'Blynyddoedd heriol tu hwnt' yn wynebu Ysgol Gymraeg Llundain

Llun o Emilia Davies mewn ystafell ddosbarth
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r athrawes arweiniol, Emilia Davies, yn poeni am y cynnydd mewn costau

  • Cyhoeddwyd

Mae rheolwyr Ysgol Gymraeg Llundain yn rhagweld fod "tair blynedd heriol tu hwnt" o'u blaenau yn sgil diffyg disgyblion.

Er bod twf wedi bod yn nifer y plant yn y cylch babanod a phlant bach, dim ond 12 disgybl sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd.

Pob mis, mae'r ysgol yn wynebu diffyg ariannol o £2,500, sy'n cyfateb i £30,000 y flwyddyn.

Yn ôl yr athrawes arweiniol, Emilia Davies, mae disgwyl i hynny barhau am y tair blynedd nesaf os na fydd disgyblion newydd yn cael eu hychwanegu at y gofrestr.

Mae apêl ar-lein wedi cael ei lansio er mwyn ceisio codi mwy o arian a denu mwy o ddisgyblion.

Llun o Ysgol Gymraeg Llundain. Mae ceir wedi parcio y tu allan.
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Ysgol Gymraeg Llundain ei sefydlu ym 1958

Am bron i 70 mlynedd mae'r ysgol wedi bod yn cynnig cartref i'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn y ddinas.

Ond ers y pandemig mae nifer y disgyblion wedi gostwng wrth i rieni symud yn ôl i Gymru.

Problem arall yw bod costau'n cynyddu.

"Ry'n ni angen yr arian er mwyn datblygu'r ysgol, i ddatblygu ein darpariaeth tu allan, a chynnal yr adeilad, a phrynu adnoddau," meddai Emilia Davies.

"Ry'n ni angen yr holl bethau yma i gynnal ysgol fywiog a llwyddiannus."

Pe bydden nhw'n llwyddo i recriwtio mwy o ddisgyblion, byddai'r diffyg ariannol yn lleihau, gan sicrhau dyfodol mwy sefydlog i'r ysgol, yn ôl Ms Davies.

"Fe fydd yr arian yn gneud gwahaniaeth enfawr," meddai.

Mae'n gobeithio hefyd "sicrhau fod y cyfle i siarad Cymraeg a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ar gael y tu allan i Gymru ac i bobl sydd yn byw yn Llundain".

"Mae'r ysgol wedi bod yma bron i 70 o flynyddoedd. Rydyn ni am sicrhau ei fod yn parhau am o leia' 70 arall," meddai.

'Grymuso ein hapêl ariannol'

Yn ôl cadeirydd llywodraethwyr yr ysgol, Glenys Roberts: "Mi fyddwn ni'n gweithio'n galed iawn hefo rhieni, ffrindiau, a chyfeillion yr ysgol i gael apêl rymus i godi mwy o arian.

"Ni'n cael cefnogaeth dda gan y gymuned yn Llundain.

"'Da ni'n cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ond fe wnawn ni rymuso ein hapêl ariannol.

"'Da ni'n griw bach ond 'da ni 'di 'neud hyn dros y blynyddoedd ac mi fyddwn ni'n parhau i wneud hyn."

Llun o Glenys Roberts mewn ystafell ddosbarth
Disgrifiad o’r llun,

"Heb amheuaeth, mae bod yn ddwyieithog yn agor drysau," meddai Glenys Roberts

Un arwydd cadarnhaol yw bod y niferoedd sy'n mynychu'r cylch chwarae, Miri Mawr, wedi cynyddu.

Mae 20 o fabanod a phlant bach i gyd, gyda nifer y teuluoedd wedi cynyddu o 5 i 15 mewn chwe mis.

Ond, bydd tair blynedd arall tan fod y criw yma yn cyrraedd oedran ysgol.

'Fel rhan fach o Gymru'

Mae'r rhieni sy'n anfon eu plant i Miri Mawr yn dweud bod yr ysgol yn werthfawr, ac mae Tomos Harris yn mynd â'i ferch fach, Eira, yno bob wythnos.

"Mae'n grêt - mae 'na wir deimlad o gymuned," meddai.

"Mae'n grêt i glywed pobl eraill yn siarad Cymraeg yn hytrach na bod hi jest yn iaith rhyngo fi a hi.

"Mae fel rhan fach o Gymru yma mewn ffordd."

Llun o blant a rhieni yn chware ar lawr dosbarth yng nghylch meithrin, Miri Mawr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tomos Harris yn falch bod ei ferch Eira yn clywed pobl eraill yn siarad Cymraeg yn Miri Mawr

Er mai dim ond 12 disgybl sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd, dim ond nifer fach yn ychwanegol fyddai eu hangen i sicrhau ei dyfodol, medd Glenys Roberts.

"Dim ond hanner dwsin o blant yn ychwanegol - tri neu bedwar o deuluoedd - sydd eu hangen arnom i gadw'r ysgol i fynd," meddai.

"Apeliwn ar y teuluoedd sydd yn Llundain - anfonwch eich plant i'r ysgol ac fe gânt addysg ardderchog a chyfleon na chânt mewn unrhyw ysgol arall yn Lloegr."