Gyrrwr wedi methu â stopio ar ôl taro bachgen, 13, yn Llanrwst

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol yr Orsaf toc wedi 12:00 dydd Llun
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n apelio ar ôl i fachgen 13 oed gael ei daro gan gar a fethodd â stopio yn Llanrwst, Sir Conwy.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol yr Orsaf toc wedi 12:00 ddydd Llun.
Cafodd y bachgen ei daro gan gar du ar ôl iddo golli ei falans a disgyn oddi ar y palmant.
Roedd y gwrthdrawiad yn ddigon i daro'r bachgen oddi ar ei draed ac er i'r gyrrwr arafu fe fethodd â stopio, meddai Heddlu'r Gogledd.
Dywedodd y llu bod y bachgen wedi torri ei goes mewn tri lle.
Dywedodd PC Martin Taylor: "Nid yw anafiadau'r bachgen yn peryglu ei fywyd - ond mae penderfyniad y gyrrwr i beidio â stopio a gwirio ei lesiant wedi gadael ei deulu'n ofidus iawn, yn ddealladwy.
"Rydym yn cydnabod y gall digwyddiadau fel hyn achosi pryder o fewn y gymuned, ac rydym wedi ymrwymo i wneud popeth posibl i sicrhau eglurder ac atebolrwydd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.