Gwrthdrawiad trên Powys: Agor cwest i farwolaeth teithiwr
- Cyhoeddwyd
Mae cwest i farwolaeth dyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau drên ym Mhowys wedi ei agor.
Roedd Tudor Evans, oedd yn 66 oed o Gapel Dewi ger Aberystwyth, yn teithio ar drên o Amwythig i Aberystwyth ar nos Lun, 21 Hydref pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger Llanbrynmair.
Clywodd y cwest yng Nghanolfan Cyfiawnder Aberystwyth fod gwraig Mr Evans, Rachel, wedi adnabod ei gorff yn swyddogol yn y fan a'r lle.
Mae ymchwiliadau'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB) a’r Heddlu Trafnidiaeth yn parhau.
Roedd Mr Evans wedi bod yn teithio adref o wyliau yn yr Eidal pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Roedd un o'r trenau oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad yn teithio o Amwythig i Aberystwyth, a'r llall o Fachynlleth i Amwythig.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am tua 19:29, ar ôl adroddiadau o ddamwain cyflymder isel ger Llanbrynmair.
Cafodd pedwar o bobl eu hanafu'n ddifrifol ac roedd angen triniaeth ysbyty ar 11 arall, gan gynnwys aelodau o staff y trên.
Roedd cyfanswm o 41 o deithwyr ar y ddau drên ar y pryd.
Ymchwiliadau yn 'gymhleth'
Yn ôl yr RAIB, mae ymchwiliadau cychwynnol yn awgrymu fod lefel y gafael rhwng yr olwynion a'r trac yn isel, a bod y trên wedi llithro wrth geisio dod i stop.
Ychwanegon nhw fod ymchwiliadau cychwynnol hefyd yn awgrymu fod y ddamwain wedi digwydd ar gyflymder o 15mya.
Mae cofnod o'r hyn ddigwyddodd sy'n rhan o'r ymchwiliad yn dangos bod aelod o staff ar un trên wedi taro eu pen ac "o bosib wedi torri braich", tra bod gyrrwr y cerbyd arall yn gwaedu, ac yn sownd yn y cab am gyfnod wedi'r gwrthdrawiad.
Yn ystod y cwest brynhawn Mercher, dywedodd crwner cynorthwyol Ceredigion, Louisa Corcoran, fod post-mortem ar y gweill, ac felly nad oedd achos meddygol i'r farwolaeth wedi’i gofnodi eto.
Eglurodd Ms Corcoran nad oedd dyddiad cwest wedi ei benodi, ac nad ydyn nhw wedi pennu dyddiad ar gyfer gwrandawiad cyn-cwest chwaith - a hynny oherwydd "cymhlethdod" yr ymchwiliad.
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2024
Cafodd lein y Cambrian ei chau am wythnos wedi'r gwrthdrawiad, wrth i beirianwyr Network Rail geisio “dysgu gwersi ar unwaith” er mwyn atal unrhyw ddamweiniau yn y dyfodol.
Bu’r A470, y brif ffordd sy’n cysylltu gogledd a de Cymru, hefyd ar gau i’r ddau gyfeiriad rhwng Caersws a Glantwymyn am gyfnod.
Ail-agorodd lein y Cmabrian ar 28 Hydref, tra bod y ffordd wedi ail-agor tridiau ynghynt ar ôl i beirianwyr gwblhau'r gwaith o symud y ddau drên o’r safle.
Mae’r RAIB a’r Heddlu Trafnidiaeth wedi cadarnhau bod eu hymchwiliadau yn parhau.
Dywedodd teulu Mr Evans wrth BBC Cymru wedi'r gwrthdrawiad eu bod yn "ddiolchgar am yr holl negeseuon a'r gefnogaeth" ond eu bod yn gofyn am breifatrwydd.