Morgan yn bwrw amheuaeth ar gleifion Cymru yn mynd i Loegr

GIGFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae'r prif weinidog wedi bwrw amheuaeth ynghylch a fyddai cynllun trawsffiniol y GIG a gyhoeddwyd mewn cynhadledd Lafur yn gweld mwy o gleifion o Gymru yn cael eu trin yn Lloegr.

Cyhuddodd Eluned Morgan y cyfryngau a’r gwrthbleidiau o gamliwio’r polisi, a oedd, meddai, yn ymwneud â’r ddwy system yn dysgu oddi wrth ei gilydd, gan ychwanegu nad oedd gan Loegr “lawer” o gapasiti.

Daeth ei sylwadau er i ysgrifennydd Cymru, hefyd o'r blaid Lafur, ddweud mewn cyfweliad ym mis Medi y byddai "partneriaethau cyd-gymorth" yn gweld ymddiriedolaethau yn Lloegr a byrddau GIG Cymru yn nodi capasiti fel "gallwn gael pobl i mewn i'r theatr".

Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, gyhuddo Llafur o roi "gobaith ffug" i gleifion.

Mae’n dilyn cyfweliadau gyda’r BBC dros y penwythnos gydag ysgrifennydd iechyd Cymru Jeremy Miles lle gwadodd hefyd y byddai’r polisi yn gweld cleifion yn cael eu trin yn Lloegr.

'Ymwneud â dysgu arfer gorau'

Mae Plaid Cymru wedi cael ymatebion o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth gan dri chorff iechyd y GIG - dau yn Lloegr ac un yng Nghymru - sy'n dweud nad ydyn nhw wedi cael unrhyw ohebiaeth gan lywodraethau'r DU na Chymru am y syniad.

Yn y Senedd ddydd Mawrth fe ddarllenodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, erthygl newyddion oedd yn dweud y byddai cleifion yn cael teithio i Loegr ar gyfer triniaeth cleifion allanol neu ddewisol, o dan gynlluniau gafodd eu cyhoeddi gan Ysgrifennydd Cymru Jo Stevens.

Wrth ofyn beth oedd ystyr geiriau Jo Stevens, atebodd Eluned Morgan: “Rwy’n credu bod pobl wedi bod yn rhoi geiriau yn ein cegau o ran y berthynas a’r hyn a gyhoeddwyd gennym.

“Fe wnaethon ni ddweud ein bod ni eisiau gweld lle gallwn ni ddysgu gan rannau eraill o’r Deyrnas Unedig sy’n gweithio’n llwyddiannus, gan eu bod nhw’n awyddus i... ddysgu gennym ni.”

Wedi pwyso ymhellach gan ap Iorwerth, ychwanegodd: “Rwy’n credu’n onest eich bod chi i gyd, yn ogystal â’r cyfryngau, wedi bod yn taflunio pethau ar hanfod y berthynas hon.

“Rydym wedi dod â’r arbenigwyr hyn i mewn sy’n dweud wrthym beth sy’n gweithio’n dda yn y GIG yn Lloegr, a byddant yn gweithio gyda’r arbenigwyr o Gymru ar sut y bydd hynny’n gweithio orau".

Dywedodd fod y ddau wasanaeth GIG eisoes yn cefnogi ei gilydd. Mae pobol gyda thaflod hollt ym Mryste yn mynd i Gymru am gefnogaeth, meddai'r prif weinidog.

“A dweud y gwir does dim cymaint o gapasiti yn Lloegr chwaith, ar hyn o bryd.

"Fe ddywedaf wrthych beth mae'n ei olygu - mae'n ymwneud â dysgu arfer gorau," pwysleisiodd y prif weinidog.

Dywedodd wrth arweinydd Plaid Cymru: "Pam na ddarllenwch yr hyn yr ydym wedi'i ddweud mewn gwirionedd?"

Dywedodd Rhun ap Iorwerth wrth y Senedd fod Llafur Cymru a'r DU "wedi dod o hyd i gawl gair, sy'n tynnu sylw oddi wrth eu methiant".

Dywedodd fod Llafur wedi rhoi "gobaith ffug" i gleifion.

Adroddodd cyfryngau Cymreig a Phrydain, gan gynnwys y BBC, gynllun trawsffiniol i dorri rhestrau aros yn ystod cynhadledd Llafur y DU ym mis Medi.

Daeth y sylw yn dilyn datganiad newyddion Llafur a ddywedodd y byddai'r ddwy lywodraeth yn "cydweithio ar ofal iechyd am y tro cyntaf i helpu i ostwng rhestrau aros ar ddwy ochr y ffin".

Mewn cyfweliad gyda'r BBC y mis hwnnw, dywedodd Jo Stevens: “Yr hyn rydyn ni’n ei wneud yw creu partneriaethau cydgymorth ledled Cymru a Lloegr.

“Felly, bydd ymddiriedolaethau’r GIG yn Lloegr a byrddau iechyd Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i ddod â’r rhestrau aros llawdriniaethau hynny i lawr trwy nodi capasiti yn y systemau mewn gwahanol arbenigeddau, a gwneud yn siŵr y gallwn gael pobl i mewn i theatr.”

Pan ofynnwyd iddi faint o gleifion a fyddai’n elwa, ychwanegodd: “Cymaint ag y mae yno gapasiti i gyflawni”.

Defnyddiodd Plaid Cymru y ddeddf rhyddid gwybodaeth i ofyn tri chorff iechyd ar y ffin pa ohebiaeth oedd wedi dod i law gan lywodraethau’r DU a Chymru ar bartneriaeth newydd i leihau amseroedd aros.

Dywedodd Bwrdd Gofal Integredig GIG Swydd Gaerloyw, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Bwrdd Gofal Integredig GIG Swydd Henffordd a Swydd Gaerwrangon ill tri nad ydyn nhw wedi derbyn unrhyw ohebiaeth.