Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio yn Y Rhyl

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i eiddo ar Ffordd Cefndy, Y Rhyl am 22:30.
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i eiddo ar Ffordd Cefndy, Y Rhyl am 22:30 nos Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn, 33 oed, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn dilyn digwyddiad yn Y Rhyl.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i eiddo ar Ffordd Cefndy, Y Rhyl am 22:30 nos Iau.

Bu farw menyw, 69 oed, ar ôl cael ei chludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Cafodd menyw, 25 oed, ei harestio ar amheuaeth o helpu’r troseddwr ond mae hi bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.

Dywedodd y Prif Arolygydd Nick Evans: "Dydyn ni ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r ymchwiliad.

"Fe fydd presenoldeb uchel o’r heddlu yn yr ardal dros y dyddiau nesaf. Hoffwn ddiolch i’r gymuned leol am eu hamynedd wrth i’n hymchwiliad barhau."

Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig