Ymddiheuro i deulu dyn fu farw wedi gwrthdrawiad trên Llanbrynmair

Tudor EvansFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tudor Evans yn 66 oed ac yn dod o Gapel Dewi ger Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi ymddiheuro i deulu dyn fu farw pan fu dau drên mewn gwrthdrawiad ym Mhowys.

Bu farw David Tudor Evans, 66, ar ôl i ddau drên Trafnidiaeth Cymru wrthdaro yn Nhalerddig, ger Llanbrynmair ym Mhowys am 19:26 ar 21 Hydref.

Bellach mae ffrind agos i’r teulu wedi cyhuddo Heddlu Trafnidiaeth Prydain (BTP) – sy’n ymchwilio i’r digwyddiad – o fethu â chefnogi’r teulu.

Ddydd Iau fe wnaeth yr heddlu ymddiheuro yn swyddogol.

Wrth siarad ag asiantaeth newyddion PA, dywedodd ffrind i’r teulu: "Y gwir yw bod Rachel Evans - gwraig Mr Evans - ar y noson y gwrthdrawiad wedi cael ei gadael ar ben ei hun heb gefnogaeth ddigonol."

Ar 22 Hydref fe gyhoeddodd yr heddlu ddatganiad a oedd yn dweud, "mae perthynas agosaf y sawl sydd wedi marw wedi cael gwybod ac mae ei deulu yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol".

Ond ni ymwelodd swyddog arbenigol o'r heddlu tan ddydd Mercher 23 Hydref.

Dywedodd y ffrind hefyd fod y teulu yn anghytuno ag adroddiadau yn y cyfryngau a oedd yn awgrymu achos y farwolaeth.

"Ar hyn o bryd, mae'r adroddiadau yn dweud nad oedd achos y farwolaeth yn gysylltiedig â'r gwrthdrawiad a does dim tystiolaeth o hynny," meddai.

Ddydd Mercher cafodd y cwest i achos marwolaeth Tudor Evans ei agor a nodwyd nad oedd achos y farwolaeth wedi’i gofnodi eto.

Dywedodd yr uwch-arolygydd Andrew Morgan o Heddlu Trafnidiaeth Prydain: "Hoffem ymddiheuro am y datganiad a gyhoeddwyd ar gam yn fuan ar ôl y gwrthdrawiad trên a ddigwyddodd ddydd Llun 21 Hydref yn Llanbrynmair.

"Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi ymddiheuro'n uniongyrchol i deulu'r sawl fu farw am y datganiad hwn a hoffent ymddiheuro'n gyhoeddus am unrhyw ddioddefaint ychwanegol a achoswyd ar yr amser hynod anodd hwn."

Yn ystod y cwest brynhawn Mercher, dywedodd crwner cynorthwyol Ceredigion, Louisa Corcoran, fod post-mortem ar y gweill, ac felly nad oedd achos meddygol i'r farwolaeth wedi'i gofnodi eto.

Eglurodd Ms Corcoran nad oedd dyddiad cwest wedi ei benodi, ac nad ydyn nhw wedi pennu dyddiad ar gyfer gwrandawiad cyn-cwest chwaith - a hynny oherwydd "cymhlethdod" yr ymchwiliad.

Cafodd pedwar o bobl eraill anafiadau difrifol yn ystod y digwyddiad, a chafodd 11 arall driniaeth yn yr ysbyty.

Yn ôl y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd, RAIB, mae ymchwiliadau cychwynnol yn awgrymu fod lefel y gafael rhwng yr olwynion a'r trac yn isel, a bod y trên wedi llithro wrth geisio dod i stop.

Ychwanegon nhw fod ymchwiliadau cychwynnol hefyd yn awgrymu fod y ddamwain wedi digwydd ar gyflymder o 15mya.

Pynciau cysylltiedig