Y ffermwr ifanc sydd newydd agor amlosgfa i anifeiliaid anwes

Fe wnaeth Huw Eiddon sylweddoli bod angen arallgyfeirio i barhau i weithio ar fferm y teulu
- Cyhoeddwyd
Dydy gweld ffermwyr yn arallgyfeirio er mwyn sicrhau eu busnes ddim yn anghyffredin erbyn hyn.
Ond mae un ffermwr ifanc o Fachynlleth wedi dewis dull ychydig yn wahanol er mwyn gwneud hynny.
Mae Huw Eiddon, 22, wedi creu amlosgfa anifeiliaid anwes sy'n dychwelyd y llwch i'w teuluoedd o fewn diwrnod.
Dywedodd ei fod wedi agor yr amlosgfa oherwydd y pwysau ar ffermwyr i arallgyfeirio ac ar ôl siarad gyda phobl a milfeddygon lleol.
Ymateb yn 'anghredadwy'
Yr adborth yr oedd Huw yn ei gael oedd bod pobl yn llai tebygol o gladdu eu hanifeiliaid yn eu cartrefi a bod pryder hefyd am lwch yn cael ei golli.
Yn siarad ar y Post Prynhawn ar ôl agor yr amlosgfa ddydd Llun, dywedodd Huw: "Mae anifeiliaid anwes fel rhan o'r teulu ac mae'r oes wedi newid 'wan lle mae pobl isio llwch eu hanifeiliaid yn ôl."

Fe agorodd yr amlosgfa ddydd Llun ar ôl llawer o waith paratoi
Dywedodd bod pobl yn arfer disgwyl pythefnos am lwch eu hanifeiliaid anwes gan y milfeddyg.
Ond gyda'i fusnes newydd, bydd cwsmeriaid yn gallu ffarwelio â'u hanifeiliaid mewn ystafell bwrpasol, ac yna derbyn y llwch ar y diwrnod neu'r diwrnod nesaf.
Gall gynnig y gwasanaeth ar gyfer unrhyw anifail, o gŵn mawr i bysgod aur, ac mae'r ymateb "wedi bod yn anghredadwy", meddai.
"Mae'r milfeddygon lleol wedi bod yn lot o help i fi ac yn rhoi posteri i fyny ac os mae pobl yn mynd â'u hanifeiliaid anwes i'r milfeddygon maen nhw'n hapus i recommendio fi achos maen nhw wedi gweld y lle eu hunain."

Bydd teuluoedd yn gallu ffarwelio â'u hanifeiliaid anwes mewn ystafell bwrpasol
Dywedodd Huw ei fod wedi gorfod ystyried ffyrdd o arallgyfeirio y llynedd er mwyn gallu parhau i weithio ar fferm ei deulu.
"Nes i ddechrau'r fenter achos dwi'n gweithio ar y fferm yn llawn amser a hefo ffermio dyddiau yma mae pawb yn gorfod meddwl am arallgyfeirio.
"Dwi o hyd wedi licio anifeiliaid anwes ac o'n i'n meddwl am ffordd i gyfuno'r ddau a dyna le ddaeth y syniad o ddechrau'r amlosgfa.
"Fydd o'n help ariannol i fi wrth wneud hyn i allu aros adref ac i gario 'mlaen ffermio."