Cleifion o Gymru i gael eu trin yn Lloegr fel rhan o gynllun newydd?
- Cyhoeddwyd
Fe all cleifion o Gymru dderbyn triniaeth yn Lloegr fel rhan o gynllun newydd sydd wedi ei gyhoeddi gan lywodraethau Llafur Cymru a'r DU er mwyn ceisio mynd i'r afael â rhestrau aros.
Byddai cleifion o Loegr yn gallu derbyn triniaeth yng Nghymru hefyd, a bydd gwasanaethau deintyddol Cymru yn cael eu defnyddio fel esiampl o arfer da ar gyfer y gwasanaeth iechyd dros y ffin.
Cafodd cynnig blaenorol o gymorth gan Lywodraeth Geidwadol y DU ym mis Awst 2023 ei ddisgrifio fel "cam gwleidyddol" gan y prif weinidog Eluned Morgan - a oedd yn ysgrifennydd iechyd ar y pryd.
Llywodraeth Cymru sy’n rheoli’r GIG yng Nghymru fel rhan o’r setliad datganoli, gyda gweinidogion y DU yn gyfrifol am y gwasanaeth iechyd yn Lloegr.
Yn ôl Ysgrifennydd Cymru Jo Stevens, fe allai byrddau iechyd Cymru ac ymddiriedolaethau iechyd yn Lloegr "gydweithio i gynnig mwy o driniaethau".
- Cyhoeddwyd20 Medi
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2023
Roedd maniffesto Llafur ar gyfer yr etholiad cyffredinol yn cynnwys addewid i weithio gyda Llywodraeth Cymru i leihau amseroedd aros.
Arweiniodd hynny at gwestiynau i Syr Keir Starmer ynglŷn ag ymyrryd yn ormodol ar faterion sydd wedi eu datganoli.
Mae anghydfod hir wedi bod rhwng deintyddion Cymru a'r llywodraeth ym Mae Caerdydd am nifer yr apwyntiadau sydd ar gael i gleifion ar y GIG.
Dywedodd Cymdeithas Ddeintyddol Prydain (BDA) fod newidiadau i gytundebau er mwyn creu 112,000 o apwyntiadau ar gyfer cleifion newydd yn blaenoriaethu'r cleifion hynny ar draul rhai presennol.
Y llynedd fe rybuddiodd y corff y gallai deintyddiaeth ar y GIG yng Nghymru ddiflannu.
Dim ond 44.8% o bobl Cymru gafodd driniaeth gan ddeintydd ar y GIG rhwng Ionawr a Rhagfyr 2023, yn ôl ffigyrau swyddogol.
Mae nifer y deintyddfeydd sydd ar agor yng Nghymru wedi codi’n raddol dros y tair blynedd diwethaf i 1,434, ond mae hynny'n is na'r ffigwr cyn y pandemig (1,506).
Mae gwasanaethau deintyddol yn Lloegr hefyd wedi wynebu heriau mawr, ac ym mis Rhagfyr y llynedd fe rybuddiodd yr Ymddiriedolaeth Nuffield fod model traddodiadol gwasanaethau deintyddol "wedi mynd am byth".
'Dim ond y cam cyntaf'
Fel rhan o’r cynllun i fynd i'r afael â rhestrau aros, bydd Cymru’n elwa wrth i Loegr - ble mae cynlluniau i gynnig 40,000 yn fwy o apwyntiadau bob wythnos - rannu enghreifftiau o arfer da.
Daeth yr addewid am ragor o apwyntiadau ym mis Mai wrth i Lafur nodi y byddai'n costio £1.1bn i dalu am yr oriau ychwanegol y bydd angen i staff weithio.
Byddai disgwyl i Lywodraeth Cymru dderbyn cyllid canlyniadol oherwydd yr arian ychwanegol fyddai'n cael ei wario dros y ffin.
Dywedodd Llafur mewn datganiad ddydd Sul y byddai rhagor o gyfleoedd i edrych ar gydweithio trawsffiniol.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Jo Stevens: “Dim ond y cam cyntaf yw hwn mewn partneriaeth newydd feiddgar rhwng llywodraethau Llafur y DU a Chymru, a fydd yn helpu darparu gwell gofal i gleifion a gostwng rhestrau aros."
Dywedodd Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan: “Nid oes gennym ni fonopoli ar syniadau da ac mae llawer y gallwn ei ddysgu gan ein cymdogion agosaf, ac mae gennym lawer y gallwn ei rannu â’n cydweithwyr yn GIG Lloegr.
“Rydym yn barod i wneud y mwyaf o rym dwy lywodraeth Lafur.”
Yn siarad ar Dros Frecwast fore Llun dywedodd Morgan mai'r nod yw "sicrhau bod ni'n dysgu o’n gilydd beth sydd yn gweithio orau".
"Y ffaith yw, mae’r ddau ohonon ni yn stryglo gyda dod â’r waiting lists yna lawr ond mae 'na bocedi o arfer da, a beth sydd yn bwysig yw bod ni yn rhannu yr arfer da yna ac yn dysgu o’n gilydd.
“ Achos bod ni wedi newid y cytundeb yng Nghymru, mae 400,000 o bobl yn ychwanegol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi gallu gweld dentist NHS.
"Mae hynny lot yn well na beth sydd yn digwydd yn Lloegr, lle mae 'na broblemau lot yn waeth o ran deintyddiaeth na’r hyn sydd yn digwydd yng Nghymru.
"Felly maen nhw'n awyddus dysgu wrthon ni – mae’r ffaith bod 60% yn fwy o bobl sydd yn byw ar y ffin isie cael eu registro gyda GP yng Nghymru na ffordd arall, mae hynna yn dweud rhywbeth wrthoch chi ynglŷn â’r gwasanaeth."
'Prin o eglurder'
Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Sam Rowlands ei bod hi'n "hen bryd", ond fod y newyddion i'w groesawu.
"Fe wnaeth Llywodraeth Lafur Cymru wrthod y cynnig yma gan Lywodraeth Geidwadol y DU am resymau gwleidyddol, gan roi cleifion mewn perygl," meddai.
Dywedodd Mabon ap Gwynfor, llefarydd iechyd Plaid Cymru, fod y cyhoeddiad "yn brin o eglurder".
"Nid yw partneriaeth â San Steffan, sy'n cael ei harwain gan yr un blaid sydd wedi llywio’r dirywiad [yn GIG Cymru], yn cynnig llawer o sicrwydd," meddai.
"Mae angen gweithredu radical i fynd i’r afael â’r materion sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn, sef cadw staff, buddsoddi a moderneiddio'r GIG, yn ogystal â sicrhau bargen ariannu deg i Gymru gan San Steffan."