Amgueddfa Lechi Llanberis yn disgwyl derbyn tua £18m
- Cyhoeddwyd
Mae Amgueddfa Lechi Cymru yn disgwyl derbyn “tua £18m” dros y blynyddoedd nesaf er mwyn gwella mynediad a phrofiad ymwelwyr.
Yn ôl pennaeth yr amgueddfa yn Llanberis, mae’r cyllid yn “llygedyn o obaith” i’r sector, sy’n wynebu cyfnod “heriol”.
Fis Ebrill fe gyhoeddodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru y byddai’n rhaid gwneud 90 o ddiswyddiadau oherwydd toriadau i’w cyllideb.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn “i ganolbwyntio ar wasanaethau craidd”.
Bydd y cyllid i’r Amgueddfa Lechi yn Llanberis yn dod o sawl cronfa, gan gynnwys y Loteri Genedlaethol, Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a grant gan Lywodraeth Cymru.
Yn ôl yr amgueddfa mae statws UNESCO Treftadaeth y byd wedi galluogi’r sefydliad i wneud ceisiadau am ragor o grantiau.
Dyma’r buddsoddiad sylweddol cyntaf "ers chwarter canrif”, meddai Elen Wyn Roberts, pennaeth yr amgueddfa.
"Mae 'na elfennau o’r adeilad sy’n gwegian erbyn hyn ac mae’r adeilad ei un dros 150 o flynyddoedd oed," meddai.
“Mae’r gwaith cadwraeth yn bwysig ond hefyd gwella'r isadeiledd, y siop a’r caffi, a hefyd gwella profiad yr ymwelydd yn gyffredin a'r orielau.”
Fe ddaw’r buddsoddiad wedi pryderon ar draws y sector yng Nghymru o sgil effeithiau toriadau.
Yn gynharach eleni fe wnaeth y Prif Weinidog Vaughan Gething amddiffyn y toriadau i’r amgueddfa genedlaethol, gan beidio â chynnig cymorth brys.
Ar y pryd, fe rybuddiodd Jane Richards, prif weithredwr Amgueddfa Cymru, y gallai un o'i safleoedd mwyaf adnabyddus - yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd - gau am fod ei gyflwr yn dirywio.
Yn ôl Elen Wyn Roberts, mae’r sector yn wynebu heriau enfawr.
“Mae’n gyfnod heriol ofnadwy a bod yn onest.
“Ond mae’r arian yma yn rhoi llygedyn o obaith i ni. Mae’n rhoi dyfodol i’r Amgueddfa Lechi mewn cyfnod mor ansicr.
Bydd y gwaith diweddaru yn canolbwyntio ar ehangu casgliadau a gwella mynediad, ynghyd â sicrhau mwy o gyfleodd i addysgu.
'Cadw sgiliau'
Yn ôl Jon Jo, chwarelwr sy’n gweithio gyda’r amgueddfa - ac o deulu chwe chenhedlaeth o chwarelwyr - mae’r newyddion i’w groesawu.
“Mae’n syniad da iawn ac mae’n mynd i gadw sgiliau i fynd a’u harddangos nhw i bobl o bedwar ban byd," meddai.
“Mae’r sgiliau yn mynd yn brin, ond dyna pam mae’n bwysig trio cael rhywbeth tu ôl iddo i gadw fo fynd."
Wrth ymateb i bryderon am gyllid dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod sefydliadau diwylliant, celf a chwaraeon yn rhan annatod o’n cymdeithas a’n lles.
“Rydym wedi bod yn glir bod ein cyllideb hyd at £700m yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod yn 2021, ac rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn i ganolbwyntio cyllid ar wasanaethau cyhoeddus craidd, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd."
Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Lesley Griffiths: "Mae'r diwydiant llechi yn rhan bwysig o gymunedau, tirweddau a threftadaeth y rhan yma o Gymru ac mae Amgueddfa Lechi Cymru yn cynnig cyfle unigryw i gael cipolwg ar fywydau'r gweithwyr llechi a'u teuluoedd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ebrill
- Cyhoeddwyd9 Medi 2022
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2021