safon byd-eang,” meddai.
Mae dros 8,000 o eitemau wedi cael eu symud o'r amgueddfa i gartref newydd dros dro er mwyn galluogi’r gwaith adnewyddu i fynd yn ei flaen.
Dan y cynlluniau mi fydd yr adeiladau Gradd 1 nodedig yn cael eu hadnewyddu.
Bydd canolfan addysg newydd, man chwarae, siop a chaffi yn cael eu datblygu.
Yn ogystal bydd gwelliant i'r ffordd y mae straeon hanesyddol yr amgueddfa yn cael eu rhannu a bydd gofodau’n cael eu huwchraddio er mwyn galluogi’r amgueddfa i rannu mwy o gasgliadau amrywiol Amgueddfa Cymru.
Un o brif atyniadau’r amgueddfa yw’r cyfle i weld chwarelwyr wrth eu crefft.
Andrew Jones yw’r chweched genhedlaeth o’i deulu i weithio yn y chwareli.
Mae wedi gweithio yn y diwydiant ers 1984, gan ddechrau ar ei waith yn yr amgueddfa wyth mlynedd yn ôl.
“Mae’n bwysig iawn bod y diwydiant llechi yn parhau. Os ydyn ni’n colli’r chwareli 'da ni’n colli mwy na’r gwaith yn unig, byddwn ni’n colli’n cymunedau ni hefyd.
"Heb y gymuned bydd pawb yn symud o yma ac mi fydd pethau 'di newid yn llwyr mewn dim,” meddai.
Ychwanegodd: “Dwi wedi bod yn lwcus iawn cael y cyfle i ddangos fy sgiliau i bobl o bedwar ban byd.
"Mae’n grêt cael hwyl gyda nhw a dangos bod ein chwareli ni ymysg y gorau yn y byd. Dwi’n edrych ymlaen at fod yma eto ar ôl i’r amgueddfa ail agor.”
Y nod yw ailagor yr amgueddfa ym mis Hydref 2026. Yn y cyfamser mi fydd rhai o arddangosfeydd yr amgueddfa yn teithio o amgylch rhai o gymunedau Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2022
- Cyhoeddwyd10 Mai