Lluniau: Cario glo o Abergwaun i Aberteifi i gefnogi elusen canser
- Cyhoeddwyd
Ar ddydd Sadwrn 3 Mai fe gariodd chwech o ferched sach 25kg o lo o Abergwaun i Aberteifi.
Fe gerddodd Cindy Rogers, Rachel Walters, Sarah Wootton, Emily Davies, Afryl Puetz ac Andrea Stinton 18 o filltiroedd gan gymryd eu tro i gario'r sach trwm er mwyn codi arian at elusen Gofal Canser Aberteifi.
Dyma flas o'u her arwrol.

Y chwe cludwr glo ar gychwyn eu taith; Cindy Rogers, Andrea Stinton, Sarah Wootton, Rachel Rees-Walters, Afryl Puetz ac Emily Davies

Cychwyn o Ganolfan Abergwaun gyda Cindy Rogers yn cario'r sach o lo am y cymal cyntaf. Daeth criw o ddynion i'w cefnogi ar hyd y ffordd hefyd

Roedd yn waith caled i gario'r glo i fyny elltydd wrth adael Abergwaun

Roedd angen nerth bon braich ar Afryl Puetz

Nid dim ond y sach o lo oedd yn drwm... roedd y bwced casglu arian at gronfa elusen Gofal Canser Aberteifi yn trymhau drwy'r dydd

Derek Buton, un fu'n cyd-gerdded ac yn cefnogi ar y diwrnod yn cael hoe tu allan i'r Golden Lion yn Trefdraeth

Amdani Sarah! Sarah Wootton yn cario'r glo heibio Pentre Ifan

Fe wnaeth Sian Owen-Jones a Hanah Jones wisgo fel hen ferched er mwyn codi gwên ac ysbryd Criw Glo. Yn ogystal â dos o hiwmor fe ddarparon nhw hefyd fflasgiau o de a choffi i'r criw

Roedd angen i Cindy Rogers a Sarah Wootton gymryd eu tro wrth gario'r glo i fyny am Felindre Farchog

O na! Allt arall!

Seibiant tu allan i Aberteifi

Rachel Rees-Walters yn croesi Pont Aberteifi ac yn cludo'r glo i fyny Grosvenor Hill

Pen y daith! Llond sach o lo'n cyrraedd stryd fawr Aberteifi

Pobl Aberteifi yn falch o weld Andrea Stinton yn cludo'r sach glo i'r Guildhall yng nghanol Aberteifi

Ar ddiwedd y daith fe wnaeth Criw Glo gyfarfod rhai o wirfoddolwyr Cardigan Cancer Care sy'n gweithio'n ddiflino er mwyn cefnogi pobl yn eu cymunedau sy'n byw gyda chanser
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd28 Ebrill
- Cyhoeddwyd21 Ebrill
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2024